Skip to content

Yr Adolygiad O Bolisi Gwyddoniaeth

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Rhodri Morgan, Y Prif Weinidog

Y Prif Weinidog: Wrth ymateb i’r adolygiad hwn, cymeradwyaf y pwyllgor, ei staff a’i dystion am ystyried y pwnc pwysig hwn mor drylwyr. Mae’r Llywodraeth yn derbyn prif argymhelliad y pwyllgor ynglyn â’r cwestiwn $64,000,000, sef ei bod hi’n bryd yn awr i Gymru gael polisi gwyddoniaeth cyffredinol. Dyna’r rheswm pennaf pam yr aethom ati i ymgynghori yn gynharach eleni ar sail y ddogfen ‘Polisi Gwyddoniaeth i Gymru?’, y cawsom lawer iawn o adborth defnyddiol amdani.

Mae hynny ac adroddiad y pwyllgor yn golofnau pwysig y disgwylir seilio ein polisi gwyddoniaeth diffiniol arno yn ddiweddarach yr hydref hwn, a bydd hefyd yn ategu fframweithiau strategol presennol y mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi eu sefydlu mewn meysydd sydd â pherthynas gref â gwyddoniaeth a thechnoleg, fel datblygu economaidd, addysg uwch, iechyd, a’r amgylchedd.

Honnai’r adborth a gawsom fod gormod o bwyslais ar ddatblygu economaidd yn ein dogfen. Bydd datblygu economaidd yn parhau, fodd bynnag, i fod yn agwedd holl bwysig o unrhyw bolisi gwyddoniaeth a fydd yn gweddu i Gymru. Os oedd hynny’n feirniadaeth ddilys o’n dogfen bolisi, mae’n debyg y byddai’n feirniadaeth ddilys hefyd o ddogfen y pwyllgor. Un ai yr oedd y naill a’r llall ohonom yn gywir neu yr oedd y naill a’r llall ohonom yn anghywir.

Byddwn hefyd yn ymdrin â masnacheiddio gwyddoniaeth, addysg ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg, y cyflenwad a’r galw o ran personél cymwysedig mewn disgyblaethau perthynol i wyddoniaeth, deialog gyhoeddus am wyddoniaeth, yn ogystal â defnyddio gwyddoniaeth o fewn llywodraeth mewn meysydd fel iechyd a’r amgylchedd. Bydd ein dogfen yn nodi, fel y gwnaeth yr ymgynghoriad, dri maes blaenoriaeth, lle credwn ni y mae cryfder academaidd a chryfder yn y sector preifat yn datblygu yng Nghymru. Mae hynny’n dyngedfennol o safbwynt adroddiad y pwyllgor a’n dogfen ymgynghori. Mae’n golygu nodi’r meysydd hynny lle’r ydym yn sicr o lwyddo, lle mae mwy o ymchwil gwyddonol nid yn unig yn darparu mwy o swyddi da i ymchwilwyr a grantiau, ond hefyd yn helpu i ddatrys problemau llywodraeth a chymdeithas.

Yr ydym yn cytuno â’r pwyllgor bod meithrin diddordeb mewn gwyddoniaeth ac awch tuag ati yn ifanc, a chadw’r brwdfrydedd hwnnw ar ôl ei ennyn, yn hanfodol i gryfhau ein sylfaen wyddoniaeth yng Nghymru.

O ran addysg, yr ydym eisoes yn adolygu’r cwricwlwm i’r rhai 3 i 16 oed, yn cynnwys y cwricwlwm gwyddoniaeth. Bydd ymgynghoriad cenedlaethol am hynny yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Yr ydym newydd gyflwyno sawl TGAU newydd yn y gwyddorau i weddu i wahanol ddoniau a gallu. Mae sefydliadau addysg uwch Cymru wedi datblygu cysylltiadau cryf ag ysgolion i dangos atyniadau astudio gwyddoniaeth, technoleg beirianyddol a mathemateg.

Y meysydd sydd gennym lle mae gwahaniaeth yw’r rheini lle mae gennym ddiffiniad gwahanol o’r hyn sy’n creu polisi gwyddoniaeth. Mae’r pwyllgor o blaid prif ymgynghorydd gwyddonol dynodedig gyda chyngor cynghori cysylltiol ac adran fel rhan o becyn polisi gwyddoniaeth. Yn ein barn ni, ffurfio cyfres o flaenoriaethau gwyddoniaeth ddylai ddod yn gyntaf. A oes rhaid dod i’r casgliad yn awr y dylai fod gan Lywodraeth y Cynulliad brif ymgynghorydd gwyddonol? Mae llawer o ffynonellau o gyngor arbenigol am wyddoniaeth ar gael, yn cynnwys y prif swyddog meddygol, y prif gynghorydd gwyddonol ym maes iechyd, y prif gynghorydd gwyddonol amgylcheddol a’r prif swyddog ymchwil cymdeithasol, ymysg swyddi eraill. Mae’r Llywodraeth newydd benodi grwpiau cynghori’r Gweinidogion ar gyfer menter ac addysg, sy’n cynnwys pobl sydd ag arbenigedd gwyddoniaeth a masnacheiddio gwyddoniaeth i ddarparu cyngor annibynnol, allanol i Weinidogion.

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gyflenwi ymchwil wyddonol ac addysg yng Nghymru ac ar gyfer Cymru, ac mae hefyd yn cyfrannu drwy roi cyngor pwysig i Weinidogion am y sylfaen wyddoniaeth yn ein prifysgolion.
Rhaid ystyried yr agenda wyddoniaeth a thechnoleg i Gymru yng nghyd-destun gwyddoniaeth y DU, gan nad yw gwyddoniaeth gan mwyaf wedi cael ei datganoli. Mae’n synhwyrol cynnal perthynas waith agos â chynghorwyr cyfatebol sy’n gweithio i Lywodraeth y DU. Mae’r cyfrwng iawn i sicrhau cyd-drefnu ar lefel uchel rhwng gwahanol elfennau o’r capasiti cynghori sydd eisoes ar gael, sef yr angen am bolisi gwyddoniaeth cyffredinol, yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Efallai y bydd cryfhau’r rôl gyd-drefnu hon yn y dyfodol yn mynd i’r afael â phryderon y pwyllgor yn y maes hwn. Mae cynigion penodol y pwyllgor ar gyfer rhaglenni cyllido wedi cael eu gwrthod felly fel rhai cynamserol. Dylid cael y polisi gwyddoniaeth yn iawn cyn codi cwestiynau ynglyn â’r cyllid.

Bu trafodaeth helaeth, fel a ddisgrifiwyd yn adroddiad y pwyllgor, am gyfran gyfredol Cymru o grantiau’r cyngor ymchwil. Yr ydym wedi gosod targedau uchelgeisiol i addysg uwch yng Nghymru i gipio grantiau gan y cyngor ymchwil. Mae’r ddogfen ‘Ymgeisio yn Uwch’ yn cynnig y cyllid ar gyfer trefniadau cydweithio i geisio cryfhau gallu ein sector addysg uwch i ennill rhagor o gyllid.

Mae cyllid o’r Gronfa Seilwaith Ymchwil Wyddonol, nad yw wedi cael ei datganoli, eisoes yn cael ei ddarparu i’r sector addysg uwch yng Nghymru, yn benodol i’w fuddsoddi mewn seilwaith ymchwil. O’i gyfuno â chyllid CCAUC, mae hyn yn fwy na £46 miliwn ar gyfer y flwyddyn gyfredol a’r flwyddyn nesaf.

Byddwn yn parhau i weithio ar ein tri maes blaenoriaeth, fel a gymeradwywyd gan y pwyllgor. Rhaid i wlad fach fel Cymru dargedu ei ffocws oherwydd ni all wneud popeth gyda rhagoriaeth fyd-eang. Rhaid inni chwilio am glystyrau o arbenigedd gwyddonol a all ddatblygu màs critigol ar lefelau Ewropeaidd neu fyd-eang.

Yr ydym eisoes yn annog a helpu cydweithio rhwng sefydliadau addysg uwch Cymru i raddau sylweddol, o ran gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae hyn yn cynnwys Canolfan Cymru ar gyfer Niwrowyddoniaeth Wybyddol, Canolfan Gwyddorau Mathemategol a Chyfrifiannu Cymru a phartneriaeth ymchwil a menter Abertystwyth/Bangor. Mae’r sector AU yng Nghymru yn frwd o blaid y dull gweithredu hwn.

Yr ydym yn croesawu argymhelliad y pwyllgor i hwyluso cydweithredu rhwng prifysgolion Cymru o ran gwyddoniaeth a thechnoleg. Yn wir, mae’r argymhelliad hwn, i bob diben, yn gymeradwyaeth i’r help sydd eisoes yn cael ei ddarparu i gynorthwyo cydweithredu rhwng ein sefydliadau addysg uwch, a rhyngddynt hwy a’r ddau sefydliad ymchwil sector cyhoeddus a’r prifysgolion drws nesaf iddynt, sef y Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd a phrifysgol Aberystwyth, a’r Ganolfan Defnydd Tir Amgen a phrifysgol Bangor.

Nid yw llawer o’r agenda a’r cyllid gwyddoniaeth o dan ein rheolaeth ni, ond yn gyffredinol mae’r modd gennym i annog arloesi a datblygu. Mae cyllid drwy SMARTCymru a thrwy gymorth rhanbarthol dewisol—sydd wedi’i aildargedu erbyn hyn o blaid swyddi seiliedig ar wybodaeth, sydd â gwerth ychwanegol uwch—yn cefnogi ymchwil ac arloesi yn y sector preifat i hyrwyddo datblygu gwyddonol a thechnolegol tymor hir yn ein meysydd blaenoriaeth allweddol. Eto, mae’r cyfundrefnau grant cyfredol a chyfundrefnau sy’n ymddangos, sy’n canolbwyntio mwy ar arloesi, technoleg a gweithgarwch yn ymwneud ag ymchwil, yn ymdrin yn rhannol ag argymhelliad y pwyllgor ynglyn ag aildargedu cymorth ariannol.

Bydd Busnes Rhyngwladol Cymru ac unedau eraill yn y weinyddiaeth yn parhau i geisio dod â diwydiannau newydd seiliedig ar ymchwil, cwmnïau rhyngwladol yn arbennig, i Gymru, fel yr argymhellwyd. Mae’r cyhoeddiadau ynglyn â G24innovations Ltd, Aviza Technology a Inspired Broadcast Networks dros y tair wythnos ddiwethaf yn enghreifftiau rhagorol. Fel y gofynnodd y pwyllgor, yr ydym erbyn hyn yn hwyluso teithiau masnach tramor sy’n cyfuno cynrychiolwyr o fyd busnes ac academia.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous o ehangu i wyddoniaeth a thechnoleg, ac mae gwaith y pwyllgor a’n dogfen ni am bolisi gwyddoniaeth sydd ar fin ymddangos i gyd yn rhan o strategaeth i adeiladu dyfodol cyffrous, wedi’i seilio ar wyddoniaeth, i Gymru.