Skip to content

LG Electronics

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau

Mae’n drist gennyf hysbysu fy nghyd-weithwyr fod LG Electronics Wales wedi cyhoeddi heddiw y bydd eu ffatri yng Nghasnewydd yn cau cyn diwedd y flwyddyn, gyda 315 o swyddi yn cael eu colli.  Bydd cyfnod ymgynghori yn cychwyn nawr rhwng y cwmni, y staff a chynrychiolwyr yr undebau llafur.  Mae’r cwmni yn cynhyrchu monitorau LCD.

Mae fy swyddogion eisoes wedi cysylltu ag uwch weithredwyr y cwmni i drafod y cyhoeddiad, a bydd tîm o’m adran i ac o’r sector gyhoeddus ehangach yn gweithio gyda’r cwmni a’r gweithwyr y mae’r penderfyniad hwn yn effeithio arnynt.  Rydym hefyd yn archwilio’r gadwyn gyflenwi leol er mwyn lleihau effaith arfaethedig y cynlluniau hyn ar unrhyw gwmnïau lleol.

Mae’r cwmni wedi ein sicrhau nad yw’r penderfyniad hwn yn adlewyrchu  ansawdd y gweithlu yng Nghasnewydd mewn unrhyw ffordd, ond ei fod yn ganlyniad i amgylchiadau byd-eang dwys, gan gynnwys gostyngiad yng nghost yr offer TG a gynhyrchir yn y ffatri yng Nghasnewydd.

Mae’r cwmni hefyd wedi cadarnhau na fydd y penderfyniad hwn yn effeithio ar y Service Centre, sy’n rhoi cymorth i wasanaethau cwsmeriaid LGEUK.

Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau gweithwyr LGE y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn adeiladu ar gryfder buddsoddiadau diweddar yng Nghasnewydd ac yn gweithio’n ddi-flino gyda’n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i ddod o hyd i swyddi eraill o ansawdd i bawb y mae’r penderfyniad hwn yn effeithio arnynt.