Skip to content

Ffigurau Hunanladdiad Ymysg Plant

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons,y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasau

Mae Comisiynydd Plant Cynorthwyol Cymru wedi mynegi pryder ynglŷn â’r amrywiad yn yr ystadegau hunanladdiad rhwng  Cymru a Lloegr a ddarparwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) (copi o’r data yn atodiad 1).

Mae Cynulliad Cymru yn ystyried marwolaethau ymysg plant yn fater difrifol waeth sut mae’n digwydd. Mae hunanladdiad plentyn neu berson ifanc yn drasig bob tro.  Er ein bod yn bryderus iawn am y gwahaniaeth rhwng ffigurau Cymru a Lloegr, lle mae’r gyfran flynyddol yn gyson uwch yng Nghymru, rhaid cofio hefyd bod nifer o ffactorau a all effeithio ar y gwaith o gofnodi’r data a’i ddehongli. Gall hyn, ynghyd â materion eraill, gynnwys arferion cofnodi gan grwneriaid rhwng marwolaeth ddamweiniol a hunanladdiad.  Byddwn yn edrych yn fanylach ar y ffigurau hyn i weld a oes unrhyw ffactorau cyffredin ac i ystyried pa archwiliadau pellach allai fod o help.  

Yn 2001 lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru strategaeth 10 mlynedd ar gyfer darparu gwasanaethau a llunio canllawiau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc – “Busnes Pawb”.  Mae llawer wedi ei gyflawni ers ei lansio yn 2001. Bwriedir cynnal adolygiad o’r cynnydd yn ystod blwyddyn ariannol 2006-07, a fydd yn nodi meincnodau clir ac yn edrych ar gamau gweithredu ar gyfer y dyfodol er mwyn cyflawni ei gweledigaeth 10 mlynedd.

Mae Cynulliad Cymru hefyd wedi cefnogi, datblygu neu ariannu nifer o wasanaethau sy’n gallu cynnig cymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd/gofalwyr, gan gynnwys:

• Llinell gymorth iechyd meddwl CALL (Llinell Gyngor a Gwrando Gymunedol). Mae Llywodraeth y Cynulliad yn y broses o ystyried a ellir ehangu hyn i gynnwys cyngor i rieni sy’n pryderu am eu plant.

• Canllaw i ysgolion, Awdurdodau Addysg Lleol (AALlau) a phartneriaid eraill i hybu iechyd meddwl a lles cymdeithasol disgyblion, gan gynnwys y rhai sydd mewn lleoliadau meithrin sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd ac y bwriedir eu cyhoeddi yn 2006.

• Mae targedau CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc) penodol o fewn y Fframwaith Gwasanaeth a Chyllid (SaFF) wedi rhoi hwb newydd ac maent yn cynnwys timau CAMHS yn darparu gwasanaethau ymgynghori a chynghori i weithwyr proffesiynol ar Haen 1 o fewn 4 wythnos ac atgyfeirio cynnar ar gyfer asesiadau arferol ac ymyrraeth .

• Sicrhawyd bod arian rheolaidd o £1.2 miliwn ar gael i CAMHS o 2004-05 i ddarparu gwelyau i’r glasoed y mae angen eu derbyn mewn argyfwng, Timau Ymgynghori Fforensig y Glasoed a Gweithwyr Iechyd Meddwl Sylfaenol.  Clustnodwyd arian ychwanegol Amseroedd Aros achlysurol hefyd o £2.4 miliwn ar gyfer CAMHS eleni, yn amodol ar geisiadau gwerth am arian llwyddiannus.

• Darparwyd cyllid i Brifysgol Morgannwg a Phrifysgol Bangor yn 2003/04, 2004/05 a 2005/06 ti ddatblygu modiwl lefel diploma i ddiwallu anghenion nyrsys sy’n gweithio ym maes Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.  Darparwyd cyllid hefyd i alluogi’r Prifysgolion i werthuso’r cyrsiau.

• Rhaglenni Cwnsela Peilot - Mae’r Adran Hyfforddiant ac Addysg (AHA) wedi rhoi cyllid o £200 o filoedd o’r neilltu ar gyfer 2006-07 i weithredu strategaeth cwnsela ar sail rhaglen beilot.