Skip to content

Pont Hafren Yr M48

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau
Efallai bod aelodau'n cofio i Bont Hafren yr M48 ddathlu ei 40 blwyddyn fis diwethaf.  Yn gynharach eleni, penderfynodd yr Asiantaeth Priffyrdd, fel yr awdurdod priffyrdd sy'n gyfrifol am Bont Hafren yr M48, gynnal gwaith archwilio y tu mewn i'r prif geblau crog.  Bwriad y gwaith oedd sicrhau bod y Bont yn parhau i fod mewn cyflwr da, ac i weld pa waith cynnal a chadw fydd ei angen i'w cadw mewn cyflwr boddhaol yn y dyfodol.

Mae'r penderfyniad yn deillio o archwliadau o geblau crog a gynhaliwyd ar Bont Forth Road ger Caeredin yn 2004, a ddangosodd bod rhywfaint o rydu, a gwifrau wedi torri, o fewn y cebl.  Mae gan Bont Forth Road, a agorwyd yn 1964, brif geblau sydd o gynllun tebyg i rai Pont Hafren yr M48.  

Hyd yma, mae'r Asiantaeth Priffyrdd wedi agor y cebl, a'i archwilio mewn sawl man ar draws y Bont, a dangosodd hyn bod y rhydu'n waeth na'r hyn a gafwyd yn ystod gwaith tebyg ar Bont Forth.

Mae'r archwiliadau i gyflwr y ceblau i ddod i ben erbyn diwedd y flwyddyn hon. Pan fydd canlyniadau yr archwiliadau a'r asesiadau'n hysbys, bydd yr Asiantaeth Priffyrdd wedi eu hymrwymo i gymryd y camau priodol i gynnal yr adeiladwaith, gan gynnwys gwaith trwsio os oes angen.  Bydd angen cydnabod pwysigrwydd amharu cyn lleied â phosib ar ddefnyddwyr y ffordd bwysig hon.

Fel mesur rhagofalus, bydd cerbydau nwyddau trwm (dros 7.5 tunnell) yn cael eu cyfyngu i lwybr un o'r ddau gyfeiriad o fis Tachwedd 2006.  Nid oes disgwyl i hyn gael effaith sylweddol ar y traffig sy'n defnyddio'r bont o dan amodau arferol.  Nid oes angen i'r cyhoedd sy'n defnyddio'r bont bryderu o gwbl, ac rwy'n deall nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gau y bont.

Gallaf sicrhau Aelodau y bydd yr Asiantaeth Priffyrdd yn hysbysu Llywdoraeth Cynulliad Cymru o unrhyw ddatblygiadau, ac y bydd y traffig sy'n defnyddio'r bont yn cael ei amharu cyn lleied â phosib wrth benderfynu pa waith cynnal a chadw fydd ei angen yn y dyfodol i gadw'r bont mewn cyflwr boddhaol.   Mae swyddogion Trafnidiaeth Cymru yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â swyddogion yr Asiantaeth Priffyrdd fel rhan o'r broses hon.