Croesawaf yr adroddiad hwn a’r cyfle i drafod pwnc pwysig iawn mewn Cyfarfod Llawn, sef yr hyn yr ydym yn ei wneud i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Gan droi at yr adroddiad ei hun, hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad i’r gwaith caled a wnaed gan gyn-aelodau ac aelodau presennol y Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio wrth gasglu’r dystiolaeth a chyflwyno’r canfyddiadau. Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch yn ffurfiol i Roger Chaffey, cyn glerc y pwyllgor, a ymddeolodd yr wythnos diwethaf, am ei holl waith caled yn hyn o beth. Mae’n bleser gennyf allu derbyn bron bob un o’r argymhellion yn yr adroddiad. Credaf fod hyn yn arwydd clir fod fy safbwyntiau o ran yr hyn sydd angen ei wneud er mwyn gweithredu ein strategaeth camddefnyddio sylweddau yng Nghymru nid yn unig yn unol â safbwyntiau’r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, ond, yn bwysicach fyth, â safbwyntiau ein partneriaid a’n rhanddeiliaid a gyflwynodd dystiolaeth yn ystod yr adolygiad. Mae sicrhau consensws ar y materion yn holl bwysig wrth fynd i’r afael ag unrhyw agenda, ond, i agenda mor gymhleth â chamddefnyddio sylweddau, mae’n hanfodol i’w llwyddiant.
Wrth dderbyn yr argymhellion, mae’n bleser gennyf fy mod wedi gallu nodi bod y gwaith i weithredu llawer ohonynt eisoes yn mynd rhagddo, ac mewn rhai achosion, wedi’i gwblhau. Mae hyn yn rhannol yn adlewyrchu’r ffaith y bu oedi wrth gynhyrchu’r adroddiad hwn, fel y cydnabu Cadeirydd y pwyllgor yn y ddadl ym mis Ebrill, o ganlyniad i’r gwaith brys y bu’n rhaid i’r pwyllgor ymgymryd ag ef mewn perthynas ag ailstrwythuro’r heddlu. O ganlyniad i’r oedi, mae peth o’r dystiolaeth a ddefnyddiwyd wrth lunio’r adroddiad wedi dyddio bron i ddwy flynedd ac felly, ni allai adlewyrchu datblygiadau diweddar. Mae hefyd yn adlewyrchu cyflymder ein hymdrech i weithredu’r strategaeth camddefnyddio sylweddau a’r flaenoriaeth a roddais i’r rhan hon o’m portffolio. Er mwyn gosod yr argymhellion a’m hymateb iddynt yn eu cyd-destun, credaf y gallai fod yn ddefnyddiol imi amlinellu’n gryno iawn y pum blaenoriaeth allweddol a osodais ar gyfer gweithredu’r strategaeth pan dderbyniais gyfrifoldeb dros yr agenda hon a’n hynt gyda phob un ohonynt.
Y sylfaen hollbwysig oedd rhoi ar waith strwythurau cyflawni lleol effeithiol i’r strategaeth genedlaethol. Mae cynnwys partneriaethau diogelwch cymunedol wedi golygu bod gennym gynlluniau gweithredu lleol ar waith ym mhob un o’r 22 o ardaloedd yng Nghymru, sydd, yn ei dro, yn golygu yr eir i’r afael â blaenoriaethau ac anghenion lleol am y tro cyntaf. Yn amlwg, yr oedd yn hanfodol mynd i’r afael â’r tangyllido sylweddol mewn gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Erbyn 2007-08, byddaf wedi cynyddu’r gyllideb flynyddol ar gyfer cronfa weithredu camddefnyddio sylweddau dros 600 y cant. Yr wyf hefyd wedi sicrhau bod partneriaid yn cael lleiafswm cyllidebau dangosol a fydd yn ymestyn dros dair blynedd, er mwyn iddynt allu cynllunio ar gyfer yr hirdymor a chadw staff. Y llynedd sefydlais gronfa datblygu cyfalaf hefyd i ddechrau mynd i’r afael â’r diffyg buddsoddiad mewn adeiladau ac ati dros y blynyddoedd.
Bu datblygu canllawiau polisi cynhwysfawr yn hanfodol hefyd, gan gynnwys fersiwn Cymreig o ‘Models of Care’. Mae’r gwaith o ddatblygu’r gwahanol fodelau o fframweithiau trin camddefnyddio sylweddau yng Nghymru yn mynd rhagddo’n dda. Dros amser, bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pawb yn cael yr un gwasanaethau triniaeth o’r un safon ledled Cymru, fel na fydd loteri cod post. Yr ydym yn sicrhau bod y canllawiau hyn yn dod yn rhan annatod o ddiwylliannau lleol drwy raglen gweithredu a hyfforddi gynhwysfawr ar gyfer modelau allweddol, megis y model ar gyfer comisiynu gwasanaethau.
Yn amlwg, ni allem gynyddu gwasanaethau heb gefnogi a datblygu gweithlu medrus. Cwblhawyd dadansoddiad o anghenion hyfforddi’r gweithlu ac yr ydym wrthi’n rhoi rhaglen ar waith i fynd i’r afael â’r anghenion hynny fel rhan o’r broses o roi’r safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer cyffuriau ac alcohol ar waith. Yr ydym hefyd yn cefnogi datblygiad staff, drwy setiau dysgu gweithredol, cynadleddau ac ati.
Yn olaf, mae rhoi systemau ar waith fel y gallwn fonitro ac adolygu’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad wedi bod yn rhan hollbwysig o’n gwaith. Gellir yn awr fwydo’r wybodaeth hon i mewn i’r broses o ddatblygu polisïau cenedlaethol a lleol a gwneud penderfyniadau ar ddyrannu cyllid. Am y tro cyntaf, mae gennym wybodaeth fanwl am bobl sy’n cael triniaeth neu sy’n aros i gael triniaeth, a chyn bo hir byddwn yn gallu mesur newidiadau yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt. Credaf ein bod wedi cyflawni gryn dipyn o ran yr agenda hon drwy ymgysylltu â’n partneriaid a’n rhanddeiliaid a chydweithio â hwy. Bu eu hymrwymiad yn hollbwysig i’n cyflawniadau allweddol, megis creu dros 3,500 o leoedd triniaeth ychwanegol ar gyfer pobl sy’n camddefnyddio sylweddau a lleihau amseroedd aros mewn sawl ardal. Gellir ystyried y gwelliannau o ran asesu anghenion lleol a chomisiynu gwasanaethau’n lleol yn enghreifftiau o arfer gorau o’r ffordd y credwn y bydd ‘Creu’r Cysylltiadau’ yn gwneud gwahaniaeth.
Fodd bynnag, erys llawer i’w wneud o hyd. Fy nod yn y pen daw yw bod unigolion yn gallu cael y gwasanaethau a ddymunant cyn gynted ag y dymunant. Mae tipyn o ffordd i fynd cyn y byddwn yn cyflawni hyn, yn enwedig o ran plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, gwyddom oll mai dim ond rhan o’r ateb yn yr agenda hon yw darparu gwasanaethau triniaeth. Wynebwn her fawr hefyd o ran atal niwed a dysgu pobl i beidio â mynd yn ddibynnol ar gyffuriau ac alcohol yn y lle cyntaf. Rhaid inni hefyd barhau â’n gwaith i sicrhau bod teuluoedd pobl sy’n camddefnyddio sylweddau, yn enwedig plant, yn cael eu nodi a’u bod yn cael mwy o gymorth. Yn olaf, ond nid y lleiaf, rhaid inni barhau i herio’r rhai sy’n gwrthwynebu'r hyn yr ydym yn ei wneud drwy wrthod cefnogi’r ddarpariaeth o wasanaethau lleol. Mae angen iddynt sylweddoli pa mor ffodus ydynt nad yw eu teulu hwythau wedi dioddef oherwydd camddefnyddio sylweddau yn hytrach na stigmateiddio’r rhai sydd wedi dioddef.
Yr ydym ar fin adolygu’r strategaeth genedlaethol bresennol ar gamddefnyddio sylweddau a pharatoi ar gyfer un newydd. Bydd yr adroddiad hwn, a’r dystiolaeth a gyflwynwyd tra yr oedd yn cael ei baratoi, yn rhoi gwybodaeth hollbwysig i’n cynorthwyo gyda’r broses honno. Hoffwn ddiolch i’r pwyllgor unwaith eto am ei gymorth wrth fynd i’r afael â’r agenda hon.