Skip to content

Gweithdy Soffas

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau
Mae'r Gweithdy Soffas yn rhan o is-adran fanwerthu Grwˆ p MFI.  Ar 28 Chwefror 2006, cyhoeddodd MFI ei fod wedi bod yn colli symiau sylweddol o arian, a hynny yn erbyn cefndir o gostau cynyddol a chymerwyd camau radical i leihau costau er mwyn sicrhau bod eu busnes yn cael ei ailalinio i ymateb i anghenion cwsmer llawer mwy soffistigedig.

Cynhaliodd y cwmni adolygiad sylfaenol gydag atebolrwydd llawer cliriach, gan amlinellu pedair uned fusnes wahanol o fewn y grwˆ p, a phob un yn cael y dasg o greu elw yn eu rhinwedd eu hunain.  Penderfynodd MFI leihau ei ddibyniaeth ar weithgynhyrchu mewnol gyda'r posibilrwydd o golli dros 1100 o swyddi ledled y DU.

Rhan o'r cam hwnnw oedd cyhoeddi'r posibilrwydd o werthu Uned Fusnes y Gweithdy Soffas.  Er mwyn paratoi'r busnes i gael ei werthu i fuddsoddwr posibl, yn ogystal ag ymateb i dueddiadau cyfnewidiol ymhlith cwsmeriaid, roedd y cwmni'n teimlo bod angen sicrhau bod y busnes yn gystadleuol o safbwynt ei sylfaen gostau a'r ddarpariaeth gwasanaeth.

Ar 19 Mai 2006, dechreuodd MFI ar broses ymgynghori 90 diwrnod i gau cyfleuster Llantrisant gyda 324 o swyddi'n cael eu colli.   Yn ystod y cyfnod hwn, mae'r Grwˆ p yn dal i farchnata'r maes busnes hwn i fuddsoddwyr posibl, a hynny'n weithredol.

Mae'r cwmni wedi penodi sefydliad allanol i helpu gweithwyr i gael gwaith yn lleol yn y dyfodol.

Mae Tîm Cymru wedi bod mewn cysylltiad â'r tîm rheoli lleol ac wedi dechrau gweithio gyda'r cwmni gan amlinellu'r cymorth sydd ar gael drwy Raglen ReACT.