Skip to content

Rhodri Morgan,Y Brif Weinidog

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ymweliad A Thaith Masnach I Dubai Ac Abu Dhabi 13-15 Mai 2006
Uchafbwynt fy ymweliad â Dubai ac Abu Dhabi oedd fy nghyfarfod gydag Ei Uchelder Shîc Mohammed, llywodraethwr Dubai ac Is-Lywydd Ffederal a Phrif Weinidog yr Emiraethau Arabaidd Unedig (EAU).  Mae ei sefyllfa yn un anarferol ond yn helpu i ddangos strwythur ffederal yr EAU.  Mae gan bob un o’r saith sieciaeth bwerau dirprwyedig sydd wedi eu datganoli i Lywodraeth Ffederal, gan gynnwys y lluoedd arfog ac ati, ond maent hefyd yn parhau i fod yn annibynnol iawn o ran manteisio ar adnoddau a datblygu economaidd.  

Bu i Dubai, gwlad heb lawer o olew na nwy, gychwyn i lawr y llwybr hwn 20 mlynedd yn ôl gan anelu yn wreiddiol at ddod yn ganolbwynt allweddol ar gyfer trafnidiaeth, gyda phorthladd amlwytho a maes awyr, a bellach mae’n ganolbwynt ar gyfer twristiaeth a hamdden yn rhanbarth y Gwlff.  Mae gan Abu Dhabi fwy o gronfeydd olew, er nad cymaint â Kuwait, yn ogystal â’r opsiynau o ddatblygu adnoddau hydrocarbon, ac erbyn hyn mae’n arallgyfeirio i fyd twristiaeth a gwasanaethau ariannol.

Yn y cyfamser mae Dubai wedi datblygu’n gyflym, ac yn fwyaf adnabyddus ledled y byd am yr ynysoedd artiffisial Palm 1, Palm 2 a “The World”.  Mae’r datblygiadau enfawr hyn o filas, gwestai a thai bwyta yn manteisio ar y tywydd braf a geir drwy gydol y flwyddyn.  Mae’r rhain yn dilyn datblygu porthladd amlwytho enfawr, maes awyr a chwmni hedfan Emirates Airline.
I raddau mae’r EAU  yn dioddef oherwydd ei lwyddiant ei hun gyda phroblemau yn codi oherwydd bod cymaint o ddatblygu yn y rhanbarth. Mae Dubai yn esiampl o hyn.  Er mai poblogaeth o 1.5 miliwn yn unig sydd ganddo, mae ganddo 25% o graeniau tyrog y byd ar waith ar hyn o bryd yn adeiladu coedwig enfawr o flociau amrylawr o fflatiau, swyddfeydd, gwestai, marchnadfeydd siopa ac atyniadau tebyg i Disney Land.

Mae Hyder Consultancy Services, is-gwmni hen adain ymgynghori peirianyddol Dwr Cymru, yn ymddangos fe petai’n gwneud yn dda iawn yn rhanbarth y Gwlff wedi iddo ddwblu nifer y staff ers i mi ymweld â’r cwmni ddiwethaf yn 2000.

Caiff y datblygiadau enfawr hyn mewn twristiaeth eu cynnal gan lwyddiant Emirates Airlines, sy’n cludo nifer helaeth o dwristiaid i’r ardal.  Mae Emirates Airlines wedi dod yn gwsmer pwysig iawn i Airbus, ac yn wir yn un o’i brif gwsmeriaid ar gyfer yr A380,  ychydig y tu ôl i Singapore Airlines.   Mae Emirates bellach yn hedfan 92 o weithiau yr wythnos i’r DU, sef ei brif farchnad darged yn Ewrop.  Yn ystod ein cyfarfod, esboniodd Ei Uchelder Shîc Ahmed Bin Saeed Al Maktoum, Cadeirydd Emirates, ei fod yn gobeithio y bydd yn tyfu i fod yn un o gwmnïau hedfan mwya’r byd ymhen ugain mlynedd.  Mae busnes y DU yn bwysig iawn i’r EAU ac mae’n fwyfwy amlwg mai twristiaid Prydain sy’n sbarduno’r twf mewn twristiaeth yn Dubai gan eu bod yn fwy parod na thwristiaid eraill i fynd i Dubai hyd yn oed yn y misoedd poethaf rhwng mis Mai a mis Medi.   Mae’r gwres yn eithaf tanbaid yn y misoedd hyn, ond nid yw’n dychryn dim ar dwristiaid o Brydain nac yn effeithio ar y twf mewn twristiaeth o’r DU i Dubai. Mae Virgin Airlines bellach yn cystadlu yn y farchnad hefyd, ac mae maes awyr mwy (140km sgwar) yn cael ei adeiladu i ymdopi â’r twf hwn.

Er bod Abu Dhabi yn llusgo ychydig y tu ôl i Dubai gyda datblygiadau o’r fath, bydd yn dod yn wlad bwysig iawn o ran datblygu busnes.  Sefydlodd ei chwmni hedfan ei hun ychydig flynyddoedd yn ôl, sef Etihad.  Mae Etihad hefyd eisoes yn gwsmer pwysig i Airbus ac wrth gwrs mae Emirates ac Etihad, wrth ddewis rhwng Airbus a Boeing neu rhwng GE a Rolls Royce am injan i’w hawyrennau, yn gwneud penderfyniadau sydd â goblygiadau pwysig o ran cynhyrchu cyfoeth yn y DU.

Fel arfer, mae awyren Airbus neu Boeing sy’n hedfan o’r DU i Dubai yn cario 70% o dwristiaid a 30% o deithwyr busnes. 70/30 y ffordd arall yw llwyth arferol awyrennau sy’n hedfan i Abu Dhabi.

Mae llwyddiant Dubai i arallgyfeirio a chreu ffynonellau newydd o incwm arallgyfeiriol wedi eu helpu i brynu cwmnïau mawr yn Ewrop ac America, gan dynnu llawer iawn o sylw.  Yn ddiweddar bu i Dubai Ports World, cwmni sy’n perthyn i’r Teulu Brenhinol/y Wladwriaeth, brynu P&O.  Tra bo hyn wedi mynd rhagddo heb broblem yn y DU, bu iddo achosi storm yng Nghyngres UDA a’r cyfryngau.  Mae Dubai Holdings yn arwyddocaol iawn i Gymru oherwydd ei fod yn ddiweddar, fel asiantaeth daliadau gwladol ambarél, wedi prynu Doncasters o ecwiti preifat. Doncasters yw un o brif gyflenwyr Rolls Royce ac mae ganddo ffatri ofannu bwysig ym Mlaenafon.  Bu i mi drafod yr holl faterion hyn â Shîc Mohammed a phobl bwysig eraill yn Dubai.

Mae llawer o gyfleoedd i hybu twf allforion i’r ardal, gan fod y gwaith adeiladu yn peri i’r EAU fod yn brin o ddur, sment, ceblau trydan, offer adeiladu a deunydd crai o bron bob math.  Gall ychydig o hyn fod yn gysylltiedig â’r modd y maent yn asesu pris ac ansawdd ac ni fydd pawb yn ei chael hi’n hawdd gwneud lot o elw yn y dyddiau cynnar wedi iddynt gyrraedd yno.  Fodd bynnag, byddant yn canfod fod llawer iawn o gymorth ar gael gan y nifer helaeth o gwmnïau adeiladu proffesiynnol o’r DU sydd wedi hen sefydlu yno.

Ar hyn o bryd maent yn chwilio am weithwyr adeiladu proffesiynol sy’n gallu datrys eu problemau, gan fod y gwaith adeiladu yn digwydd mor gyflym.  Maent hefyd yn chwilio am reolwyr prosiect, ymgynghorwyr costau, perianwyr strwythurol a phobl i brynu deunyddiau ac ati.

Mae nifer o gyfleoedd addysg hefyd ar gael gan wasanaethau’r gwahanol ranbarthau.  Mae nifer o bobl â diddordeb mewn astudio am radd neu ddiploma yn yr iaith Saesneg ac eto, nid yw’r drysau i addysg uwch yn yr UD yr un mor agored ag oeddent bum mlynedd yn ôl ac mae cystadleuaeth chwyrn o Awstralia, Seland Newydd, Canada ac ati.

Mae nifer o deuluoedd Dubai ac Abu Dhabi yn dueddol o ystyried Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt fel y llefydd gorau i barhau â’u haddysg uwch ond mae gan Gymru enw da hefyd.

Mae’r un peth yn wir am dwristiaeth, gan fod llawer o dwristiaid yr EAU yn dewis gweld y DU drwy rentu fflat fawr yn Llundain ar gyfer tair cenhedlaeth am 4-6 wythnos yn yr haf gan fwynhau y siopau, rasus ceffylau, golff a theithiau i weld y golygfeydd.

Cyflwyno oergell ynni solar i Gymdeithas Cilgant Goch (CCG) yr EAU

Cyflwynais Oergell Ynni Solar Dulas i Ei Arddechowgrwydd Mohammed Al Suwaidi, Cadeirydd CCG yr EAU.  Cafodd yr oergell groeso teilwng ac fe’i cymerwyd o ddifrif gan uwch aelodau’r CCG, wrth iddynt fanteisio ar y cyfle i gyflwyno’u gwaith ar gymorth ddyngarol.  Mae ganddynt gyllideb enfawr i brynu nwyddau a gwasanaethau cymorth ac mae’n cael ei wario ar ychydig o ardaloedd gwledig domestig yr EAU ac ar wledydd tlotaf y rhanbarth megis Palestina, Dharfur, Yemen, Irac ac ardaloedd eraill.

Roedd hi’n amlwg fod y CCG yn bles iawn â’r rhodd ac yn edmygu’r profiad a oedd gan Dulas, sef cwmni o Gymru sy’n cynhyrchu’r system, o ran cynnig cymorth dramor.

Y ddirprwyaeth fasnach

Yn bresennol yn y ddirprwyaeth yr oedd cwmnïau o’r sectorau Ynni Adnewyddol, Biotechnoleg ac Awyrofod.

Cefais y cyfle i arwain cyfarfodydd gyda chysylltiadau allweddol yn yr EAU i hyrwyddo diddordebau’r grwp.

Dinas ‘Dubiotech’

Dyma fenter arall a lansiwyd gan Ei Uchelder Shîc Mohammed yn 2005 i ddenu cwmnïau biotechnoleg i Dubai.

Yn bresennol yn y cyfarfod yr oedd y Cyfarwyddwr Gweithredol, Ei Ardderchowgrwydd Dr Abdulqader Al Khayat a chynrychiolwyr biotechnoleg o’r ddirprwyaeth fasnach.  Roedd yn gyfle i’r ddirprwyaeth ganfod mwy am y fenter ac i’n cwmnïau ni gyflwyno’u hunain ac archwilio meysydd y gellir cyd-weithio arnynt.

Mae Dubiotech yn cynnig cyfleoedd posibl ar gyfer mewnfuddsoddi ac allfuddsoddi ac mae’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Dubai a Dubai Holdings.  Mae’r Llywodraeth yn darparu tir o fewn amgylchedd ‘di-dreth’ ac yn sefydlu cronfa cyfalaf mentro yn arbennig ar gyfer buddsoddi mewn cwmnïau a mentrau biotechnoleg newydd.  Roedd yr Athro Marc Clement o Brifysgol Abertawe a Dr Steven Fish o IGER yn bresennol fel ag yr oedd Parc Geneteg Cymru ac Excelsyn.

Bydd addysg yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad Dubiotech a gall Prifysgol Abertawe fod mewn sefyllfa dda i ddatblygu cysylltiad strategol.

Cynhadledd Ynni Adnewyddol yn Abu Dhabi

Bu i mi gyfarfod â’r Gweinidog dros yr Amglychedd, Ei Ardderchowgrwydd Mohammed Saeed Al Kindi a gyflwynodd drosolwg o gynlluniau amgylcheddol yr EAU.  Cyflwynais araith hefyd ar ein polisïau Amgylcheddol ein hunain, gan baratoi’r llwyfan ar gyfer cyflwyniadau gan bump o’r cynrychiolwyr eraill.

Roedd y gynhadledd yn llwyfan i hyrwyddo cwmnïau a sefydliadau o Gymru i gynulleidfa o gynrychiolwyr o’r sectorau preifat a chyhoeddus.