Skip to content

Closure of Dairy Gold

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad (Carwyn Jones): Yr oeddwn yn siomedig o glywed ddoe am benderfyniad Dairygold i gau ei ffatri pacio caws yn Felinfach. Bydd Aelodau yn cofio, ym mis Tachwedd, pan gyhoeddodd y cwmni ei benderfyniad i ymgynghori â staff ynghylch dyfodol y ffatri, imi deithio ar unwaith i Felinfach i gwrdd ag uwch reolwyr y cwmni i siarad â’r staff yr effeithiwyd arnynt. Yr oeddwn yn awyddus i’w sicrhau y byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i phartneriaid yn gwneud popeth posibl i’w cefnogi os byddai cau’r ffatri’n anochel.


Yn anffodus, penderfynodd uwch reolwyr Dairygold, oherwydd gor-gynhyrchu yn y diwydiant pacio caws a chystadleuaeth ffyrnig, y byddai’n rhaid cau’r ffatri am resymau yn ymwneud â dichonoldeb y busnes. Wrth ragweld y penderfyniad hwn mae fy swyddogion wedi cadw mewn cysylltiad agos â’r cwmni ac maent wedi mabwysiadu ymagwedd Tîm Cymru tuag at y penderfyniad i gau. Cynhaliwyd cyfarfod y bore yma rhwng y rheolwyr, Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Byd Gwaith a Dysgu ac Addysgu Cymru, ac asiantaethau eraill, i ddarparu pa bynnag gymorth a chyngor y gallant i’r staff sy’n wynebu diswyddiadau.


Deallaf yr effeithir ar oddeutu 110 o gyflogeion, ond bod tua 25 o’r rhain eisoes wedi dod o hyd i swyddi eraill. Mae negodiadau’n parhau gyda chwmni sydd wedi dangos diddordeb yn y posibilrwydd o brynu’r safle. Yr wyf wedi cwrdd â’r cwmni hwn i drafod y busnes posibl, a ffordd bosibl o symud ymlaen. Os bydd y prosiect hwn yn mynd yn ei flaen, gall greu o leiaf 50 o swyddi.


Mae Dairygold wedi derbyn grant o dros £660,000 yn y gorffennol. Byddwn yn ymdrechu i adfachu arian yn ôl oddi ar y cwmni, ac yr ydym yn aros i glywed beth fydd ei gynigion. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i roi syniad o’r union adfachiad, na maint yr adfachiad.