Skip to content

Glwy'r Pennau - nifer yr achosion a chyfraddau derbyn MMR

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons,Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Roedd 5415 o hysbysiadau o achosion o glwy’r pennau yng Nghymru yn 2005.  Cymerwyd y wybodaeth hon o ddata’r Swyddfa Ystadegau Gwladol am hysbysiadau o afiechydon heintus, a ddiweddarwyd ar 22/12/05.  Yn ôl data’r ONS am hysbysiadau o afiechydon heintus yn 2004, cyfanswm yr hysbysiadau o achosion o glwy'r pennau yng Nghymru y flwyddyn honno oedd 1737.

Fel gweddill gwledydd y DU, mae Cymru’n profi nifer fawr o achosion o glwy'r pennau ar hyn o bryd. Y grŵp sydd fwyaf tebygol o fod mewn perygl yw'r rheini rhwng 17-20 mlwydd oed. Ar ddiwedd yr 1980au a dechrau'r 1990au, ni chafodd yr unigolion hyn frechiad a oedd yn cynnwys clwy'r pennau, mewn un na dau ddôs. Roeddent hefyd yn tyfu i fyny mewn cyfnod pan oedd yn dod yn fwyfwy anghyffredin i blant ddal clwy'r pennau.

Mae pedair gwlad y DU yn derbyn cyngor annibynnol gan y Cydbwyllgor
ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI). Ar gyngor JCVI, mae pob plentyn yn cael cynnig brechiad MMR fel mater o drefn, a hynny pan yn dri mis ar ddeg oed, ac eto cyn iddynt fynychu'r ysgol (fel arfer rhwng bod yn deirblwydd a phedwar mis oed, a’u pen-blwydd yn bump oed). Maent yn argymell y dylid rhoi dau ddôs o frechiad yn cynnwys clwy'r pennau lle bynnag bo hynny’n bosibl. Ar y llaw arall, maent yn cydnabod bod cyrraedd pobl yn eu harddegau yn her ymarferol sylweddol. Maent felly'n credu y dylid gwneud ymdrech i sicrhau eu bod yn derbyn o leiaf un dôs o frechiad yn cynnwys clwy'r pennau.

Gan gydnabod bod angen gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn cael eu diogelu’n ddigonol, comisiynodd Llywodraeth y Cynulliad Grŵp Gorchwyl a Gorffen, o dan gadeiryddiaeth Dr Richard Roberts o'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol. Cylch gwaith y grŵp oedd edrych ar yr holl ffactorau a allai sicrhau bod gennym well rheolaeth ar y tri afiechyd, yn enwedig trwy sicrhau bod mwy o bobl yn derbyn y brechiad MMR. Un o'r prif argymhellion oedd sefydlu’r rhaglen dal i fyny, wedi ei anelu at bobl rhwng 11 a 25 mlwydd oed. Ar hyn o bryd, mae’r brechiad MMR yn cael ei gynnig i bawb a anwyd rhwng 1 Ionawr 1980 a 31 Awst 1994, sef y rheini sydd oddeutu 11-25 mlwydd oed erbyn hyn.

Mae nifer y plant dwyflwydd sydd wedi derbyn brechiad MMR sylfaenol wedi cynyddu i 85% yn ystod y chwarter hwn. Mae'n ymddangos bod y nifer sy'n derbyn brechiad MMR yn gwella o'r isafbwynt a welwyd yn 2003, pan ddisgynodd yn is na 80%. Roedd yr isafbwynt hwn yn cyd-daro ag amheuon ynghylch diogelwch y brechiad. Ers hynny, profwyd bod yr amheuon hynny'n ddi-sail, ac mae pob arbenigwr ar frechu yn cydnabod bod gan MMR gofnod diogelwch rhagorol. Fodd bynnag, mae llawer iawn o waith i'w wneud eto i gynyddu'r nifer sy'n derbyn MMR i'r lefel o 95% a argymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd, ac i adennill hyder pobl yn y brechiad.