Skip to content

Dyddiad Gweithredu Ar Gyfer Deddfwriaeth Ddi-Fwg

Brian Gibbons, Y Gweinidog Dros Iechyd A Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi mai nod Llywodraeth y Cynulliad yw gweithredu’r gwaharddiad ar smygu ym mhob gweithle a man cyhoeddus caeedig yng Nghymru o ddydd Llun 2 Ebrill 2007 ymlaen.

 

Mae anadlu mwg ail-law yn berygl mawr i iechyd, ac amcangyfrifir ei fod yn achosi dros 400 o farwolaethau ymhlith pobl nad ydynt yn smygu o ganlyniad i glefyd y galon, canser yr ysgyfaint, strôc a salwch anadlol. Dyma pam y pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol yn 2003 i wahardd smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig yng Nghymru. Ym mis Mai 2005,  cymeradwyodd y Cynulliad ganfyddiadau’r Pwyllgor ar Smygu mewn Mannau Cyhoeddus a oedd yn galw am waharddiad cynhwysfawr.  Derbyniodd Llywodraeth y Cynulliad argymhellion y Pwyllgor. Mae pob plaid wleidyddol ar draws y Cynulliad wedi cefnogi’r penderfyniad i weithredu’r gwaharddiad fis Ebrill nesaf ac mae ganddo gefnogaeth drawsbleidiol yn y Cynulliad.

 

Mae Deddf Iechyd 2006 wedi rhoi’r pwerau i ni wneud y rheoliadau sydd eu hangen, sy’n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd. Ar ôl i’r ymatebion I’r ymgynghoriad gael eu hystyried ac i’r broses graffu ofynnol gael ei chynnal gan Bwyllgorau’r Cynulliad ac yn y Cyfarfod Llawn, byddwn yn darparu canllawiau manwl i fusnesau, ynghyd â’r arwyddion sy’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth. Mae cyngor ar oblygiadau’r ddeddfwriaeth eisoes ar gael ar wefan wedi’i neilltuo, sef  www.gwaharddsmygucymru.co.uk    

 

Mae Grp Rhanddeiliaid wedi’i sefydlu i roi cyngor ar ddarparu a lledaenu’r canllawiau ac i helpu gyda’r gwaith o raeadru gwybodaeth i sectorau gwahanol. Bydd y Grp yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ar 25 Medi.  

 

Rydym hefyd yn cymryd camau i godi ymwybyddiaeth ymhlith aelodau’r cyhoedd cyn y gwaharddiad. Yr wythnos ddiwethaf, dechreuwyd darlledu hysbysebion newydd ar y teledu a’r radio sy’n tynnu sylw at beryglon mwg ail-law. Hefyd, bydd posteri a matiau cwrw’n cael eu dosbarthu mewn tafarnau a chlybiau, a bydd mwy o weithgareddau cysylltiadau cyhoeddus yn cael eu cynnal yn y wasg a’r cyfryngau lleol ledled Cymru. Yn y Flwyddyn Newydd, byddwn yn rhedeg mwy o hysbysebion teledu a radio yn atgoffa’r cyhoedd o’r dyddiad y bydd y gwaharddiad yn dod i rym.

 

Mater i’r awdurdodau lleol fydd gorfodi’r gwaharddiad ac maent wedi cael mwy o gyllid i ysgwyddo’r gost o gyflawni’r cyfrifoldebau newydd hyn. Fel yn Iwerddon a’r Alban, argymhellir mynd ati i orfodi’r gwaharddiad mewn ffordd na fydd yn achosi gwrthdaro. Bydd swyddogion gorfodi’n cydweithio’n agos â busnesau lleol i’w cael i gydymffurfio â’r ddeddf trwy eu haddysgu a  thrwy gynnig cyngor a chymorth. Mae canllawiau dros dro wedi’u darparu i awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer y gwaharddiad a bydd digwyddiadau hyfforddi’n cael eu cynnal ar gyfer swyddogion llywodraeth leol ym mis Tachwedd

 

Byddaf yn cyfarfod â chynrychiolwyr iechyd o bob plaid yn fisol er mwyn rhoi gwybod iddynt yn rheolaidd am hynt y gwaith o baratoi ar gyfer rhoi’r gwaharddiad ar waith.