Skip to content

Y Dreth Gyngor

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinigod Cyllid

Yr oedd yn ofynnol i awdurdodau lleol bennu eu cyllidebau a’r dreth gyngor gysylltiedig ar gyfer 2006-07 erbyn 10 Mawrth. Erbyn hyn yr ydym wedi derbyn y ffigurau perthnasol gan bob awdurdod yng Nghymru, ac mae’n dda gennyf allu dweud wrth y Cynulliad y bydd y cynnydd cyfartalog yn y dreth gyngor, gan gynnwys praeseptau’r heddlu a’r cynghorau cymuned, yn 4.5 y cant ar gyfer 2006-07. Mae hyn yn cyfateb i’r cynnydd yn y dreth gyngor yn Lloegr. Yng Nghymru, hwn fydd y cynnydd cyfartalog lleiaf ond un ers cyflwyno’r dreth gyngor. Y cynnydd lleiaf oedd 3.8 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.


Mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu’r agwedd aeddfed a chyfrifol a fabwysiadwyd gan lywodraeth leol tuag at y broses o bennu cyllidebau. Mae hefyd yn adlewyrchu’r setliad terfynol da a ddarparwyd gan Lywodraeth y Cynulliad.


Bydd cynnydd o 4.4. y cant ar gyfartaledd yn elfen awdurdodau unedol y dreth gyngor. O’i gyfuno â’r cynnydd o 5.1 y cant mewn cymorth gan y Cynulliad a gyhoeddais drwy’r setliad, mae hyn yn rhoi i awdurdodau lleol y cyllid i ddarparu’r gwasanaethau y mae gan bobl Cymru hawl i’w disgwyl. Pennwyd cynnydd o lai na 4 y cant gan naw awdurdod, a phennwyd y cynnydd lleiaf, sef 2.1 y cant gan Sir Ddinbych. Dim ond dau gyngor, sef Casnewydd a Bro Morgannwg, a gytunodd ar gynnydd o fwy na 5 y cant. Pennwyd y cynnydd mwyaf, sef 5.5 y cant gan Fro Morgannwg.


Dadl Casnewydd a Bro Morgannwg oedd eu bod yn y gorffennol wedi pennu cyllidebau a oedd yn is na’u hasesiadau gwariant safonol. Casnewydd, o ganlyniad, sydd â’r dreth gyngor isaf ond un yng Nghymru, ac mae Bro Morgannwg yn chweched o’r gwaelod. Deuthum i’r casgliad felly nad oedd yr amgylchiadau eleni yn galw arnaf i ddefnyddio’r pwerau wrth gefn sydd gennyf i gyfyngu ar gynnydd mewn cyllidebau a threth gyngor. Teimlwn ei bod yn bwysig cael trafodaethau gyda’r awdurdodau er mwyn herio’u cynnydd ond, yn y pen draw, mae awdurdodau lleol yn atebol i’w hetholwyr am y penderfyniadau y maent yn eu gwneud, a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddwn yn dymuno ymyrryd.


O ran yr heddlu, pennodd pob un o’r pedwar awdurdod heddlu sydd yng Nghymru gynnydd o 5 y cant ar gyfer eu praeseptau. Gan nad yw plismona wedi ei ddatganoli, pwysleisiais pa mor bwysig yw hi i awdurdodau’r heddlu yng Nghymru weithredu yn unol â’r disgwyliadau a bennwyd gan y Swyddfa Gartref ar gyfer awdurdodau’r heddlu yn Lloegr. Yr wyf yn falch o ddweud bod cynnydd o 5 y cant yn unol â’r disgwyliadau hynny. Yn y cyfnod yn arwain at bennu’r cyllidebau, cefais drafodaethau gydag awdurdodau’r heddlu, ac yr wyf yn ymwybodol, yn achos Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys, bod trosglwyddo pensiynau’r heddlu allan o grant yr heddlu wedi creu anawsterau ariannu penodol ar gyfer 2006-07. Yr ydym yn dal i drafod y mater hwn gyda’r swyddogion. Fodd bynnag, yr wyf yn falch bod yr awdurdod wedi cydnabod bod angen gweithredu’n rhesymol wrth bennu ei gyllideb er gwaetha’r anawsterau hyn.


Bydd manylion llawn ffigurau’r dreth gyngor ar gyfer 2006-07 i’w gweld mewn datganiad ystadegol a gyhoeddir ar 23 Mawrth.