Skip to content

Hepatitis C

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hysbyswyd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (NPHS) a Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd am y gweithiwr gofal iechyd oedd yn dioddef o Hepatitis C ar 3 Hydref 2005.  Ni ddychwelodd y gweithiwr i’r gwaith wedi’r dyddiad hwnnw.

Sefydlodd Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd a’r NPHS Dîm Rheoli Digwyddiadau er mwyn ymchwilio i’r bobl allai fod wedi dod i gysylltiad â’r gweithiwr.  Trodd y Tîm Rheoli Digwyddiadau at Banel Cynghori’r Deyrnas Unedig ar Feirysau a Gludir yn y Gwaed (UKAP)  am gyngor.  Roedd eu hateb ar y 21 Rhagfyr 2005 yn argymell edrych yn ôl dros gleifion y gweithiwr gofal iechyd.  Ym mis Ionawr 2006, gofynnodd y tîm rheoli digwyddiadau am nodiadau’r cleifion.  Cafodd restr llawn ei chyflwyno ym mis Ebrill.  Mae’r tîm rheoli digwyddiadau wrthi’n paratoi rhestr o’r cleifion sydd wedi dod i gysylltiad â’r gweithiwr ond mae’n rhaid i feddygon teulu’r cleifion eu gwirio yn gyntaf.  Yn dilyn hyn, byddant yn cael cynnig cyngor a’r cyfle i gael eu sgrinio.

Mae’r perygl y gall cleifion gael eu heintio â hepatitis C o ganlyniad i ddod i gysylltiad â gweithiwr gofal iechyd yn isel iawn. Fodd bynnag, er mwyn bod yn sicr, teimlodd y tîm rheoli digwyddiadau y byddai’n briodol datblygu rhaglen i asesu’r rheini a ddaeth i gysylltiad â’r gweithiwr gofal iechyd.

Mae’r Tîm Rheoli Digwyddiadau wedi sefydlu llinell ffôn trwy Galw Iechyd Cymru ar 0845 6006086 sydd ar agor rhwng 7.00 am a 8.00 pm yn ystod yr wythnos a rhwng 7.00 am a 4.00 pm ar benw