Skip to content

Y Strategaeth Leoli: Swydda Aberystwyth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Cyhoeddais ar 15 Awst 2005 y byddai swyddfa newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y canolbarth yn cael ei lleoli ym Mharc-y-Llyn yn Aberystwyth.

Mae’r gwaith o ddod o hyd i ddyluniad a chontractwr addas wedi mynd rhagddo’n gyflym ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi, yn dilyn ymarfer caffael eang, mai cwmni Carillion fydd yn derbyn y contract yn amodol ar lunio’r contractau terfynol.

Mae dyluniad yr adeilad yn ymgorffori deunyddiau o Gymru yn y defnydd o lechen, sinc, copr a phren ar y tu allan.  Mae lle ar gyfer 7600 metr sgwâr o swyddfeydd agored yn bennaf.  Bydd yr adeilad yn cyrraedd safon uchel o ran adeiladu cynaliadwy ac yn bodloni safonau rhagoriaeth BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu).  Bydd yn cael ei awyru’n naturiol ar y cyfan a’r ynni’n cael ei ddarparu drwy amrywiol ddulliau cynaliadwy ac adnewyddadwy i leihau’r nwyon CO2  sy’n cael eu gollwng o’r adeilad. Mae’r dulliau’n cynnwys bio-màs, tyrbinau gwynt, rheiddiaduron dŵr solar a chasglu dŵr glaw.

Mae’n debygol y bydd cais cynllunio’n cael ei gyflwyno oddeutu dechrau’r gwanwyn y flwyddyn nesaf ac os yw’n llwyddiannus rydym yn rhagweld y bydd y gwaith adeiladu’n dechrau’n fuan wedi hynny ac yn cymryd oddeutu 68 wythnos.

Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen tuag at symud mwy o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu’n uniongyrchol gan Adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn nes at y cymunedau.  Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd da o ran gyrfaoedd i’r gweithlu yn eu hardaloedd lleol ac yn adlewyrchu amrywiaeth dinasyddion Cymru yn well.