Skip to content

Dechrau`n Deg a`r Rhaglen Rhagori

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Yn ddiweddar, cyflwynodd Llywodraeth y Cynulliad ddwy raglen grant newydd sy'n canolbwyntio ar wella'r cyfleoedd y caiff plant a phobl ifanc difreintiedig mewn bywyd. Hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd fel pob plentyn a pherson ifanc arall, a’u bod yn cael cyfle i wireddu eu potensial trwy eu haddysg.  

Rhwng mis Rhagfyr 2005 a mis Chwefror 2006, bûm yn ymgynghori ar y fenter Dechrau'n Deg.  Bydd yn ariannu gwasanaethau o safon uchel i blant 0-3 oed yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gan gynnwys mwy o ymweliadau gan weithwyr iechyd, gofal plant o ansawdd uchel am ddim ar gyfer plant 2 oed, rhaglenni sgiliau sylfaenol a chyrsiau rhianta.  Bydd £15 miliwn yn cael ei ddyrannu i'r awdurdodau lleol yn 2006-07 a £31 miliwn yn 2007-08.  Mae pob agwedd ar y fenter yn seiliedig ar dystiolaeth ryngwladol o'r hyn sy’n gweithio wrth fynd ati i newid yn sylweddol y rhagolygon ar gyfer y plant hyn a'u teuluoedd.  

Ceir crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad yn Atodiad A i'r datganiad hwn. Roedd y rheini a ymatebodd yn cytunwo’n gryf y dylai'r rhaglen gael ei harwain gan bartneriaid lleol, ac yn cytuno’n gyffredinol hefyd y dylai ganolbwyntio ar ardaloedd arbennig - a ddiffiniwyd fel dalgylchoedd ysgolion. Roedd nifer o'r ymatebwyr yn credu'n gryf y dylai'r rhaglen adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gan y fenter Cychwyn Cadarn. Gallaf gadarnhau bod ein canllawiau yn cefnogi hyn, gan fod Cychwyn Cadarn eisoes yn cyflawni rai o addewidion Dechrau'n Deg.

Fodd bynnag, mynegwyd pryder ynghylch y cynnig y dylai cyllid gael ei ddyrannu yn ôl nifer y plant yn yr ysgolion hynny ym mhob awdurdod lleol lle mae mwy na 45% yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim.  Yr hyn a oedd yn peri'r pryder mwyaf oedd y byddai’r rhai a fyddai’n cael ygrantiau o dan yr oedran ysgol statudol ac nad oedd rhai o'r dalgylchoedd yn cyd-fynd â'r ardaloedd targed ar gyfer grant o’r gronfa Cymorth, tra bod Dechrau'n Deg yn dibynnu ar rywfaint o’r gwariant a gefnogir gan Cymorth i sicrhau'r lefel ofynnol o ymyrraeth.

Ar ôl trafod y mater gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rwyf wedi penderfynu dyrannu'r grant mewn ffordd wahanol. Bydd gan y partneriaethau lleol y disgresiwn i ddewis y dalgylchoedd ar gyfer Dechrau'n Deg. Fodd bynnag, bydd cap cyffredinol ar nifer y plant a dargedir ym mhob awdurdod lleol fel bod y grant yn cael ei ddefnyddio yn yr ardaloedd hynny lle mae ei angen fwyaf a lle y gall wneud gwahaniaeth go iawn. Bydd angen i bob Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc gyfiawnhau'r ardaloedd y mae wedi'u dewis i gael grant Dechrau'n Deg trwy gyfeirio’n benodol at y mynegai amddifadedd lluosog, hawl disgyblion i gael prydau ysgol am ddim a'r berthynas rhyngddynt â wardiau Cymunedau yn Gyntaf.

Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu i'r awdurdodau lleol gan ddefnyddio'r un fformiwla â'r un a ddefnyddir ar gyfer grant Cymorth. Mae’n seiliedig yn bennaf ar fudd-daliadau, ac felly mae cysylltiad cryf rhyngddo ag amddifadedd.  Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o blaid y dull hwn.
Ein bwriad yw sicrhau bod Dechrau'n Deg yn parhau i fod yn grant penodol wedi'i neilltuo i'r awdurdodau lleol tan fis Ebrill 2011 o leiaf. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi cyfle i'r awdurdodau lleol a'u partneriaid fynd ati i recriwtio a chadw staff da i gynnal y rhaglen.

Er y bydd gan ysgolion ran i'w chwarae wrth weithredu rhaglen Dechrau'n Deg ac wrth ei chysylltu â’r broses o drosglwyddo plant i'r cyfnod sylfaen, nid ysgolion sy’n ei darparu. Ar y llaw arall, mae rhaglen Rhagori’n cael ei gweithredu’n bennaf gan ysgolion.  

Roeddwn yn hynod falch bod fy nghydweithwyr yn y Cabinet wedi cytuno y dylai £16 miliwn gael ei ddefnyddio i wella canlyniadau addysgol disgyblion sy'n tangyflawni, yn enwedig os ydynt dan anfantais. Cafwyd £13 miliwn yn ychwanegol yn sgil datganiad y Canghellor ar y gyllideb, ac roedd £3 miliwn eisoes yn y gyllideb ar gyfer Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau o 2006-07 ymlaen.

Yn yr un modd â chyda’r grant Dechrau'n Deg, mae’r dystiolaeth sy’n sail ir rhaglen Rhagori yn dangos bod yn rhaid canolbwyntio ar yr ysgolion hynny lle mae’r lefelau uchaf o amddifadedd er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn. Yn seiliedig ar y data o gyfrifiad ysgolion 2006, caiff £14,602,140 ei ddyrannu i 548 o ysgolion lle mae 20% neu fwy o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a lle mae mwy na 50 o ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol ar y gofrestr.

Ceir yn Atodiad B restr o'r ysgolion a ychwanegwyd o ganlyniad i'r data ar y niferoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn 2006.

Mae cysylltiad cryf a sefydledig rhwng lefelau cyrhaeddiad a nifer y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim hy wrth i'r nifer sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gynyddu, mae'r lefelau cyrhaeddiad yn gostwng (Bwletin Ystadegol y Cynulliad 20/2006). Bydd grantiau Rhagori yn caniatáu i ysgolion cymwys dargedu'r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad, gan wella disgwyliadau a chyraeddiadau addysgol disgyblion o bob oed.

Mae £1 miliwn o gyllid RAISE yn cael ei ddyrannu i’r awdurdodau lleol i gynorthwyo plant unigol sy'n derbyn gofal.  Hynny er mwyn iddynt allu cyflawni eu swyddogaeth fel rhieni corfforaethol drwy ddarparu math arall o gymorth yn ogystal â'r ddarpariaeth ysgol arferol - y math o gymorth y mae rhieni fel arfer yn ei roi i'w plant.

Ymhlith rhai o elfennau allweddol y rhaglen Rhagori y mae tîm o weithwyr proffesiynol sy'n hyrwyddo, yn datblygu ac yn rhannu’r arferion gorau, a   threfniadau gwerthuso allanol.  Rydym yn bwriadu defnyddio'r rhaglen ddwy flynedd hon i gasglu tystiolaeth a fydd yn sail i bolisi arloesol, hirdymor ar sut i dorri'r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad isel - cysylltiad y gellir ei dorri yn ôl arolwg Cau'r Bwlch.

Mae Dechrau'n Deg yn gwieithio  yn a thrwy’r cymunedau hynny lle mae plant o oedran cyn-ysgol sydd o gefndiroedd difreintiedig yn byw. Mae Rhagori'n gweithio trwy'r ysgolion sydd â'r nifer fwyaf o ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig. Mae'r dull gweithredu a fabwysiadwyd ar gyfer y ddwy raglen yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i dargedu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r bobl ifanc hyn, a chyflawni’n hagenda mewn perthynas â chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. Ar yr un pryd, mae'r rhaglenni hyn yn ein galluogi i roi prawf ar  ffyrdd newydd ac arloesol o weithio y gall cymunedau ac ysgolion eraill ddysgu oddi wrthynt.

Atodiad A (word 91kb)
Atodiad B (word 32kb)