Skip to content

Yr A5 Rhwng Ty Nant A Dinmael

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidiog Dros Fenter, Arloesi A Rhwydweithiau
Dydd Gwener diwethaf, sef 9 Mehefin 2006, cyrhaeddwyd cytundeb gyda phob perchennog tir er mwyn cael mynediad at y tir angenrheidiol i weithio ar wyneb y graig yn ogystal â’r hen A5.

Bydd y gwaith ar yr A5 newydd, a allai gymryd hyd at chwe mis neu fwy gan ddibynnu ar amodau’r safle, yn cychwyn pythefnos wedi penodi contractiwr, ac mae disgwyl i hynny ddigwydd wythnos nesaf.

Fodd bynnag, yn y cyfamser bydd gwaith sydd ar ôl i’w wneud yn cael ei wneud ar frys er mwyn hwyluso’r broses o agor yr hen A5 gan ddefnyddio signalau traffig a chyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell.  Bydd yr ail agor yn ddibynnol ar archwiliad trylwyr o’r hen waliau cynnal sydd ar hyd y ffordd. Fodd bynnag, os bydd cyflwr y waliau’n dderbyniol, disgwylir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau a’r ffordd yn ail agor erbyn dydd Gwener, 16 Mehefin.

Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol, busnesau a chynrychiolwyr o’r diwydiant twristiaeth er mwyn lleihau unrhyw effeithiau andwyol.