Skip to content

Prosiect Adeilad Newydd y Cynulliad – Amcangyfrif o’r Costau Alldro

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraetgh Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Fel y clywsoch yn fy Natganiad yn y Siambr yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi ymrwymo i ddarparu manylion llawnach i’r aelodau ynghylch amcangyfrif o gostau alldro Prosiect yr Adeilad Newydd.

Fe gofiwch imi amgangyfrif fod y costau alldro naill ai ychydig yn fwy neu’n llai na’r £67m a adroddwyd o’r blaen. Erbyn hyn, mae’n rhoi boddhad imi ddatgan mai’r amcangyfrif o’r costau alldro yw £65.8m (yn cynnwys TAW), ac rwy’n rhoi dadansoddiad o’r holl ffigyrau isod, yn cynnwys y ffigwr wrth gefn hyd at fwyafswm o £2m, h.y. 5% o gostau adeiladu’r prosiect.

Ers fy natganiad, rwyf ar ddeall fod Pwyllgor y Tŷ wedi penderfynu bwrw ati â Dewis Wedi’i Reoli ar gyfer y broses hirdymor o gynnal TGCh. Mae hyn yn rhoi mwy o werth am arian, ac yn golygu y bydd y cyfalaf yn gostwng ac yn symud arian i daliadau refeniw sy’n fwy hirdymor. Byddaf yn trafod goblygiadau’r drefniadaeth hon gyda Phwyllgor y Tŷ.