Alun Pugh, Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Nid oes dim dwywaith nad oes llawer i’w ddathlu ym myd dawns yng Nghymru. Mae adolygiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon o ddawns yng Nghymru, a arweiniwyd yn ddifai gan Rosemary Butler, yn adrodd stori dda. Mae rhwydwaith dawns gymunedol ar waith gyda saith sefydliad yn weithgar dros ran helaeth o’r genedl. O fewn y gyfundrefn addysg, mae dawns yn rhan statudol o’n cwricwlwm cenedlaethol. Mae dawnswyr ifainc o Gymru’n gwneud enw iddynt eu hunain, yn enwedig mewn dawns gyfoes. Mae ein Canolfan Mileniwm Cymru newydd wedi cyflwyno perfformiadau o’r radd flaenaf gan gwmnïau bale Kirov ac Awstralia, a gwaith herfeiddiol gan Mark Morris, i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Gallwn ymfalchïo hefyd mewn cwmnïau dawns difyr a chyffrous megis Earthfall ac India Dance Wales, yn ogystal â rhagoriaeth genedlaethol gan Diversions, sydd â’u cartref yng Nghanolfan y Mileniwm gyda’i labordy creadigol pwrpasol, o safon ryngwladol, ar gyfer dawns. Mae gan Gymru ddau gwmni bale safonol hefyd: Independent Ballet Wales a Ballet Russe. Dylem sicrhau eu bod hwythau’n ffynnu hefyd.
Cydnabu adroddiad y pwyllgor hyn i gyd, ac edrychodd ar ddyfodol dawns yn gyffredinol. Daeth y pwyllgor i’r casgliad bod y dyfodol yn dibynnu ar gyfarwyddyd strategol hirdymor, gyda’r adnoddau angenrheidiol i’w weithredu. Cyhoeddwyd datganiad y Cabinet ar adroddiad y pwyllgor yr wythnos diwethaf. Dywedais bryd hynny fod arnaf eisiau ymateb yn gadarnhaol i gasgliadau ac argymhellion yr adroddiad.
Yn gyntaf, yr wyf am sicrhau y caiff dawns ei phlannu’n gadarn ym mholisi diwylliant newydd Llywodraeth y Cynulliad. Bydd hyn ar ben y gydnabyddiaeth a gaiff eisoes yn fy strategaeth chwaraeon a gweithgaredd corfforol, ‘Dringo’n Uwch’. Mae’r cynnydd mawr yn ein buddsoddiad mewn chwaraeon, sydd yn codi i fwy na dwbl, sef £24 miliwn erbyn 2007-08, eisoes wedi’i ategu gan fuddsoddiad sylweddol mewn dawns. Mae ein Cyngor Celfyddydau Cymru’n sianelu mwy nag £1.1 miliwn bob blwyddyn o arian cyhoeddus i sefydliadau dawns. Fodd bynnag, dim ond pig y mynydd rhew yw hynny, oherwydd ategir y refeniw hwn gan lawer o ffynonellau eraill, gan gynnwys arian loteri sydd wedi’i dargedu’n benodol at ddawns, sef rhyw £650,000 yn 2004-05.
Mae ‘Dringo’n Uwch’, sy’n cefnogi agenda Her Iechyd Cymru, yn gosod targedau heriol ar gyfer cynyddu lefelau cyfranogiad oedolion a phlant mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol. Mae dawns yn adeiladu cydbwysedd a chydsymud. Gall ddarparu ymarfer cardiofasgwlaidd rhagorol, a byddai cymhareb nerth-i-bwysau dawnsiwr proffesiynol yn codi cywilydd ar lawer i chwaraewr rygbi. Mae gan ddatblygiad cyfleoedd i gyfranogi mewn dawns yn y gymuned a’r ysgol ran hollbwysig i’w chwarae i gyfrannu at gyrraedd y targedau hynny. Mae’r Llywodraeth yn disgwyl i Gyngor y Celfyddydau gydweithio’n agos gyda Chyngor Chwaraeon Cymru i ddatblygu cyfranogiad mewn dawns i gyfrannu at y targedau gweithgaredd corfforol a osodir yn ‘Dringo’n Uwch’.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn rhannu barn y pwyllgor fod angen strategaeth ar gyfer dawns yng Nghymru. Dyna pam y rhoddais y dasg o’i datblygu i Gyngor y Celfyddydau yn ôl yn Chwefror 2005, gan roi ystyriaeth i argymhellion adolygiad y pwyllgor. Edrychaf ymlaen at weld y strategaeth ddrafft cyn iddi gael ei lansio yng nghynhadledd genedlaethol cyngor y celfyddydau ym Mai. Bydd y strategaeth yn datblygu’r amrediad a’r dehongliad ehangaf bosibl o weithgareddau dawns fel modd o gael mwy o bobl i gyfranogi mewn gweithgaredd corfforol, yn enwedig yn yr ardaloedd difreintiedig lle nad oes llawer o gyfranogi.
Yr wyf yn falch hefyd fod y cyngor wedi sefydlu rhwydwaith o fforymau dawns rhanbarthol, y bydd yn eu tynnu at ei gilydd i ffurfio fforwm dawns cenedlaethol. Yr ydym hefyd yn cefnogi argymhelliad y pwyllgor dros adolygiad ar-wahân o hyfforddiant dawns, a nodwn fod goblygiadau yma o ran adnoddau. Bydd cyngor y celfyddydau’n cynnwys hyfforddiant yn y strategaeth ddawns newydd, a chyfrannodd Hyfforddiant Celfyddydau Cymru’n sylweddol at y sylfaen dystiolaeth am hyfforddiant dawns yn ei ymchwil yn 2003.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn y dylid darparu rhywfaint o adnoddau ychwanegol ar gyfer dawns. Dyna pam, yn y llythyr at Gyngor y Celfyddydau’n amlinellu cylch gwaith 2006, y darparais £125,00 y flwyddyn yn ychwanegol yng nghyswllt adroddiadau’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon ar ddawns, ac ar y celfyddydau mewn adfywiad cymunedol. Byddwn yn cydweithio’n agos gyda’r cyngor ar ddatblygu dawns yng nghyd-destun y strategaeth ddawns newydd. Disgwyliaf i’r cyngor reoli ei gleientiaid refeniw’n effeithiol i sicrhau bod cyflwyniad targedol ac effeithiol yn cyrraedd pob rhan o Gymru.
Mae dawns yn rhan annatod o’n cwricwlwm cenedlaethol i bob disgybl hyd at 11 oed gyda chefnogaeth ymarferol ychwanegol i ysgolion yn cael ei darparu drwy fenter addysg gorfforol a chwaraeon ysgol y Cynulliad. Mae’r Cynulliad wedi sicrhau bod rhyw £5 miliwn ar gael i Gyngor Chwaraeon Cymru i gefnogi gweithrediad y fenter, gan ganolbwyntio ar ffurfio partneriaethau effeithiol rhwng ysgolion a’r sector dawns i wella’r amrediad o gyfleoedd a ddarperir i bobl ifanc a hefyd ansawdd y ddarpariaeth.
Mae mwy na 2,000 o athrawon ac ymarferwyr eisoes wedi cael hyfforddiant, llawer ohono wedi’i roi mewn partneriaeth â chwmnïau dawns cymunedol. Yr ydym wedi ymrwymo i adeiladu ar hyn ac yn enwedig i ddarparu cyfleoedd ehangach ar gyfer dawns fel un elfen yn unig o addysg 14-19. Gwahoddir Cyngor Celfyddydau Cymru i sefydlu is-grwp o’r fforwm dawns i sicrhau bod datblygiad dawns mewn addysg yn gydnaws â’r strategaeth ar gyfer dawns, ac i sicrhau bod partneriaethau cadarn ac effeithiol wedi’u sefydlu ar bob lefel. Gwaith yr is-grwp ar y dechrau fydd rhoi cyngor ar waith pellach fel rhan o’r fenter addysg gorfforol a chwaraeon ysgol a ‘Llwybrau Dysgu 14-19’, gan gynnwys datblygu prentisiaethau priodol.
Heb amheuaeth, mae llawer wedi’i wneud. Mae cyfoeth o ymarfer da yng Nghymru ar lefel gymunedol, lefel genedlaethol ac mewn gwaith herfeiddiol arloesol. Mae llawer i’w wneud o hyd, wrth gwrs, ac mae Llywodraeth y Cynulliad yn croesawu adroddiad y pwyllgor diwylliant fel cyfraniad pwysig at ddyfodol dawns yng Nghymru.