Skip to content

G24i - Prosiect Mewnfuddsoddi Gwerth Uchel Newydd Ar Gyfer Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog Dros Fenter, Arloesi A Rhwydweithiau

Yn gynharach heddiw, yr oeddwn yn falch iawn o gyhoeddi’r penderfyniad gan G24innovations Cyf. i fuddsoddi ym Mharc Gwynllwg yng Nghaerdydd, mewn prosiect gwerth miliynau o bunnoedd i weithgynhyrchu celloedd solar a sensiteiddir â lliw, un o’r technolegau diweddaraf, ysgafnaf, mwyaf effeithlon a lleiaf costus yn y byd. Bydd y prosiect hwn yn creu 300 o swyddi o ansawdd uchel gyda chyflogau da i gemegwyr, peirianwyr a thechnegwyr.

Bydd G24innovations, y delir y rhan fwyaf o’i gyfrannau gan Renewable Capital o Galiffornia yn yr Unol Daleithiau, yn gweithredu o’r cyfleuster 187,000 troedfedd sgwâr ym Mharc Gwynllwg a godwyd ar gyfer Acer Peripherals. Gellir defnyddio’r cynnyrch hwn mewn amrywiaeth fawr o sectorau, gan gynnwys llenwyr ffonau symudol, tecstilau call, cymwysiadau diogelwch brys a gwladol, chwaraewyr MP3, gliniaduron a chonsolau gemau a ddelir yn y llaw, y mae pob un ohonynt yn sector sydd yn tyfu’n gyflym sydd yn cynnig potensial aruthrol.

Bûm i, ynghyd â’r Prif Weinidog a swyddogion o’m hadran, yn ymwneud yn fanwl â datblygu’r prosiect hwn er mwyn Cymru ers ei gychwyniad. Cyfarfuom â’r penaethiaid yn yr haf a thra oeddem yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan Ryder, cyfarfuom â’r penaethiaid eto i gwblhau’r cytundeb a’u denodd i fuddsoddi yng Nghymru. Buom yn cystadlu’n frwd â rhannau eraill o’r DU a Gweriniaeth Iwerddon am y buddsoddiad hwn ac mae ein llwyddiant, yn enwedig o ran sicrhau datblygiad uwch dechnoleg sydd yn cynnig swyddi o ansawdd uchel gyda chyflogau da, yn dyst i werth a pherthnasedd ein cynnig; cynnig sydd yn seiliedig ar amgylchedd masnachol addas i lwyddo, ein hyder yng Nghymru a’n dull gweithredu sydd yn canolbwyntio ar atebion. Mae’n brawf digonol hefyd mai ein dull o ganolbwyntio ar sectorau wrth ddatblygu ein sylfaen ddiwydiannol yw’r modd gorau i wireddu ein dyheadau, sydd yn fawr ond yn ddichonol.

Prosiect eithriadol yw hwn, sydd wedi’i noddi gan unigolion sydd yn dra phrofiadol a llwyddiannus yn y diwydiant ynni adnewyddadwy. Mae wedi dod â thîm rhagorol at ei gilydd sydd ag ymdeimlad pendant o gyfeiriad a phwrpas, a bydd ei brosiect yn hyrwyddo ein hagenda ar gynaliadwyedd sydd eisoes yn un sylweddol a soffistigedig. Mae’n bwysig nodi bod y prosiect yn cynnwys elfen ymchwil a datblygu helaeth, a thrwy gydweithio â Solarcoating Machinery o’r Almaen, caiff G24i gymorth i ddatblygu gallu cynhyrchu o hyd at 200 MW erbyn diwedd 2008. Gan ymhelaethu ar yr agenda ar gynaliadwyedd, mae’r cwmni’n arddel moeseg gadarn ynghylch cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, ac mae’n bwriadu diwallu ei anghenion ynni ei hun o ffynonellau gwyrdd, fel ynni’r haul, ynni’r gwynt, ynni geothermol a dulliau eraill.

Cawn edrych ymlaen yn awr at weld 300 o swyddi newydd i Gymru mewn cwmni a gofrestrwyd yn y DU y mae ei brif gyfranddalwr yn gwmni yn y farchnad hollbwysig yng Ngogledd America. Wedi cyfnod llwm yn y farchnad honno, yr ydym yn dechrau gweld cyfle gwirioneddol, a G24i yw’r arwydd cyntaf o’r cyfle hwnnw. Yn awr, bydd tîm Busnes Rhyngwladol Cymru, yn fy adran i, yn parhau â’r cynnydd hwnnw dan arweinyddiaeth a chyfarwyddyd pennaeth newydd a deinamig, Ian Williams.

Bu’n rhaid wrth ymdrech gan dîm i ennill y prosiect hwn, sydd â chefnogaeth ryngwladol gan gynnwys partneriaid o’r Unol Daleithiau, yr Almaen a’r Swistir, ac un ohonynt yw athrofa dechnoleg ffederal y Swistir sydd â mwy na 250 o labordai a grwpiau ymchwil ar ei champws.

Enillasom y prosiect hwn am fod Cymru’n cynnig rhywbeth pendant a deinamig. Yr wyf yn falch o ddweud wrthych na fu’n rhaid i Lywodraeth y Cynulliad gynnig anogaethau ariannol i sicrhau’r llwyddiant hwn. Mae Cymru wedi ennill y buddsoddiad hwn yn deg ar sail ei rhinweddau cryf o ran masnach a chynaliadwyedd. Yr wyf yn sicr y byddwch yn croesawu’r newydd hwn heddiw ac y byddwch, fel minnau, yn canmol penderfyniad y cwmni i fuddsoddi yma yn hytrach nag yn un o’r lleoliadau a fu’n cystadlu â ni, nad oedd, er gwaethaf eu cystadlu brwd, yn gallu gwneud cynnig cystal ag un fy adran newydd i ac ymateb mor fuan ag y gallwn ni i ddiwallu anghenion buddsoddwyr.

I gloi, mae heddiw’n ddiwrnod mawr i Gymru, ac yr wyf yn gwbl sicr y bydd penderfyniad G24i yn rhagflaenu llawer mwy o lwyddiannau â gwerth uchel yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod, yn enwedig o ran meithrin arbenigaeth ym maes peirianneg solar a thechnolegau ynni adnewyddadwy eraill.