Skip to content

Cronfa Gwella Creu'r Cysylltiadau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, y Gweinidog dros Cyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Rwyf wedi cyhoeddi heddiw pwy fydd yn cael grantiau sydd werth tua £3 miliwn yn rownd gyntaf Cronfa Gwella Creu'r Cysylltiadau.

Mae cydweithio a chydweithredu'n rhan bwysig o'n agenda Creu'r Cysylltiadau ar gyfer diwygio'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Un peth sy'n gyffredin i'r holl brosiectau sydd wedi derbyn nawdd yw eu bod yn gweithio ar draws ffiniau sefydliadol. Roedd pob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus wedi cynnig prosiectau, gan gynnwys llywodraeth leol (sector y rhan fwyaf o'r prosiectau), y GIG, Addysg Bellach ac Uwch, y gwasanaethau argyfwng ac achub a'r sector gwirfoddol.

Cawsom ymateb ardderchog gan gyrff y gwasanaethau cyhoeddus oedd yn gobeithio cael nawdd trwy'r gronfa newydd hon. Mae'r prosiectau a ddaeth i law yn adlewyrchu'r amrywiaeth o gyfleoedd sy'n bod i gyrff yn y gwasanaethau cyhoeddus i gydweithio â'i gilydd i ddarparu gwasanaethau gwell i'r cyhoedd. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb roddodd o'u hamser a'u hegni i baratoi ceisiadau.

Byddaf yn cefnogi rhyw 30 o brosiectau yn y rownd gyntaf hon. Mae gan y prosiectau hyn y potensial i wella'r gwasanaethau cyhoeddus, i'w sbarduno i weithio mewn ffyrdd gwell ac i arloesi. Maen nhw'n rhoi'r cyfle hefyd i fynd â'r manteision ar led yn ehangach trwy Gymru.

 

Mae'r prosiectau sy'n cael eu cefnogi yn ymdrin â meysydd fel rhannu gwasanaethau corfforoaethol rhwng llywodraeth leol a'r GIG, caffael mewn Addysg Bellach ac Uwch, caffael dulliau rheoli gwastraff, a chyd-gomisiynu gwasanaethau cymdeithasol ac addysgol mewn llywodraeth leol.

 

 

Effeithlonrwydd ar draws Gwasanaethau Brys

 

Partneriaid: Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Y Fyddin yng Nghymru, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau

Canlyniad: Astudiaeth gwmpasu ac achos busnes

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Ymarfer cwmpasu ac ymchwil i nodi'r posibilrwydd o gydweithredu i rannu gwasanaethau ar draws y gwasanaethau brys yng Nghymru
  • Achos busnes ar flaenoriaethau ar gyfer gweithredu, gan fesur y manteision a sut byddai'r rhain yn cael eu gwireddu

Manylion Cyswllt: Thomas Barham, Rheolwr Cyllid Partneriaeth, 01745 588515, Thomas.Barham@nthwales.pnn.police.uk

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyd-ddatblygiadau safleoedd Ambiwlans y GIG/Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Partneriaid: Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Canlyniad: Astudiaeth ddichonoldeb

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Archwilio'r holl safleoedd sy'n eiddo i Awdurdod Tân De Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar gyfer cydweithredu / cyd-ddatblygu safleoedd posibl rhwng y ddau sefydliad, a chyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus fel sy'n briodol.

Manylion Cyswllt: Sue Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid a Rheoli Asedau, 01443 232070,

SP-Thomas@southwales-fire.gov.uk

 

 

Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru

Partneriaid: Cyrff y GIG Gogledd Cymru, gan gynnwys y Ganolfan Gwasanaeth Busnes, Consortiwm Cyflenwadau Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru, BILl Gwynedd, BILl Conwy, BILl Ynys Môn, BILl Sir Ddinbych, BILl Sir y Fflint, BILl Wrecsam

Canlyniad: Rhoi ar waith beilot rhannu gwasanaeth yn cwmpasu'r agweddau hynny ar gyllid, caffael, adnoddau dynol a rheoli gwybodaeth a thechnoleg sy'n addas ar gyfer gwaith rhannu gwasanaeth naill ai drwy arbenigedd technoleg o ran sgiliau neu brofiad

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Rhoi ar waith wasanaethau busnes cost effeithiol sy'n cael eu rhannu ar draws cyrff y GIG yng Ngogledd Cymru, gyda'r bwriad o fod yn beilot ar gyfer gweddill Cymru.

Manylion Cyswllt: Wendy Farrington Chadd, Cyfarwyddwr Prosiect, 01978 725355, wendy.farringtonchadd@new-tr.wales.nhs.uk

 

 

Llywodraeth Leol De Ddwyrain Cymru – Astudiaeth ddichonoldeb ar rannu gwasanaeth

Partneriaid: Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor Sir Bro Morgannwg, Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf, Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Casnewydd, Cyngor Sir Caerffili, Cyngor Sir Blaenau Gwent, Cyngor Sir Merthyr Tudful, Cyngor Sir Tor-faen

Canlyniad: Achos Busnes

Dyma'r amcanion allweddol:

  • proses ar gyfer penderfynu pa wasanaethau y dylid eu rhannu
  • goblygiadau ar gyfer adnoddau yn y dyfodol
  • y model(au) gwasanaethau mwyaf effeithiol sy'n cael eu rhannu ar gyfer De Ddwyrain Cymru
  • arbedion posibl a/neu ailfuddsoddi os caiff gwasanaethau sy'n cael eu rhannu eu rhoi ar waith
  • model ar gyfer ymdrin â'r arbedion neu'r ailfuddsoddi hwn
  • y camau yn y prosiect i gyflawni gwasanaethau sy'n cael eu rhannu

cyfeiriadur o gysylltiadau allweddol Awdurdodau Lleol

Manylion Cyswllt: Nichola Poole, Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer rheoli prosiectau a rhaglenni, 02920 872074, n.poole@cardiff.gov.uk

 

 

 

Ymchwilio i'r achos busnes dros sefydlu canolfan a rennir ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol

Partneriaid: Prifysgol Abertawe, Cyngor Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymdeithas Ysgrifenyddion a Chyfreithwyr Cynghorau Cymru

Canlyniad: Astudiaeth Ddichonoldeb

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Nodi cwmpas y gwasanaethau cyfreithiol gofynnol a lleoliad sgiliau cyfreithiol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac, yn arbennig, nodi meysydd arbenigedd penodol a sut cânt eu defnyddio lle mae gormod o ddarpariaeth neu fylchau.
  • Asesu materion fel lleoliad, adnoddau cleientiaid, adnoddau a gallu sgiliau cyfreithiol, costau a chyfluniad
  • Mapio gallu rheolwyr gwasanaethau cyfreithiol Cymru (gan gynnwys ymarferwyr caffael) i gasglu a defnyddio data i gynllunio a rheoli'r gwasanaethau cyfreithiol y mae eu hangen arnynt
  • Nodi'r gallu mewn sefydliadau sector cyhoeddus i hyfforddi, recriwtio, cadw, darparu neu brynu sgiliau cyfreithiol
  • Ystyried sut gallai defnydd gwell o sgiliau cyfreithiol a sgiliau rheoli practis cyfreithiol wella practisau a dulliau cyflwyno gwasanaeth.
  • Gwerthuso ac argymell ffordd ymlaen a fydd yn helpu i sefydlu gwasanaethau sy'n cael eu rhannu ar draws nifer o feysydd gwasanaethau cyfreithiol sy'n ofynnol yn y sector cyhoeddus, ar sail y model presennol ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol gofal plant sy'n cael eu rhannu rhwng CCS, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a BCBC.

Manylion Cyswllt: Julie James, 01792 371646, julie @flatjam.co.uk

 

 

 

 

 

 

Effeithlonrwydd y Sector Gwirfoddol – Gwasanaeth sy'n cael ei Rannu

Partneriaid: CGGC yw corff mantell y sector gwirfoddol yng Nghymru, ac mae ei fwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru.

Canlyniad: Astudiaeth Gwmpasu

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Nodi'r ffyrdd y gall darparwyr gwasanaeth cyhoeddus y sector gwirfoddol wella effeithlonrwydd a rhyddhau adnoddau ar gyfer cyflwyno gwasanaethau rheng flaen;
  • Paratoi a rhoi ar waith gynigion i gyflwyno'r mesurau effeithlonrwydd a nodwyd.

Manylion Cyswllt: Phil Jarrold, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, 029 2043 1745, pjarrold@wcva.org.uk

 

 

Partneriaeth cyd-gaffael Gogledd Cymru

Partneriaid: Fforwm Gogledd Cymru (sy'n cynnwys llywodraeth leol, y GIG, sefydliadau addysg Bellach ac Uwch, Cymdeithas Tai Pennaf a Chyngor Cefn Gwlad Cymru)

Canlyniad: Astudiaeth gwmpasu a chynllun busnes

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Edrych ar ddatblygiad tîm caffael hunan-gyllido ar gyfer Gogledd Cymru mewn tair blynedd a fyddai: yn cynorthwyo cydweithredu a chefnogi sefydliadau sector cyhoeddus i sicrhau arbedion gwerth am arian; yn cynnig arbenigedd caffael proffesiynol; yn sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer contractio; ac yn darparu contractau rhanbarthol i adlewyrchu'r farchnad leol.

Manylion Cyswllt: Kay Smith, Fforwm Pwrcasu Gogledd CYmru, 01248 384388, Kay.smith@nww-tr.wales.nhs.uk

 

 

Gwasanaethau caffael AU/AB sy'n cael eu rhannu

Partneriaid: Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru ac aelodau Consortiwm Pwrcasu Addysg Bellach Cymru

Canlyniad:

Astudiaeth ddichonoldeb

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Ymchwilio i'r posibilrwydd o rannu gwasanaethau caffael ymysg sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach sy'n agos at ei gilydd yn ddaearyddol;
  • Ymchwilio i gwmpas creu 'canolbwynt' gydag un sefydliad yn y canol, a fyddai'n cynnal gwasanaethau i aelodau eraill y canolbwynt.

Manylion Cyswllt: Martin Warren, Cadeirydd Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch, Cymru, 02920 416103, mjwarren@uwic.ac.uk

 

 

Ôl-16 a Chaffael AU

Partneriaid: Fforwm/CPABC yn cynrychioli colegau AB yng Nghymru

Canlyniad: Arolwg a chynllun gweithredu wedi'i flaenoriaethu

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Gwerthuso'r cyfleoedd a'r goblygiadau ar gyfer y sector AB drwy fwy o gydweithredu ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau, yn enwedig parthed y sectorau ôl-16 ac AU.
  • Ymchwilio i'r posibilrwydd o gydlynu'r ddarpariaeth o ystod gyfyngedig o wasanaethau craidd canolog mewn AB (gan gynnwys trefniadau cydfuddsoddi).
  • Cynnal arolwg o weithrediadau caffael mewn AB er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd.

Manylion Cyswllt: Mike Evans, Cyfarwyddwr, 02920 741839, mike.evans@fforwm.ac.uk

 

 

 

Consortiwm Pwrcasu Cymru (Llywodraeth Leol)

Partneriaid: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Dinas a Sir Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen, Cyngor Bro Morgannwg, County Borough Supplies

Canlyniad: Achos busnes

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Nodi'r cyfleoedd ar gyfer ehangu'r Consortiwm Pwrcasu Cymru presennol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru
  • Ystyried ehangu i feysydd eraill yn Sector Cyhoeddus Cymru,
  • Nodi cwmpas y contractau i'w darparu drwy'r trefniant hwn
  • Asesu'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer rheoli ac ariannu Consortiwm estynedig
  • Argymell aelodaeth, strwythur a dull ariannu ar gyfer trefniant Consortiwm o'r fath

Manylion Cyswllt: Andrew Maisey (Cadeirydd Panel Swyddogion Consortiwm Pwrcasu Cymru), d/o Paul Lucas, Ysgrifennydd y Consortiwm, 01443 424105, Paul.J.Lucas@rhondda-cynon-taff.gov.uk

 

 

Menter Gaffael Ceredigion

Partneriaid: Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion, Coleg Ceredigion, Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru, Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cymdeithas Tai Cantref

Canlyniad: Astudiaeth Gwmpasu

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Nod cyffredinol y prosiect yw datblygu Menter Gaffael Ceredigion a fydd yn ymchwilio i'r rhagolygon ar gyfer mentrau caffael cydweithredol lleol (gyda phwyslais ar gaffael cynaliadwy) ar nwyddau a/neu feysydd gwasanaeth fel arfer lle nad oes unrhyw drefniadau contract rhanbarthol neu genedlaethol yn bodoli.
  • Nod y fenter fydd cynnwys pob corff cyhoeddus sydd wedi'u lleoli yng Ngheredigion ac mae ganddi'r potensial o ymgorffori cyrff y tu allan i Geredigion lle mae'n briodol, er enghraifft o siroedd ffiniol sy'n caffael eitemau o'r un cyflenwyr.

Manylion Cyswllt: Gwyndaf Tobias, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau, 01570 424709, g.tobias@lamp.ac.uk

 

Comisiynu gwasanaethau cymdeithasol yn rhanbarthol

Partneriaid: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Dinas a Sir Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen, Cyngor Bro Morgannwg.

Canlyniad: Ymchwil a gwerthusiad o'r opsiynau – templad asiantaeth newydd

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Pennu dulliau, opsiynau a dichonoldeb sefydlu asiantaeth faethu ar gyfer deg adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn Ne Ddwyrain Cymru.
  • Llunio astudiaeth beilot a fframwaith i'w cymhwyso i ofynion comisiynu eraill ledled Cymru, e.e. lleoliadau preswyl a nysrio ar gyfer pobl hŷn, lleoliadau preswyl ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu.

Manylion Cyswllt: Joe Howsam, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, 01443 864673, howsaj@caerphilly.gov.uk

 

 

Model comisiynu cydweithredol (anableddau dysgu/gofal cymdeithasol iechyd meddwl cost uchel)

Partneriaid: Cydweithrediad Rhanbarthol Gwasanaethau Cymdeithasol Canolbarth a Gorllewin Cymru (Sir Benfro, Ceredigion, Powys, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr)

Canlyniad: Ymchwil a gwerthusiad o'r opsiynau – templad asiantaeth newydd

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Mesur y galw cyfredol ac amcangyfrif anghenion yn y dyfodol gan ddefnyddio dadansoddiad o anghenion, data ymchwil gwybodaeth etc.
  • Mapio gwasanaethau cyfredol y sector annibynnol, rhannu gwybodaeth a chudd-wybodaeth rhwng awdurdodau lleol am ansawdd, costau a chanlyniadau.
  • Cytuno ar fodel comisiynu wedi'i gostio.
  • Ymchwilio i'r posibilrwydd o sefydlu consortiwm pwrcasu er mwyn safoni contractau â manylebau llym, a allai gynnwys ffioedd rhanbarthol a chontractau bloc rhanbarthol.
  • Ymchwilio i'r cwmpas ar gyfer comisiynu'r gwasanaeth yn wahanol
  • Ystyried yr agenda Pontio ar gyfer plant er mwyn cynllunio gofynion ar gyfer comisiynu yn y dyfodol.

Manylion Cyswllt: Bruce McLernon, Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol a Thai, 01267 224697, bmclernon@carmarthenshire.gov.uk

 

 

Darpariaeth gwasanaeth y tu allan i oriau rhanbarthol

Partneriaid: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Sir Caerfyrddin

Canlyniad: Astudiaeth i ymchwilio i'r potensial ar gyfer cynnig darpariaeth aml-asiantaeth y tu allan i oriau ar draws ffiniau ar gyfer gwasanaethau hanfodol

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Adolygu arfer gorau a modelau a fabwysiadwyd mewn awdurdodau a rhanbarthau eraill y gellir eu cymharu â nod y prosiect.
  • Nodi gwasanaethau ymateb allweddol cyffredin gydag awdurdodau lleol partner y mae'n ofynnol i'w darparu, neu y byddai'n hynod ddymunol i'w darparu, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
  • Adolygu pa rai o'r gwasanaethau allweddol a nodir uchod fyddai'n amlwg fwyaf addas i'w cyflwyno'n rhanbarthol neu rhwng awdurdodau ac, os felly, a fyddai modd i gyflwyno gwasanaeth o'r fath fanteisio ar arbedion maint, cael gwared ar ddyblygu neu hwyluso'r gwaith o gyflwyno gwasanaethau mewn ffordd nad yw'n hyfyw ar hyn o bryd.
  • Nodi ac asesu'r gwahanol opsiynau y tu allan i oriau sy'n gysylltiedig â'r meysydd gwasanaeth allweddol perthnasol gwahanol, e.e. pennu trefniant ar gyfer awdurdod arweiniol, datblygu canolfan alwadau ranbarthol, ymgynghorwyr rhanbarthol wrth gefn mewn proffesiwn penodol, rhoi contractau allanol i ddarparwyr sector preifat, cynnal y trefniadau cyfredol etc.
  • Nodi materion a rhwystrau sy'n gysylltiedig â gwaith ar draws awdurdodau, e.e. awdurdod i wneud penderfyniadau ac ymrwymo gwariant ar ran corff arall, trefniadau yswiriant, materion talu ac adennill cost, gwahaniaethau mewn protocolau gwaith, rheoli iechyd a diogelwch etc, a datblygu datrysiadau sy'n mynd i'r afael â'r materion perthnasol.
  • Cynnig trefniant fframwaith y gall yr awdurdodau sy'n cymryd rhan ei dreialu/ei roi ar brawf mewn nifer gyfyngedig o feysydd gwaith wedi'u blaenoriaethu ar ddiwedd yr astudiaeth.

Manylion Cyswllt: Ian Westley, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a'r Amgylchedd, 01437 775828, ian.westley@pembrokeshire.gov.uk

 

Cydgomisiynu gwasanaethau mabwysiadu yn rhanbarthol yng Ngogledd Cymru

Partneriaid: Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, BAAF Cymru

Canlyniad: Astudiaeth ddichonoldeb/gwmpasu o gydgomisiynu yng Ngogledd Cymru

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Cyfarwyddo datblygiad strategol gwasanaethau mabwysiadu ledled isranbarth Gogledd Cymru,
  • Llywio'r gwaith o gynllunio gwasanaethau mewn ardaloedd consortiwn (isranbarthau) eraill yng Nghymru a llunio model arferion a fydd o fudd i awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

Manylion Cyswllt: John Roberts, 01978 267911, J.roberts@wrexham.gov.uk

 

 

 

Teleofal Gogledd Cymru

Partneriaid: Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych ac Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Canlyniad: Astudiaeth ddichonoldeb

Dyma'r amcanion allweddol:

  • datblygu safonau cyffredin ar gyfer gwasanaethau teleofal i unigolion sy'n cael cymorth i fyw'n annibynnol
  • sicrhau arbedion cost drwy gaffael casgliadol a chynnal a chadw gosodiadau teleofal a systemau cyfathrebu
  • sicrhau arbedion cost drwy rannu gwasanaethau hyfforddi ac ymgynghori
  • ymchwilio i rôl canolfannau monitro ac ymateb yn y dyfodol
  • defnyddio teleofal fel ffordd o ymchwilio canolfan(nau) cyswllt sy'n cael eu rhannu ar gyfer systemau monitro cleientiaid â chymorth, monitro a rheoli drwy deledu cylch cyfyng, a chyswllt y tu allan i oriau ag awdurdodau
  • gwerthuso manteision arbedion cost a chyflwyno canlyniadau gwasanaethau gwell i bob partner

Manylion Cyswllt: Anwen Huws, Prif Swyddog Datblygu; 01248 751811; amhss@ynysmon.gov.uk

 

 

Cludiant i'r Ysgol yng Ngogledd Cymru

Partneriaid: Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Cyngor Sir Ddinbych

Canlyniad: Astudiaeth ddichonoldeb

Dyma'r amcanion allweddol:

  • rheoli'r farchnad cyflenwi cludiant preifat i'r ysgol yn fwy effeithiol drwy (a) reoli contractau yn gasgliadol a (b) chaffael cerbydau;
  • rhannu cerbydau a gwasanaethau cludiant mewn ardaloedd arbenigol; a
  • datblygu framwaith polisi cyffredin ar gyfer cludiant i'r ysgol.

Manylion Cyswllt: David Blainley, Pennaeth Cludiant; 01352 704500; tranplan@flintshire.gov.uk

 

 

Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes strategol Consortiwm Datblygu De a Chanolbarth Cymru

Partneriaid: Chwe awdurdod lleol y Consortiwm, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys a Dinas a Sir Abertawe

Canlyniad: Cynllun prosiect, cynllun gweithredu, cynllun cyflawni

Dyma'r amcanion allweddol:

Datblygu Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes Strategol Consortiwm a fydd yn addas at y diben o gefnogi y Cynllun Addysg Sengl a'r Ddeddf Plant. Mae yna ddwy elfen i'r cais, sef datblygu model a chynllun gweithredu ar gyfer

  • cangen cynllunio strategol y consortiwm i fod yn ffordd o fwrw ymlaen â meithrin gallu a chyflawni'r weledigaeth, gan gynnwys sefydlu trefn lywodraethu briodol ar gyfer y Consortiwm, a
  • datblygiad parhaol swyddogaethau hyfforddi a chymorth y Consortiwm ar lefel awdurdod, lefel isranbarthol a lefel ranbarthol

Manylion Cyswllt: Pauline Lewis, Cydlynydd y Consortiwm, 01792 849417, pauline.lewis@swansea.gov.uk

 

 

Seilwaith addysg a chymorth addysgol ledled Cymru

Partneriaid: AALl Pen-y-bont ar Ogwr, AALl Caerffili, AALl Merthyr Tudful, AALl Rhondda Cynon Taf, AALl Bro Morgannwg, Cynnal, sef gwasanaeth ymgynghorol AALl Gwynedd ac AALl Ynys Môn, ESIS

Canlyniad: Ymchwil ac achos busnes

Dyma'r amcanion allweddol:

  • ymchwilio a phrofi dichonoldeb darparu gwasanaethau gwella ysgolion sy'n ategu ac yn gwella'r ddarpariaeth bresennol drwy archwilio amryw swyddogaethau gwasanaethau ymgynghori a'u paratoi i fodloni anghenion ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol;
  • paratoi achos busnes ar gyfer creu'r seilwaith ar gyfer Rhwydwaith Dysgu ledled Cymru er mwyn amlygu arferion da yn y gwaith o wella ysgolion, cysylltu sefydliadau ag anghenion a buddiannau tebyg gyda'i gilydd a chreu cymuned ddysgu genedlaethol;
  • datblygu achos busnes ar gyfer marchnata proffesiynol a gwerthu adnoddau dysgu a deunyddiau addysgol sy'n cael eu creu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, e.e. adnoddau ystafell ddosbarth, offer rheoli, ac achos busnes sy'n gweithredu'n fasnachol i gynnal datblygiad deunyddiau cymorth pellach.

Manylion Cyswllt: Trevor Guy, Cyfarwyddwr, Prif Gynghorydd, 01443 827500, guyt@caerphilly.gov.uk

 

 

Fforwm Datblygu De-ddwyrain Cymru

Partneriaid: Cyngor Chwaraeon Cymru

11 o bartneriaid awdurdod unedol yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru

Canlyniad: Astudiaeth gwmpasu ar fuddsoddi Datblygiad Proffesiynol Parhaus, cyfleoedd i gydweithio, gwerthuso strwythurau staffio.

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Darparu strategaeth gwmpasu a all ddylanwadu ar fuddsoddi mewn gwasanaethau datblygu chwaraeon ar draws y rhanbarthau fel dogfen fantell ar gyfer cynlluniau strategol Awdurdodau Lleol.
  • Nodi mentrau wedi'u targedu ar gyfer buddsoddiad allanol y gellid eu rhoi ar waith yn gyson ledled y De-ddwyrain i safon y cytunir arni yn y diwydiant.
  • Datblygu effeithlonrwydd o ran gwariant drwy werthuso cydgynlluniau caffael a statws cyflenwyr dethol sy'n berthnasol i'r darparwr gwasanaethau.
  • Gwerthuso strwythurau staffio a'r potensial o waith trawsffiniol, rhannu swyddi, rhaglenni rhannu sgiliau rhwng Awdurdodau partner, gan osgoi dyblygu lle bo'n bosibl.
  • Darparu rhaglenni datblygu a gloywi proffesiynol a fydd yn helpu rheolwyr gwasanaeth i ddatblygu ymatebion strategol priodol i bolisïau'r Llywodraeth fel "Dringo'n Uwch" a "Her Iechyd Cymru".
  • Datblygu dealltwriaeth gan ystod ehangach o bartneriaid, gan gynnwys Cymunedau Diogelach, Cymunedau yn Gyntaf a Byrddau Iechyd Lleol o fanteision posibl chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Manylion Cyswllt: Andrew Thomas, Rheolwr Chwaraeon a Hamdden, 01656 642692, thomaar@bridgend.gov.uk

 

Astudiaeth Ddichonoldeb: archwiliad/adroddiad/darpariaeth gofal cymdeithasol peilot

Partneriaid: Partneriaeth Gofal Cymdeithasol Canolbarth Cymru, sy'n cynnwys Awdurdodau Lleol Powys, Ceredigion a Meirionydd (Gwynedd) (Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a Rheolwyr Hyfforddiant)

Darparwyr Gwasanaeth y Sector Gwirfoddol – ARC Cymru, Croesffyrdd Cymru, Cymryd Rhan

Canlyniad: Ymchwilio i ddichonoldeb darparu darpariaeth gofal cymunedol cwbl integredig o ansawdd da yng Nghanolbarth Cymru, sy'n caniatáu i bobl sy'n agored i niwed aros yn eu cymunedau eu hunain tra'n cael lefel briodol o gymorth

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Ymchwilio ac adnabod modelau cyflwyno gofal gwledig mewn ardaloedd gwledig eraill yn y DU a'r UE.
  • Archwiliad o'r cyfleusterau lleol presennol mewn ardaloedd gwledig y gellid eu defnyddio ar gyfer darpariaeth gofal cymdeithasol ac er mwyn nodi lle mae bylchau mewn adnoddau a lle caiff adnoddau eu dyblygu.
  • Archwiliad o'r darparwyr gofal cymdeithasol yn y sector gwirfoddol ac annibynnol, sy'n gweithredu mewn ardaloedd gwledig, o ran y gwasanaethau a gynigir a'r lleoliadau/ardaloedd darparu daearyddol
  • Archwiliad Sgiliau'r gweithlu gofal cymdeithasol er mwyn cynnig llinell sylfaen ar gyfer datblygu hyfforddiant priodol i weithiwr "generig"

Manylion Cyswllt: Jane Guest, Cydlynydd Prosiect, 01545 574008

janeg@ceredigion.gov.uk

 

 

Creu asiantaeth recriwtio i'w harwain gan awdurdodau lleol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol ar draws 12 awdurodod De Cymru

Partneriaid: Cyngor Gofal Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a'r Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol Llywodraeth Leol yng Nghymru

Canlyniad: Ymchwil a gwerthusiad o'r opsiynau – asiantaeth recriwtio newydd - templad

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Amcanion y prosiect yw creu asiantaeth recriwtio i'w harwain gan awdurdodau lleol ar gyfer y 12 awdurod yn Ne Cymru, a fydd yn cymryd cyfrifoldeb am recriwtio a lleoli'r gweithwyr cymdeithasol hynny nad ydynt yn cael eu cyflogi'n barhaol gan yr awdurdodau lleol eu hunain. O ganlyniad, rhagwelir arbedion sylweddol o ganlyniad i beidio â chyflogi'r staff hyn drwy amryw asiantaethau recriwtio, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

Manylion Cyswllt: James Cawley, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol, 01446 704676, jwcawley@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

Datblygu adnoddau'r sector gwirfoddol (pobl hŷn) - Caerdydd

Partneriaid: Awdurdod Lleol Caerdydd, Cyngor Iechyd Cymunedol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd, Age Concern Caerdydd a Bro Morgannwg.

Canlyniad: Datblygu adnoddau a sgiliau'r sector gwirfoddol yn y 3 blynedd nesaf, er mwyn galluogi trosglwyddo/dadgomisiynu gweithgarwch gwasanaeth

Dyma'r amcanion allweddol:

  • datblygu adnoddau sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol er mwyn gwella'u cyfraniad i'r rhaglen foderneiddio a chyflwyno gwasanaethau o ansawdd uchel i Grŵp Cynllunio Ymgynghorol Caerdydd eu defnyddio er mwyn comisiynu gwasanaethau yn hyderus.
  • gwella rhwydweithiau cyfathrebu ar draws asiantaethau er mwyn cynyddu cydweithredu rhwng y sectorau, gan arwain at rannu adnoddau ac arbenigedd er mwyn ail-lunio gwasanaethau
  • cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli
  • cryfhau'r trefniadau rhwng cyrff statudol a'r sector gwirfoddol ar gyfer cyflwyno gwasanaethau
  • gwneud arbedion trwy wella effeithlonrwydd o ran cynllunio gwasanaethau, comisiynu a phrosesau rhoi grantiau'r sector gwirfoddol, ynghyd ag effeithiolrwydd gwell o ran cyflwyno gwasanaethau

Manylion Cyswllt: Jeff Hawkins, Cyfarwyddwr Age Concern Caerdydd, 02920 521052, jeff.hawkins@age-concern-cardiff.org.uk

 

 

 

 

 

Sefydlu Tîm Rheoli Gwastraff Arbenigol

Canlyniad:

Sefydlu tîm sydd wedi'i gysylltu â Gwerth Cymru, sy'n cynnwys ymgynghorwyr rheoli gwastraff arbenigol profiadol sydd â sgiliau mewn cyllid, materion cyfreithiol a thechnegol etc, a all gynorthwyo llywodraeth lleol yn y gwaith o fwrw ymlaen â chynigion prosiectau rhanbarthol ar gyfer rheoli gwastraff.

Dyma'r amcanion allweddol:

  • Cefnogi prosiectau rheoli gwastraff cydweithredol gan lywodraeth leol fel y'u cyflwynir drwy Gronfa Wella Creu'r Cysylltiadau a chynorthwyo prosiectau cydweithredol eraill sy'n cael eu datblygu fel sy'n briodol.

 

Manylion Cyswllt: Laurie Pavelin, Prif Swyddog Gweithredol Gwerth Cymru, 02920 823383, laurie.pavelin@Wales.gsi.gov.uk

 

Materion i'w Hystyried

Ymchwil i wasanaeth cludiant unedol ar gyfer cleifion a rhai nad ydynt yn gleifion yn Ne-ddwyrain Cymru

Ymchwilio i'r opsiynau/cwmpas ar gyfer rhannu gwasanaethau cludiant ledled De-ddwyrain Cymru, gan ymgorffori swyddogaethau cludiant cleifion nad ydynt yn rhai brys sy'n rhan o waith caffael cyfredol, gan gynnwys:- logisteg, cludiant, dosbarthu a rheoli cerbydau.

Partneriaid: Ymddiriedolaeth y GIG Caerdydd a'r Fro, Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Casglu Refeniw

Astudiaeth ddichonoldeb i edrych ar gydweithredu ac arbedion cost mewn gwasanaethau cymorth (ym maes refeniw) yn y tymor byr; a rhoi llwyfan i gydweithio mwy sylweddol ym maes refeniw yn y tymor hwy, drwy rannu prosesau, systemau ac adnoddau, a chwtogi gorbenion a chostau prosesu; a chreu fframwaith ar gyfer cydweithredu estynedig er mwyn cefnogi gwasanaethau drwy (a) datblygu perthynas ymysg yr awdurdodau cyfranogol a (b) datblygu platfformau TG cyffredin.

Partneriaid: Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a Chyngor Sir Ddinbych