Skip to content

Ad-drefnu'r Heddlu

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart , y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Dyma'r diweddaraf i Aelodau am y cynllun i ad-drefnu'r heddlu yn sgil datganiad ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Cartref i'r Senedd ddydd Gwener diwethaf. Yn ei ddatganiad, cyhoeddodd Charles Clarke yn ffurfiol ei fwriad i uno nifer o ddalgylchoedd yr heddlu, gan gynnwys dalgylchoedd pedair heddlu Cymru.

Yn ei ddatganiad diweddaraf, dywed yr Ysgrifennydd Cartref “on the basis of the protective services assessment undertaken by HMIC and an evaluation of the financial and other aspects of the business cases submitted by the forces in December, it would be in the interests of the efficiency and effectiveness of policing for the forces in Wales to merge”.   Y mae felly wedi rhoi rhybudd ffurfiol o dan adrannau 32 a 33 Deddf Heddlu 1996 o'i fwriad i uno pedair heddlu Cymru. Yma yng Nghymru, mae gan awdurdodau'r heddlu, awdurdodau lleol, prif gwnstabliaid a Lywodraeth Cynulliad Cymru tan 2 Gorffennaf i gyflwyno'u gwrthwynebiadau i'r uno. Gan ddibynnu ar y gwrthwynebiadau a ddaw i law, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gosod y gorchmynion drafft angenrheidiol gerbron y ddau Dy yn San Steffan ym mis Gorffennaf, er mwyn sefydlu'r heddluoedd o 1 Ebrill 2007.

Bydd aelodau'n cofio fy Natganiad i'r Siambr hwn ar y pwnc ar 8 Chwefror lle esboniais y byddai angen inni gael gwybod sut y câi'r ad-drefnu ei ariannu, y bwlch lefel 2 ei bontio a'r dreth gyngor ei chysoni mewn pryd i awdurdodau'r heddlu allu penderfynu a fyddent am uno'n wirfoddol erbyn y dyddiad cau ar 24 Chwefror.  Rwy'n dal i bwyso ar yr Ysgrifennydd Cartref ar y materion hyn.

Ysgrifennais at Charles Clarke ar 1 Mawrth i fynegi fy mhryder iddo gychwyn ar y trefniadau uno ffurfiol cyn esbonio'r materion cyllidol hyn. Fe gawsom rai ffigurau wythnos ddiwethaf gan Charles Clarke ar gyllido'r ad-drefnu a chostau lefel 2. Fodd bynnag, nid ydym ni na chwaith tîm ad-drefnu'r heddlu wedi gweld yr asesiad manwl a baratowyd gan yr ymgynghorwyr ar gyfer y Swyddfa Gartref y mae'r ffigurau hyn yn seiliedig arnynt. Ni allaf ddweud felly, y naill ffordd na'r llall, a yw'r cynigion hyn yn dderbyniol. Fel rwy'n deall, nid yw gweithgor teirochrol y swyddogion, yr ydym yn aelod ohono, wedi ystyried y ffigurau hyn eto. Rwyf felly yn dal i ddisgwyl cadarnhad gan yr Ysgrifennydd Cartref na fydd costau ychwanegol yn cwympo ar ysgwyddau talwyr y dreth gyngor yng Nghymru nac ar Lywodraeth y Cynulliad.

Yn ogystal â chostau'r ad-drefnu, mater arall sydd heb ei ddatrys yw cysoni treth y cyngor.  Fel y gall yr Aelodau ei werthfawrogi, bydd y ffigurau ar y mater hwn yn newid wrth i Awdurdodau'r Heddlu bennu eu praeseptau ar gyfer 2006-07. Fodd bynnag, ar sail praeseptau newydd 2006-07, £145 fydd y praesept ar gyfartaledd yng Nghymru. Byddai cysoni'r cyfartaledd newydd hwn heb arian ychwanegol yn golygu gostyngiad i Ddyfed Powys o £150, Gwent o £152 a Gogledd Cymru o £167 ond cynnydd i Dde Cymru o £126. I Dde Cymru, byddai hynny'n golygu cynnydd yn y praesept o bron 15 y cant.  Os dyna yn wir fydd y canlyniad, byddwn yn gofyn am gael cysoni'r praesept fesul cam dros nifer o flynyddoedd.

Yn y pythefnos diwethaf, rwyf wedi cael cyfarfodydd hefyd â Phrif Gwnstabliaid a Chadeiryddion Awdurdodau'r Heddlu yng Nghymru. Yn ein trafodaethau am ad-drefnu, daeth yn amlwg imi bod y dyddiad o Ebrill 2007 ar gyfer sefydlu awdurdod strategol newydd yn uchelgeisiol iawn iawn. Mae llawer iawn o broblemau ymarferol a strategol y mae'n rhaid eu datrys er mwyn i awdurdod newydd allu gweithio'n effeithiol. Rwy'n bwriadu awgrymu wrth yr Ysgrifennydd Cartref felly ein bod yn ystyried sefydlu awdurdod cysgodol o Ebrill 2007 er mwyn inni gael 12 mis yn ychwanegol i roi'r newidiadau angenrheidiol ar waith. Os derbynnir fy awgrym, ni ddeuai'r heddlu Cymru gyfan newydd i rym tan Ebrill 2008.

Mae dal ansicrwydd mewn rhai mannau ynghylch maint yr awdurdod strategol newydd a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i esbonio'r sefyllfa. Am gyfnod pontio, bydd gan yr awdurdod newydd 43 o aelodau. Fodd bynnag, ni fyddai hynny'n helpu'r awdurdod i allu gwneud ei waith yn effeithiol dros y tymor hir, felly trwy Fesur yr Heddlu a Chyfiawnder, caiff nifer aelodau'r awdurdod ei ostwng i 33. Bydd cynrychiolwyr o bob un o'r 22 awdurdod lleol yn aelodau ohono, ynghyd ag 11 o aelodau annibynnol. Mewn rhai mannau, camddehonglwyd y bwriad hwn i ostwng nifer yr aelodau o 43 i 33 fel bwriad i ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru. Nid dyna ydyw o gwbl; nid yw ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru ar agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd canlyniad adolygiad Beecham yn ein helpu i gydweithio a chydweithredu'n fwy, yn unol ag agenda "Creu Cysylltiadau".

Cewch wybod gennyf am unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol ar ad-drefnu'r heddlu.