Skip to content

Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad yr Arolwg o Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol- Safon 2: Cyfranogiad y Defnyddwyr a’r Gofalwyr

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ym mis Hydref 2005, cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei arolwg o’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer iechyd meddwl safon 2, sy’n ymwneud â chyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn y gwaith o gynllunio a chyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl.

Fel rhan o’r arolwg, ymgynghorodd y pwyllgor â defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl a gofalwyr yn ogystal â darparwyr a chomisiynwyr gwasanaethau. Yr oedd yn arbennig o awyddus i gael tystiolaeth ar yr hyn y mae cyfranogiad ‘llawn’ a ‘dilys’ yn ei olygu i bobl ac i sefydliadau, a gofynnodd pa rwystrau sydd yna a sut y gellir goresgyn y rhwystrau hyn.

Gwnaeth y pwyllgor 12 o argymhellion ac yr wyf wedi derbyn pob un yn llwyr neu’n rhannol. Rhoddais fy ymateb manwl i bob un o’r argymhellion hyn mewn datganiad ysgrifenedig a wneuthum i Aelodau’r Cynulliad ar 6 Rhagfyr 2005.

Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am dynnu sylw at fater pwysig, sef sut orau i sicrhau y caiff pobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau iechyd meddwl eu cynnwys yn llawn yn y broses o gynllunio a chyflwyno’r gwasanaethau hynny, a sut y gallant gael llais gwirioneddol yn y broses o lunio a gwella gwasanaethau ledled Cymru.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at lawer enghraifft ardderchog o arfer da sydd eisoes ar waith ledled Cymru, a bydaf yn sicrhau y caiff yr enghreifftiau hyn eu hyrwyddo’n eang ar draws y gwasanaethau. Yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus y pwyllgor ar gyfranogiad defnyddwyr a gofalwyr, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad ‘Nerth mewn Partneriaeth’. Nod y ddogfen hon yw rhoi cyngor a gwybodaeth ar y modd i gynnwys pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl a’u gofalwyr yn effeithiol wrth ddylunio, cynllunio, cyflwyno a gwerthuso’r gwasanaethau hyn. Mae’r canllawiau’n datgan yn glir ein barn nad ymyriad unigol na darn o waith penodol yw’r broses o gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, ond ffordd lawer ehangach a phwerus o weithio, a ddylai fod yn rhan annatod o bob agwedd ar y broses o ddylunio, comisiynu a darparu gwasanaethau iechyd meddwl.

 Yr wyf yn falch fod y pwyllgor wedi cymeradwyo ‘Nerth mewn Partneriaeth’ fel dogfen gynhwysfawr ac ymarferol i ddarparwyr gwasanaethau, defnyddwyr a gofalwyr. Y mae o’r farn y bydd y broses o weithredu’r canllawiau yn gwella iechyd ac ansawdd y gofal a gaiff defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr fel ei gilydd.

Gwnaeth y pwyllgor argymhellion ynghylch gwella hyfforddiant ar gyfer gwasanaethau statudol, penodi swyddogion datblygu cyfranogiad defnyddwyr, gwelliannau mewn trefniadau cynllunio gofal, a sicrhau y caiff plant a phobl ifanc eu trin mewn amgylchedd priodol. Yr wyf finnau’n gadarn o blaid yr holl argymhellion hyn. Yr wyf wedi derbyn 10 o argymhellion y pwyllgor yn llawn ac wedi derbyn dau yn rhannol. Yn fy marn i, mae angen i swyddogion Llywodraeth y Cynulliad wneud gwaith pellach ar y ddau hynny.

Argymhelliad 10 yw y dylid cynnwys defnyddwyr gwasanaethau wrth recriwtio staff ar bob lefel. Yr wyf yn derbyn egwyddor yr argymhelliad hwn, a byddaf yn ei ystyried ymhellach yn fanwl.

Cynhaliwyd prosiect peilot llwyddiannus gan ymddiriedolaeth GIG gogledd Morgannwg ac ymddiriedolaeth GIG Pontypridd a Rhondda i ddatblygu proses o gynnwys defnyddwyr gwasanaethau wrth recriwtio nyrsys iechyd meddwl. Mae angen inni gael trafodaethau pellach gydag arbenigwyr adnoddau dynol ac ymgynghori’n ehangach cyn ystyried a ddylid gwneud hyn yn ofyniad gorfodol.

Mae argymhelliad 12 yn ymwneud â chynllun gwobrwyo i’w ystyried, a fyddai’n dathlu achosion lle mae pobl wedi llwyddo i drechu salwch meddwl ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r achosion hynny. Yr wyf wedi gofyn i isadran y Cynulliad ar wella iechyd y cyhoedd ystyried y syniad hwn yn fanwl fel rhan o’i chynllun gweithredu ehangach ar hybu iechyd meddwl sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Ers yn rhy hir, nid ywd gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru wedi cael y sylw y maent yn ei haeddu. Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddwyd tri adroddiad iechyd meddwl ar wahân wedi eu comisiynu gan Lywodraeth y Cynulliad. Yr oeddent yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer o waith i’w wneud eto i wella gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru. Yr ydym wedi ystyried y materion a godwyd yn yr adroddiadau hyn yn y fframwaith gwasanaeth a’r cynllun gweithredu cenedlaethol diwygiedig ar gyfer iechyd meddwl a gyhoeddwyd gennym ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd ym mis Hydref.

Yr oedd adolygiad sylfaenol manwl a chynhwysfawr Swyddfa Archwilio Cymru yn gweld bod cynnydd cadarnhaol mewn llawer rhan o Gymru wrth annog cyfranogiad dilys gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Fodd bynnag, yr oedd hefyd yn dangos bod y darlun ledled Cymru yn amrywio a bod angen lledaenu arfer da yn ehangach. Byddwn yn sicrhau y caiff hyn yn digwydd.

Mae defnyddwyr gwasanaethau yn arbenigwyr yn rhinwedd eu profiad eu hunain, ac mae ganddynt wybodaeth fanwl am wasanaethau iechyd meddwl ac am fyw gyda chyflwr iechyd meddwl. Waeth faint o hyfforddiant neu gymwysterau sydd gan rywun arall, ni all fod gan hwnnw neu honno yr un profiad o ddechrau salwch meddwl a’r un daith drwy’r system iechyd meddwl. Mae grwpiau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn meddu ar gorff unigryw o wybodaeth, ac mae’n bwysig i ddarparwyr a chomisiynwyr gwasanaethau ddefnyddio’r wybodaeth honno a gweithio gyda defnyddwyr a gofalwyr i ddatblygu a gwella gwasanaethau.

Mae adroddiad y pwyllgor yn gwneud cyfraniad pwysig i’n cynlluniau i godi safonau gwasanaethau iechyd meddwl, ac i roi i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl y gwasanaeth y mae ganddynt hawl iddo.