Skip to content

Bensiynau ASW

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd (Andrew Davies):

Cyflwynodd Ann Abraham, ombwdsmon seneddol y DU, adroddiad heddiw ar ei hymchwiliad i gamau a gymerwyd gan gyrff Llywodraeth y DU mewn perthynas â diogelwch pensiynau galwedigaethol cyflog terfynol. Rôl yr ombwdsmon yw ystyried cwynion bod unigolion wedi cael cam oherwydd camweinyddu gan adrannau Llywodraeth y DU a chyrff eraill yn ei hawdurdodaeth.


Mae’r Prif Weinidog a minnau yn ymwybodol iawn o sefyllfa’r unigolion yr effeithiwyd arnynt a’u teuluoedd drwy ein trafodaethau niferus ar ran cyn-weithwyr Allied Steel and Wire. Ar ôl i ASW gael ei roi yn nwylo’r derbynnydd, rhoesom flaenoriaeth i adfer hawliau pensiwn llawn gweithwyr ASW, ac yr ydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r undeb Community ar ran cyn-weithwyr ASW i sicrhau bod eu hawliau pensiwn yn cael eu hadfer.


Swyddogaeth a gadwyd yn ôl yw’r polisi ar bensiynau, ond eto i gyd mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sicrhau bod sefyllfa cyn-weithwyr ASW yn parhau i gael sylw. Ar ôl i ASW gael ei roi yn nwylo’r derbynnydd yn 2002, fel Llywodraeth, bu inni drefnu nifer o gyfarfodydd â’r derbynwyr, ymddiriedolwyr y pensiwn a’r Adran Gwaith a Phensiynau, gan gynnwys y cyn-Ysgrifennydd Gwladol a’r Ysgrifennydd Gwladol presennol i roi’r ddadl dros adfer hawliau pensiwn i bob un, fel gweithwyr ASW, a wynebai ddiffyg yn eu pensiwn. Yn wir, roedd ymgyrch swyddogol drefnus gweithwyr ASW yn fwy na thebyg yn allweddol o ran y penderfyniad i sefydlu cronfa diogelwch pensiwn i sicrhau bod gweithwyr yn cael pensiwn da os bydd eu cwmni yn mynd i’r wal yn y dyfodol.


Ar 14 Mai 2001, cyhoeddodd Andrew Smith, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau y cynllun cymorth ariannol i helpu’r rhai na fydd deddfwriaeth a wneir yn y dyfodol yn gymwys iddynt. Fodd bynnag, daeth yn amlwg na fydd y cynllun cymorth ariannol yn rhoi cymorth i bob aelod o gynllun pensiwn cymwys. Yn wir, o dan y ddeddfwriaeth bresennol, dim ond canran fach o gyn-weithwyr ASW fydd yn elwa. Yr ydym wedi parhau i bwyso am i holl aelodau cynlluniau pensiwn yr effeithiwyd arnynt gael eu cynnwys yn y cynllun cymorth, a bu inni godi’r mater hwn yn ddiweddar gyda’r Ysgrifennydd Gwladol mewn cyfarfod a gadeiriwyd ar y cyd gan y Prif Weinidog a Mick Leahy, ysgrifennydd cyffredinol undeb Community. Felly yr oeddwn yn falch o glywed y Prif Weinidog yn sôn heddiw am gyflwyno’r cynllun cymorth ariannol, sy’n parhau i gael ei adolygu, yn gynt. Byddem yn cefnogi hynny’n llwyr


Mae adroddiad yr ombwdsmon yn gwneud pum argymhelliad i Lywodraeth y DU. Un ohonynt yw y dylid ystyried pa drefniadau y dylid eu gwneud i adfer buddiannau pensiwn craidd a buddiannau pensiwn nad ydynt yn rhai craidd ar gyfer y categorïau o aelodau o gynlluniau a drafodir yn ei hadroddiad. Mae Llywodraeth y DU wedi ystyried yr adroddiad yn ofalus, ond nid yw’n derbyn bod achos o gamweinyddu, nac ychwaith y dylai trethdalwyr dalu am gostau addewidion pensiwn a wnaed gan y cyflogwyr, sef tua £15 biliwn yn ôl yr amcangyfrif. Dywedodd Llywodraeth y DU fod yn rhaid i’r cyfrifoldeb gael ei ysgwyddo gan y cwmnïau hynny yr oedd eu cynlluniau yn cael eu dirwyn i ben, a’r ymddiriedolwyr a oedd yn gyfrifol, ar ôl cael cyngor proffesiynol, am ddiogelu buddiannau eu haelodau. Bydd llawer mwy o drafodaeth ar y mater hwn, ac, fel Llywodraeth, byddwn yn ystyried adroddiad yr ombwdsmon yn llawn. Byddwn yn gwneud ein rhan drwy barhau i bwyso am i holl gyn-weithwyr ASW gael eu cynnwys yn y cynllun cymorth. Fel Llywodraeth, parhawn i gynrychioli buddiannau aelodau undeb Community a’u teuluoedd.