Skip to content

Trafodiad Hysbysadwy O Dan Reol Sefydlog Rhif 21-Cais Cyngor Sir Caerdydd I Gynnal Gemau Ysgolion Y Du Yn 2009

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Pugh, Y Gweinidog Dros Ddiwylliant, Y Gymraeg a Chwaraeon
Gwnaf ddatganiad o dan Reol Sefydlog Rhif 21 ynglyn â thrafodyn hysbysadwy a wneuthum mewn perthynas â Gemau Ysgolion y DU.

Gwyr pawb y bydd Prydain yn cynnal y Gemau Olympaidd yn 2012. Bydd Caerdydd yn cynnal rhan o’r bencampwriaeth bêl-droed—y tro cyntaf erioed i gystadleuaeth Olympaidd gael ei chynnal ar dir Cymru. Mae’r Gemau Olympaidd yn gyfle enfawr i gynyddu nifer y bobl ifanc yng Nghymru sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Ni all pob plentyn yng Nghymru ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd, ond gallant oll gael y manteision i’w hiechyd a ddaw yn sgîl cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden egniol yn rheolaidd. Dyna gyd-destun fy mhenderfyniad i roi cefnogaeth ariannol wrth gefn i gais Cymru, a arweinir gan ein prifddinas, i gynnal Gemau Ysgolion y DU.

Mae Gemau Ysgolion y DU yn gyfle pwysig i bobl ifanc o bob rhan o’r DU gystadlu mewn digwyddiad mawr yn arwain at y Gemau Olympaidd yn 2012. Mae’n bosibl y gallai plentyn yn ei arddegau sy’n ennill cystadleuaeth yng Ngemau Ysgolion y DU fod ar y podiwm Olympaidd yn Llundain: fodd bynnag, ennyn diddordeb miliynau o bobl ifanc mewn chwaraeon yw’r nod.

Mae Llywodraeth y DU yn darparu £6 miliwn tuag at gostau cynnal y gemau hyd at 2012. Bydd y loteri, drwy Gomisiwn y Mileniwm, hefyd yn cefnogi’r gemau drwy ymddiriedolaeth, newydd ei sefydlu, i’r DU a fydd yn hyrwyddo ac yn cefnogi amrywiaeth mawr o brosiectau, gan gynnwys Gemau Ysgolion y DU, yn ystod y cyfnod yn arwain at y Gemau Olympaidd.

Cynhaliwyd y gemau cyntaf yn Glasgow, ond bydd y digwyddiad yn tyfu’n gyflym bob blwyddyn hyd at 2012. Yn Glasgow cynhaliwyd pum digwyddiad ynghyd â dau ddigwyddiad i athletwyr ag anableddau. Yr wyf yn falch o ddweud i’n tîm o athletwyr ifanc o Gymru chwarae rhan bwysig gan berfformio’n dda. Enillwyd 18 o fedalau i gyd mewn 18 o gystadlaethau gwahanol, sy’n nifer dda, gyda phum medal aur, naw medal arian, a phedair medal efydd.

Fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith yn y Siambr hon a’r tu allan iddi, yr wyf yn benderfynol, drwy fy strategaeth, ‘Dringo’n Uwch’ a’r fframwaith camau nesaf manwl i’w gyflawni, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, y byddwn yn cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol y genedl i lefelau Ewropeaidd mwy arferol.

Fel arfer, un ddinas fydd yn ymgeisio i gynnal y gemau, ond yr wyf am i’r manteision gael eu lledaenu mor eang â phosibl, ac yr wyf yn falch bod consortiwm o ddinasoedd wedi dod ynghyd: Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Ein prifddinas fydd yn arwain y cais, bydd ein pwll nofio cenedlaethol yn Abertawe yn cynnal y cystadlaethau nofio a bydd felodrom Casnewydd yn cynnal y cystadlaethau seiclo. Hoffwn pe bai awdurdodau lleol eraill yn cefnogi’r cais, a fydd, yn anochel, yn wynebu cryn gystadleuaeth o rannau eraill o’r DU, ac yn ymgynnig i gynnal digwyddiadau.

Ar 6 Hydref, cytunais i roi cefnogaeth ariannol wrth gefn gwerth hyd at £500,000 i gais Cymru i gynnal Gemau Ysgolion y DU yn 2009. Gan fod hwn yn ymrwymiad yn y dyfodol, mae’n ofynnol imi o dan y Rheolau Sefydlog hysbysu’r Aelodau. Fel arfer, byddwn yn gwneud hynny cyn cytuno ar y trafodiad ond, yn yr achos hwn, yr oedd yn rhaid imi wneud penderfyniad ar fyrder er mwyn galluogi partneriaid y cais i gael y sicrwydd y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi cefnogaeth ariannol wrth gefn. Heb y sicrwydd hwnnw, ni fyddai cais wedi mynd rhagddo.

Gwn fy mod yn gallu dibynnu ar gefnogaeth fy nghyd-aelodau Llafur ar y mater hwn, a gobeithiaf y bydd pob plaid yn cefnogi bwriad Llywodraeth y Cynulliad i ddefnyddio’r gemau nid yn unig fel dathliad o chwaraeon elít ond hefyd fel ffordd o annog newid sylweddol yn iechyd a lles pobl Cymru y mae’n fraint inni eu gwasanaethu.