Skip to content

Trefniadau ar gyfer gwirio cefndir pobl sydd am weithio gyda phlant a gwahardd pobl anaddas

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

Yr wyf yn croesawu’r cyfle hwn i wneud datganiad yn nodi’r sefyllfa yng Nghymru yn dilyn y datganiad a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau ddydd Iau diwethaf. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n parhau’n llwyr ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant yng Nghymru. Dros y dyddiau diwethaf, bu fy swyddogion yn ymgynghori â’r Adran Addysg a Sgiliau, yn benodol ynghylch penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â Rhestr 99, yn enwedig penderfyniadau ar achosion a gyfeiriwyd o Gymru. Er nad oes unrhyw wybodaeth wedi dod i’r amlwg hyd yma, rhaid inni aros am ganlyniad adolygiad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau o bob achos i weld a oes unrhyw athrawon sydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw ac sydd ar hyn o bryd yn dysgu yng Nghymru.

Er mwyn osgoi sefyllfa lle bydd pobl anaddas yn gweithio gyda phlant, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad ganllawiau yn 2002 i ysgolion, awdurdodau addysg lleol ac eraill yn y sector addysg ynghylch bod angen gweithredu gweithdrefnau cyn-penodi cadarn i atal pobl anaddas rhag gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Cyn penodi unrhyw aelod o staff—athro neu athrawes, er enghraifft—dylai cyflogwyr gadarnhau enw’r ymgeisydd, ei gymwysterau academaidd neu broffesiynol, a gofyn am eirda proffesiynol a chymeriad gan y canolwr a’r cyflogwr presennol neu’r un mwyaf diweddar, yn ogystal â manylion ei hanes cyflogaeth blaenorol.

Ar yr un pryd, dylai’r athro neu’r athrawes ofyn am ddatgeliad manwl gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol. Bydd y datgeliad hwn yn cynnwys manylion am unrhyw euogfarnau sydd wedi neu heb ddarfod, manylion am unrhyw rybuddion neu rybuddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu, a ydyw’r unigolyn wedi’i wahardd rhag gweithio â phlant am ei fod ar unrhyw un o’r rhestrau o bobl sy’n anaddas i weithio â phlant a gedwir gan yr Adran Iechyd neu’r Adran Addysg a Sgiliau, manylion unrhyw achosion lle cafwyd ef neu hi yn ddieuog ac unrhyw wybodaeth mewn achos lle na chafwyd yr ymgeisydd yn euog sydd, ym marn un o brif swyddogion yr heddlu, yn berthnasol i’r swydd dan sylw, gan gynnwys bod yr unigolyn ar y gofrestr troseddwyr rhyw, neu nad oes cofnodion o’r fath yn bodoli. Gall cyflogwyr yna fod yn dawel eu meddwl bod yr ymgeisydd yn addas.

Byddai’n ddefnyddiol pe byddwn yn nodi beth yw ein rôl bresennol a rôl yr Adran Addysg a Sgiliau a chyflogwyr, ynghyd ag unrhyw gynigion ar gyfer y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i gyflogwyr addysg ac asiantaethau llanw yng Nghymru roi gwybod am bob achos o gamymddwyn gan athrawon i’r Cynulliad. Cryfhawyd y gofyniad hwn yn 2003 i sicrhau nad oedd unrhyw gamddealltwriaeth ynghylch y gofynion ar gyfer asiantaethau llanw, ac fel bod cyflogwyr ac asiantaethau llanw yn gallu cyfeirio achosion lle byddent efallai wedi gweithredu pe bai’r person wedi gadael eu cyflogaeth.

Mae’r achosion hyn yn ymdrin ag ystod eang o faterion camymddwyn, gan gynnwys materion fel yfed a gyrru a ffugio canlyniadau arholiad. Mae pob un, pa bynnag gamymddwyn a ddigwyddodd, yn cael eu cyfeirio at yr Adran Addysg a Sgiliau. Os gwneir penderfyniad i wahardd neu gyfyngu ar gyflogaeth person, ychwanegir enw’r person hwnnw at Restr 99 a rhoddir gwybod inni yn dilyn hynny. Mae nifer o droseddau penodol lle mae athro neu athrawes, os ceir ef neu hi yn euog, yn cael eu rhoi’n awtomatig ar Restr 99. Gyda throseddau eraill, neu lle mae rhybuddiad wedi’i roi, ystyrir pob achos yn unigol.

O ystyried y pryderon y mae hyn wedi’u hachosi, mae Ruth Kelly wedi comisiynu fel mater o frys adolygiad cynhwysfawr o bob achos o’r fath er mwyn cadarnhau faint yn union o unigolion yr ydym yn siarad amdanynt, lle y maent ac a ydyw eu hymddygiad wedi peri pryder i’r awdurdodau. Mae’n adolygu ar frys y broses benderfynu yng nghyswllt yr achosion hyn, a’r goblygiadau polisi, tra’n canolbwyntio ar sut i gyfochri mor agos â phosibl y gofrestr troseddwyr rhyw, Rhestr 99 a ffynonellau data eraill, rôl Gweinidogion yn y broses benderfynu, a sut y gellir ystyried cyngor yr heddlu yn llawnach cyn gwneud penderfyniadau. Mae Ruth Kelly wedi ymrwymo i adrodd i Dy’r Cyffredin ar ddydd Iau.

Yn dilyn argymhellion Syr Michael Bichard ar ôl achos Soham, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth i gryfhau’r trefniadau presennol ar gyfer archwilio a gwahardd. Trwy hyn bydd yn ofynnol i unigolion, lle mae eu gwaith yn golygu cyswllt â phlant neu oedolion agored i niwed, gofrestru â chorff canolog sydd â mynediad at yr holl wybodaeth berthnasol fel y gall wneud penderfyniadau cyson ynghylch addasrwydd. Yr ydym yn croesawu ymrwymiad Ruth Kelly i gyflwyno Mesur cyn diwedd Chwefror.

Mae’r cynigion yn darparu ar gyfer system archwilio a gwahardd a fydd yn dal yr holl wybodaeth berthnasol am unigolion sydd wedi niweidio, rhoi mewn sefyllfa niweidiol, annog eraill i niweidio, neu sy’n berygl i blant neu oedolion agored i niwed. Bydd y cynllun yn dal gwybodaeth o gofnodion yr heddlu ac o’r cyrff rheoleiddio a phroffesiynol perthnasol.

Dechreuodd fy swyddogion drafod â’r Adran Addysg a Sgiliau cyn y Nadolig i ystyried sut orau y gallai Cymru ymarfer y pwerau hyn ar ran Cymru, i sicrhau bod pobl anaddas yn cael eu hatal rhag gweithio â phlant. Er hynny, ni ddylem edrych ar hyn yn unig yng nghyd-destun diogelu plant mewn addysg. Bydd yr adolygiad o ddiogelu plant agored i niwed, sy’n cael ei gadeirio gan Gwenda Thomas, yn gwneud argymhellion ar gyfer y maes hwn. Bydd argymhellion y comisiynydd plant, sy’n codi o’i adroddiad Clywch, hefyd yn cyfrannu at ddiogelu plant, a byddwn yn parhau i weithio i weithredu’r argymhellion hynny.

Yn y cyfamser, gallaf eich sicrhau nad oes unrhyw athrawon sy’n rhaid iddynt gofrestru â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru—rhai sy’n dysgu mewn ysgolion a gynhelir—yn ddarostyngedig i waharddiadau na chyfyngiadau Rhestr 99. Byddwn yn cryfhau hyn ymhellach drwy gyflwyno deddfwriaeth fel bod y Cyngor Addysgu yn gallu gwrthod cofrestru os nad yw’n fodlon ynghylch addasrwydd person i fod yn athro neu’n athrawes.

Yn naturiol, byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ynghylch y camau nesaf yn dilyn adolygiad yr Adran Addysg a Sgiliau.