Skip to content

Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Hyrwyddwr Gofalwyr Llywodraeth y Cynulliad
Rwy'n cyhoeddi heddiw fod John Griffiths, Y Dirprwy Weinidog â Chyfrifoldeb am Bobl Hyn, yn cael ei benodi'n ffurfiol fel Hyrwyddwr Gofalwyr Llywodraeth y Cynulliad. Fel rhan o'i rôl, bydd John yn gyfrifol am wneud yn siwr bod materion trawsbynciol sy'n ymwneud â gofalwyr yn cael eu cydlynnu'n effeithiol ac am oruchwylio'r gwaith o ddatblygu a darparu fersiwn ddiwygiedig a newydd ei gogwydd o Strategaeth Gofalwyr Cymru.

Mae'r Strategaeth Gofalwyr gyfredol a gyflwynwyd yn 2000 yn ymdrin ag ystod o swyddogaethau'r Cynulliad a chafodd ei llofnodi gan yr Ysgrifenyddion bryd hynny dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg a Phlant, Addysg a Hyfforddiant a'r Amgylchedd a Llywodraeth Leol.

Rydym wrthi'n adolygu'r Strategaeth i wneud yn siwr ei bod yn ystyrlon ac yn briodol ei ffocws, hynny i adlewyrchu'r polisïau sydd wedi'u datblygu dros y blynyddoedd diwethaf a chyfeiriad y polisïau strategol y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi'u mabwysiadu ar gyfer y dyfodol, er enghraifft  Cynllun Oes. Bwriedir lansio'r strategaeth ddiwygiedig at bwrpas ymgynghori yn yr Hydref.  Bydd yn pwysleisio'r angen ar awdurdodau statudol i gydweithio'n effeithiol â gofalwyr fel partneriaid wrth ddarparu gofal a sicrhau bod gofalwyr yn cael yr help a'r gefnogaeth briodol i'w cynnal yn eu rôl a'u helpu i wireddu unrhyw uchelgais o ran addysg, hyfforddiant neu waith allai fod ganddynt. Bydd yn pwysleisio hefyd bod angen i asiantaethau ddatblygu a gweithredu polisïau sy'n cefnogi gofalwyr, hynny fel cyflogwyr a hefyd trwy bwyso a mesur eu polisïau a'u harferion gwaith i asesu'u heffaith ar ofalwyr a'u newid lle bo angen. Y fi sydd yn dal â'r cyfrifoldeb o ran polisi am ddatblygu a gweithredu'r Strategaeth.

Yn erbyn y cefndir hwn, mae Panel Adolygu Strategaeth y Gofalwyr wedi argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn penodi Hyrwyddwr Gofalwyr ar lefel Gweinidog neu Ddirprwy Weinidog. Rwy'n falch o gael dweud bod Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno â'r argymhelliad hwn a fydd yn anfon neges glir a chryf at gyrff eraill yng Nghymru am y flaenoriaeth a'r pwysigrwydd y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu rhoi i waith ofalwyr.