Skip to content

Iaith Arwyddion Prydain

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog â Chyfrifoldebau dros Gyfle Cyfartal

Cyn imi wneud fy natganiad brynhawn heddiw, a allaf ddweud pa mor falch yr oeddwn o weld dehongli Iaith Arwyddion Prydain yn ein Siambr newydd am y tro cyntaf? Mae’n ddatblygiad i’w groesawu ac yn un y dylid eich llongyfarch chi, Pwyllgor y Ty a’ch staff arno. Hoffwn hefyd groesawu’r bobl fyddar hynny sydd wedi achub ar y cyfle i ymuno â ni yn yr oriel gyhoeddus brynhawn heddiw.


Mae Iaith Arwyddion Prydain yn iaith weledol a gofodol sy’n defnyddio symudiadau’r dwylo, y corff, yr wyneb a’r pen; mae ganddi ei gramadeg, ei chystrawen, ei hidiomau a’i hamrywiadau rhanbarthol ei hun. Fel iaith gyntaf neu iaith ddewisol tua 3,000 o bobl yng Nghymru, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod BSL fel iaith ynddi ei hun. Mae gan ddinasyddion sy’n defnyddio BSL wahanol lefelau mynediad at ieithoedd mwyafrifol ein cymunedau ehangach. Mae darllen, ysgrifennu neu ddarllen gwefusau ail iaith lafar, fel Cymraeg neu Saesneg, ac efallai fod eu llythrennedd yn y rhain yn isel, yn aml yn golygu bod mynediad y dinasyddion hynny at wybodaeth yn wael.


Mae dehonglwyr proffesiynol yn hanfodol i hwyluso rhyngweithio a chyfnewid gwybodaeth yn effeithiol rhwng y rhai ohonom sydd ond yn defnyddio ieithoedd llafar, a defnyddwyr BSL. Mae’r ffaith bod dehonglwyr wrth law yn cael effaith uniongyrchol ar gynhwysiant cymdeithasol a mynediad at wasanaethau i ddinasyddion sy’n defnyddio BSL. Pan na fydd dehonglwyr ar gael, achosir problemau difrifol i unigolion. Cofnodwyd achosion lle mae defnyddwyr BSL wedi wynebu anawsterau difrifol gydag adrodd troseddau ac wedi gorfod cyfathrebu â staff iechyd mewn sefyllfaoedd amhriodol a diurddas. Mae diffyg argaeledd yn golygu bod yn rhaid i ddinasyddion sy’n defnyddio BSL aros am wythnosau weithiau i gael defnyddio dehonglydd i weld eu meddyg teulu, i drafod addysg eu plentyn gydag athro neu i gwestiynu cais cynllunio eu cymydog. Yn aml yn y sefyllfaoedd hyn, gofynnir i ddefnyddwyr BSL ddod â ffrind i ddehongli drostynt, i ymdopi drwy ddarllen gwefusau neu ddefnyddio pin a phapur i gyfathrebu mewn ail iaith. Yn y pen draw, mae’r cwbl yn golygu gwybodaeth o ansawdd gwael ac, felly, yn dadrymuso’r defnyddiwr gwasanaeth.


Ymchwiliodd grwp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan fy nghyd-aelod, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio ym Mehefin 2004, ac a gadeiriwyd gan Karen Sinclair AS, i wasanaethau dehongli BSL yng Nghymru. Un o ddarganfyddiadau’r grwp oedd bod nifer y dehonglwyr BSL-i-iaith-lafar cymwysedig yng Nghymru yn bur isel, a daeth i’r casgliad bod hyn yn cael effaith andwyol ar fynediad at wasanaethau ac ar gynhwysiant cymdeithasol i ddinasyddion sy’n defnyddio BSL. Argymhellodd adroddiad y grwp fod Llywodraeth y Cynulliad yn gweithredu i gynyddu, o 12 i 64, nifer y dehonglwyr BSL-i-iaith-lafar cymwysedig sydd ar gael yng Nghymru, fel bod mynediad yma’n cymharu’n ffafriol â’r sefyllfa mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Fel cam cyntaf i helpu i gyflawni hyn, argymhellodd y grwp fod Llywodraeth y Cynulliad yn sefydlu cynllun prentisiaeth i ddehonglwyr BSL a fyddai’n manteisio ar y modelau hyfforddi dehonglwyr sydd wedi eu datblygu yng Nghymru gyda chyllid Cymunedau yn Gyntaf a chan gronfa gymdeithasol Ewrop. Argymhellodd y dylai’r Llywodraeth gyhoeddi canllawiau i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar hybu arferion da gyda darparu dehonglwyr BSL, ac arwain drwy esiampl gyda darparu gwasanaethau dehongli BSL. Dywedasom yn ‘Creu’r Cysylltiadau’ y,
‘Dylai pob corff cyhoeddus yng Nghymru...ddatblygu’r gallu i....gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg, yn y Saesneg ac yn ieithoedd eraill y gymuned y maent yn ei gwasanaethu’.
I sicrhau y gellir cwrdd â’r ymrwymiad hwn a’n dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 o ran dinasyddion sy’n defnyddio BSL, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cymryd camau cadarnhaol i weithredu argymhellion y grwp gorchwyl a gorffen.


Ym mis Chwefror, cyhoeddais ymrwymiad cyllid gan Lywodraeth y Cynulliad o £1.6 miliwn ar gyfer Cynllun BSL Futures—y cynllun prentisiaeth dehongli BSL ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Y llynedd, gofynnais i ystod eang o sefydliadau, fel rhanddeiliaid, sefydlu partneriaeth i ddatblygu a rhedeg cynllun i hyfforddi o leiaf 30 o ddehonglwyr BSL-i-iaith-lafar. Mae’r bartneriaeth honno, wedi’i harwain gan Gymdeithas y Dehonglwyr Iaith Arwyddion, Cymdeithas Pobl Fyddar Cymru ac RNID Cymru, eisoes wedi sicrhau dros £1.1 miliwn o gyllid cyfatebol gan gronfa gymdeithasol Ewrop, yn erbyn ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad. Mae’r 10 prentis cyntaf eisoes mewn swydd ac wedi dechrau eu hyfforddiant. Cynllun BSL Futures yw’r cyntaf o’i fath yn y DU. Bydd yn darparu rhaglen hyfforddiant wedi’i theilwrio’n bwrpasol i bob dehonglydd prentis a fydd yna’n cofrestru fel dehonglwyr proffesiynol ar eu liwt eu hunain. Bydd y cynllun hefyd yn buddsoddi yng ngallu Cymru i ddysgu BSL drwy hyfforddi mwy o diwtoriaid i ddysgu BSL ar y lefelau uchaf, drwy ddatblygu darpariaeth cyrsiau BSL mewn colegau ar draws Cymru ynghyd â chwrs ôl-raddedig mewn dehongli BSL-i-iaith-lafar a thrwy gefnogi darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i wella’r capasiti i ddarparu gwasanaethau mewn BSL.


Ynghylch cyhoeddi canllawiau i gyrff cyhoeddus ar hybu arferion da a darparu dehonglwyr BSL, gallaf ddweud ein bod yn cyhoeddi cyngor drafft, ar gyfer ymgynghori, i wasanaethau cyhoeddus ar ddarparu gwasanaethau mewn BSL. Dyma’r ymgynghoriad cyntaf i fod ar gael yn iawn i ddinasyddion sy’n defnyddio BSL, ac fe’i cyhoeddir yn Gymraeg, Saesneg a BSL. Cynhelir yr ymgynghoriad dros gyfnod estynedig, a byddwn yn derbyn ymatebion a gyflwynir mewn BSL i sicrhau ein bod yn denu’r nifer fwyaf posibl o ymatebion.


Ynghylch dangos esiampl gyda darparu gwasanaethau drwy ddehonglwyr BSL, gallaf hefyd gyhoeddi bod Llywodraeth y Cynulliad wedi penodi asiantaeth i gyflenwi dehonglwyr. Mae hyn yn dilyn proses dendro agored fel bod staff yn gallu sicrhau bod pob agwedd ar ryngweithio gyda Llywodraeth y Cynulliad ar gael i ddefnyddwyr BSL. Mae gwybodaeth am sut i ddefnyddio’r gwasanaethau sy’n gysylltiedig â hyn wedi ei rhoi i staff. Felly, mae hwn yn gam mawr ymlaen gyda gweithredu argymhellion y grwp gorchwyl a gorffen a bydd yn cael effaith weladwy a chadarnhaol ar gynhwysiant cymdeithasol a mynediad at wasanaethau i ddinasyddion sy’n defnyddio BSL ledled Cymru. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-aelodau yn y Cabinet am gydnabod yr effaith y mae’r fenter hon yn ei chael ar draws y portffolios ac am gefnogi Cynllun BSL Futures. Nid lleiaf, hoffwn ddiolch i Karen Sinclair am gadeirio’r grwp sy’n goruchwylio’r gwaith hwn. Mae cynhwysiant cymdeithasol a gwasanaethau hygyrch i ddefnyddwyr BSL yn faterion cydraddoldeb eithriadol bwysig. Bydd y fenter hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dim ond un o’r ffyrdd arloesol sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol yng Nghymru ydyw.