Skip to content

Rheilffordd Glyn Ebwy

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog Dros Fenter, Arloesi A Rhwydweithiau

Bwriad y Datganiad hwn yw pennu amserlen ar gyfer y prosiect hwn.

Bydd Rheilffordd Teithwyr Glyn Ebwy yn cael ei chwblhau yn ystod haf 2007. Bydd y Prosiect yn darparu’r hyn a nodwyd pan y cafodd ei gomisiynu, sef:

  • Gwasanaeth trên bob awr rhwng Parkway Glyn Ebwy a Chaerdydd.
  • 6 gorsaf newydd yn Parkway Glyn Ebwy, Llanhiledd, Trecelyn, Cross Keys, Rhisga a Tŷ-du.

Cost y cynllun fydd £28.6 miliwn (yn cynrychioli buddsoddiad o £21.6 miliwn gan Lywodraeth y Cynulliad a £7.5 miliwn o gyllid Adfywio Corus ac Amcan 1).

Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn ariannu cost rheolaidd gweithwyr trenau a cherbydau i weithredu’r gwasanaeth trên bob awr yn ôl ac ymlaen i Gaerdydd. Trenau Arriva Cymru fydd yn cynnal y gwasanaeth.

Nid yw darparu gwasanaeth trên i Gasnewydd yn un o’r amcanion a nodwyd yn y prosiect presennol sydd i’w gwblhau yn ystod haf 2007.

Nid oes digon o gapasiti ar hyn o bryd ar seilwaith y Rhwydwaith Rheilffyrdd i ddarparu gwasanaeth trên i deithwyr i Gasnewydd – mae hyn oherwydd cynllun y cysylltiad rhwng Rheilffordd Glyn Ebwy a Phrif Reilffordd De Cymru yng Nghyffordd Caer, ar ochr orllewinol Twnel Rheilffordd Casnewydd.

Y cyfle cyntaf i gael gwared o’r cyfyngiad hwn ar gapasiti fydd yn 2009, pan fydd y Rhwydwaith Rheilffyrdd yn cwblhau’r gwaith o ailosod signalau ar y Prif Reilffordd yng Nghasnewydd. Bydd angen i’r Rhwydwaith Rheilffyrdd osod mannau croesi newydd er mwyn cael gwared o’r cyfyngiad hwn ar gapasiti. Bydd angen cyllid allanol ar y Rhwydwaith Rheilffyrdd ar gyfer y mannau croesi newydd, gan ei fod yn cael ei ystyried fel gwelliant yn hytrach na phroses adnewyddu raddol gan y wladwriaeth.

Gan ysytyried hyn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gofyn i’r Rhwydwaith Rheilffyrdd ddarparu costau manwl o’r gwaith sydd ei angen, er nad oes ymrwymiad ar hyn o bryd gan Lywodraeth y Cynulliad i ariannu’r gwaith gwella.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo arian ar gyfer gwasanaeth bysiau rhwng Gorsaf Tŷ-du a Gorsaf a Chanolfan Siopa Casnewydd pan fydd y gwasanaeth rhwng Glyn Ebwy a Chaerdydd yn dechrau yn 2007.