Skip to content

Rheoliadau Mangreoedd Di-Fwg etc (Cymru) 2007

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
 Mae Deddf Iechyd 2006 bellach wedi cael Cydsyniad Brenhinol gan arwain y ffordd i Gymru gyflwyno gwaharddiad ar smygu mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd erbyn Haf 2007.

Heddiw, rydym wedi dechrau ymgynghori ar y rheoliadau drafft, sy’n ymdrin â materion megis diffiniadau o "caeedig", eithriadau arfaethedig, gofynion ynglŷn ag arwyddion a threfniadau gorfodi.  Mewn cysylltiad â hyn rydym wedi lansio gwefan newydd a fydd yn darparu gwybodaeth am y gwaharddiad. Mae’r wefan - www.gwaharaddsmygucymru.co.uk - yn egluro’r rhesymau dros y ddeddfwriaeth ac yn amlinellu’r camau gweithredu y bydd angen i fusnesau eu cymryd.  Mae hefyd yn cynnwys astudiaethau achos manwl ar amrywiaeth o fusnesau ym mhob cwr o Gymru sydd eisoes wedi cyflwyno polisïau di-fwg gwirfoddol, gan gynnwys Caffi Java Bean yng Nglyn-nedd, lle rydw i’n lansio’r ymgynghoriad heddiw.

Mae negeseuon o gefnogaeth gan nifer o ffigyrau cyhoeddus uchel eu proffil yn cynnwys Shirley Bassey, Bryn Terfel, Gabby Logan a Nicole Cooke hefyd wedi’u rhestru ar y wefan ynghyd â chyngor defnyddiol a dolenni i wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.

Daw’r cyfnod ymateb i’r ymgynghoriad i ben ar 13 Hydref 2006 ac wedi hynny ystyrir y rheoliadau gan bwyllgorau perthnasol y Cynulliad ac mewn Cyfarfod Llawn.