Skip to content

Y Contract Cyflenwi Ocsigen

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons , Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dechreuaf drwy osod y contract ocsigen yn ei gyd-destun. Ym 1999, gofynnodd yr Adran Iechyd i Goleg Brenhinol y Ffisigwyr arwain gweithgor amlddisgyblaethol i lunio canllawiau clinigol newydd ar gyfer defnyddio ocsigen cartref. Yr oedd gan nifer o’r canllawiau hyn oblygiadau i gynnwys y gwasanaeth ocsigen cartref cyfredol ac i’r ffordd yr oedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu. Yr oedd hi’n amlwg bod yr adnodd hollbwysig hwn, a welodd ond un newid arwyddocaol yn y 50 mlynedd diwethaf—cyflwyno crynodyddion ocsigen—wedi dod i ddiwedd ei oes o ran y gwasanaeth a gynigiai i gleifion a’i gost-effeithiolrwydd.


Yn wyneb hyn, penderfynodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, yr Arglwydd Hunt, y dylid cynnal adolygiad o’r gwasanaeth ocsigen cartref. Bryd hynny, yr oedd y gwasanaeth, yn bennaf, yn golygu darparu ocsigen naill ai o silindrau mawr a ddarperid gan fferyllwyr cymunedol neu o grynodydd ocsigen wedi ei osod yng nghartref y claf gan gontractor.
Er bod fferyllwyr cymunedol yn darparu gwasanaeth dibynadwy gyda’u cyflenwad, roedd y dulliau triniaeth yr oedd meddygon teulu yn gallu eu rhagnodi dan y GIG wedi eu cyfyngu’n ddifrifol. Yn aml, nid oedd y technolegau diweddaraf a gorau yn cael eu defnyddio onid oedd y claf yn dewis eu prynu drosto ef ei hun. Nid oedd cleifion yn gallu cael gafael ar silindrau ocsigen symudol a allasai wella ansawdd eu bywyd yn sylweddol.


Felly, beth yw’r sefyllfa erbyn hyn? Yn dilyn cyflwyno’r gwasanaeth ocsigen cartref newydd ar 1 Chwefror, bydd Aelodau yn gwybod yn iawn, yn sgîl fy natganiadau i a thrwy gynnyrch eu sachau post hwy eu hunain, bod nifer fawr o broblemau wedi codi gyda Air Products Ltd, ac mae llawer ohonynt wedi eu trafod yn helaeth yn y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac mewn llefydd eraill.


Gweledigaeth y bobl a oedd yn ymwneud â’r contract newydd hwn oedd gwell gwasanaeth ar gyfer cleifion, a thestun siom enbyd yn ystod y chwe wythnos gyntaf yw nas gwireddwyd y weledigaeth honno. Fodd bynnag, yr wyf yn parhau’n argyhoeddedig y bydd y gwasanaeth hwn, yn y pen draw, yn helpu cleifion i reoli eu symptomau yn well yn eu cartref, yn y gweithle neu yn yr ysgol, ond nid—yn hollbwysig—mewn ysbyty. Rhaid inni sicrhau’r grwp bregus hwn o gleifion mai felly y bydd hi.


Mae’r contract newydd ar lefel y DU-gyfan, ac nid yw’r problemau a brofir yn benodol i Gymru ac nid ydynt wedi eu cyfyngu i Air Products Ltd. Mae cyflenwyr eraill a ddefnyddir yn Lloegr yn wynebu’r un problemau. Cynlluniodd Air Products ar gyfer gwasanaethu dwywaith yn fwy na’r galw arferol yn nifer y cleifion, ond profodd hyn yn llawer llai na’r hyn oedd ei angen. Ddechrau Chwefror, profodd eu Canolfan Alwadau alw nas gwelwyd ei debyg o’r blaen, gyda dros 5,000 o alwadau mewn un diwrnod. Esgorodd hyn ar rwystredigaeth sylweddol ymhlith cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol, fel ei gilydd, gan nad oedd modd iddynt gael ateb i’w galwadau. Mae Air Products wedi recriwtio, ac maent yn parhau i recriwtio, mwy o staff i gwrdd â’r cynnydd syfrdanol mewn galw, nid dim ond yn ei Ganolfan Alwadau, ond hefyd er mwyn cynyddu ei swyddogaeth darparu.


Mae fferyllwyr wedi parhau i redeg yr hen system ochr yn ochr â’r un newydd, er mwyn ysgafnhau’r pwysau ar y contractor newydd. Yr wyf yn parhau’n ddiolchgar i’r fferyllwyr cymunedol hynny a estynnodd eu gwasanaeth gydol mis Chwefror ac ymlaen i fis Mawrth. Mae hyn yn nodweddiadol o broffesiynoldeb fferyllwyr yng Nghymru—carfan yr ydym yn gosod cymaint o bwys arni. Bydd WP10s yn parhau’n ddilys ar gyfer ocsigen oni phennir yn wahanol. Parhau i gyflenwi cleifion yw’r pwysigrwydd pennaf o hyd, a bydd y GIG yng Nghymru, yn ganolog, yn cwrdd â chostau ychwanegol i gyflawni hyn, i ddechrau.


Mae Air Products yn awr yn cyflawni ei ymrwymiad yn llwyr o ran rhyddhau pobl o ysbytai a darpariaeth frys. Mae wedi derbyn 1,815 o gleifion yn y chwe wythnos diwethaf. Mae hyn yn ychwanegol at yr ymron i 3,000 o gleifion sy’n derbyn therapi ocsigen hirdymor trwy ddarparu crynodyddion yn eu cartref. Mae mwyafrif helaeth y cleifion hyn hefyd yn awr yn cael eu silindrau wrth-gefn ac unrhyw silindrau ocsigen symudol wedi eu rhagnodi trwy’r contractor newydd.


Mae rhai cleifion yn derbyn mwy nag un math o therapi ocsigen, gan wneud y data’n anodd ei ddehongli. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, amcangyfrifa Air Products, y bydd, maes o law, yn rheoli oddeutu 8,300 math o therapi. Mae hyn yn cyferbynu â’r ffigurau o 6,900 o therapïau a roddwyd iddo cyn i’r contract ddechrau.


Mae’n fwy anodd nodi union nifer y cleifion sy’n derbyn therapi yng Nghymru. Fodd bynnag, ddiwedd yr wythnos diwethaf, credid bod oddeutu chwarter ohonynt yn dal i ddibynnu ar fferyllwyr i ddiwallu eu hanghenion. Mae’r rhain, yn bennaf, yn gleifion a ystyrir yn ddefnyddwyr ysgafn ac a fydd, o’r herwydd, yn cymryd mwy o amser i ail-gyflwyno eu hunain i’w meddygon teulu.


Mae grwp gweithredu, sy’n cynnwys yr Adran Iechyd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, y GIG yn Lloegr, a chyflenwyr, yn rhoi sglein derfynol ar gynllun i fynd i’r afael â’r problemau a ddaeth i’r amlwg yn ychydig wythnosau cyntaf y gwasanaeth ocsigen cartref newydd, a sicrhau bod cyfnod nesaf y rhaglen drosiannol ar gyfer trosglwyddo’r holl gleifion i’r cyflenwyr newydd yn dod yn ôl i drefn. Yn ogystal â hynny, cyfarfu fy swyddogion hefyd â holl gynrychiolwyr ocsigen y byrddau iechyd lleol yr wythnos diwethaf i gael darlun cywir o’r sefyllfa ar lawr gwlad. Y neges yw bod pethau, ar y cyfan, yn gwella a bod Air Products, er nad yn gweithio’n iawn o bell ffordd, yn awr yn cynnig gwasanaeth mwy cyflawn nag ydoedd rai wythnosau yn ôl. Mae byrddau iechyd lleol yn awr yn clywed am lawer llai o broblemau cyflenwi.


Parhaf i hysbysu Aelodau o hynt a helynt y contract hwn dros yr ychydig wythnosau nesaf. Yr wyf yn sicr, yn y dyfodol agos, y bydd gennym y gwasanaeth o safon fyd-eang yr addawyd i ni ac yr oeddem yn ei ddisgwyl.