Skip to content

Haint Clostridium difficile

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog Dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Croesawaf y cyfle i wneud y datganiad hwn i’r Cyfarfod Llawn. Ar 11 Hydref, cyhoeddodd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol ddata ar nifer yr achosion o Clostridium difficile a nodwyd yng Nghymru rhwng 1 Ionawr 2005 a 31 Rhagfyr 2005. Hwn oedd y tro cyntaf i ddata ar gyfer heintiau C. difficile gael eu cyflwyno fesul ymddiriedolaeth yng Nghymru. Dengys y data fod ychydig yn llai na 15 o bob 1,000 o gleifion 65 oed a hyn a dderbyniwyd mewn ysbytai yng Nghymru wedi datblygu’r haint ar gyfartaledd yn 2005. Yr oedd y canlyniadau’n amrywio rhwng ysbytai, sy’n dangos bod y risg o gael yr haint yn dibynnu ar sawl ffactor lleol, sy’n rhywbeth yr ydym wedi’i bwysleisio mewn perthynas â phob haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd. Cofnodwyd lefelau tebyg o haint ymhlith dynion a menywod, ond yr oedd y gyfradd haint ar y cyfan yn uwch ymhlith y cleifion hynaf a’r rhai a oedd yn cael triniaeth ar gyfer clefyd yr arennau.

Gall Clostridium difficile fod yn haint difrifol ac yr wyf yn ymrwymedig i fynd i’r afael â hyn fel rhan o’n hymgyrch ehangach yn erbyn pob haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, sy’n bolisi sy’n dechrau talu ar ei ganfed. Cyhoeddwyd data’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol o ganlyniad i raglen wyliadwriaeth a fu’n rhedeg ers mis Ionawr 2005, sydd â’r nod o fonitro lefel y C. difficile yn ein hysbytai. Mae’r cynllun gwyliadwriaeth hwn yn agwedd bwysig ar ‘Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd: Strategaeth ar gyfer Ysbytai yng Nghymru’, a lansiwyd yn 2004 ac mae â’r nod o helpu ymddiriedolaethau’r GIG i leihau baich yr holl heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yng Nghymru. Drwy wneud y gwaith gwyliadwriaeth hwn, gall ymddiriedolaethau’r GIG a’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol fonitro effeithiolrwydd strategaethau rheoli heintiau ac amlygu meysydd posibl i’w harchwilio ymhellach ac i weithredu arnynt. Gwneuthum ymrwymiad i gyhoeddi’r data hwn, ynghyd â chynlluniau gwyliadwriaeth eraill, ym mis Hydref y llynedd, a arweiniodd at gynnwys heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd fel un o’n targedau fframwaith gwasanaeth a chyllid blynyddol.

Efallai y bydd Aelodau’n ymwybodol o’r diddordeb diweddar gan y cyfryngau mewn math cymharol newydd o Clostridium difficile, math 027. Yr oedd y math hwn yn gysylltiedig â’r achosion yn Ysbyty Stoke Mandeville yn Aylesbury rhwng mis Hydref 2003 a mis Mehefin 2005. Dengys data o’r labordy cyfeiriadau anerob yng Nghaerdydd fod y math hwn wedi lledaenu i dros 80 o ysbytai yn Lloegr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dengys gwaith gwyliadwriaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol fod math 027 wedi’i ganfod yng Nghymru ar lefelau isel iawn a, hyd yma, ni fu’n gysylltiedig ag unrhyw achosion. Bydd yn parhau i gael ei fonitro’n agos gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, sy’n cynnal uned cyfeiriadau anerob y DU. Fel y dywedais, mae lleihau nifer yr heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn flaenoriaeth. Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol i gynyddu ymwybyddiaeth o’r holl heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, yn cynnwys Clostridium difficile, a gweithdrefnau rheoli heintiau ymysg staff yn y GIG. Mae’r pecyn e-ddysgu a lansiwyd yn ddiweddar yn darparu hyfforddiant rheoli heintiau i holl staff y GIG sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â chleifion.

Ni ellir cymharu’r data a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn uniongyrchol â gwledydd eraill y DU. Fodd bynnag, yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd canlyniadau dros dro yr arolwg o nifer yr achosion o heintiau yn y DU yn 2006 gan y Gymdeithas Heintiau Ysbytai yn ei chynhadledd ryngwladol yn Amsterdam. Ar ddechrau 2006, arweiniodd y gymdeithas arolwg pwysig o nifer yr achosion o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon, gyda’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yn arwain y gwaith o reoli’r rhaglen ym mhob ymddiriedolaeth yng Nghymru. Mae hwn yn arolwg mor bwysig fel ein bod wedi ei gwneud yn ofynnol i bob ymddiriedolaeth yng Nghymru gymryd rhan ynddo. Bydd hyn yn ein galluogi i gael darlun cynhwysfawr. Fel y dywedais, er na ellir cymharu data diweddar ar Clostridium difficile â gwledydd eraill, mae’r arolwg ar nifer yr achosion o heintiau yn ein galluogi i wneud hynny. Dengys mai cyfradd yr haint Clostridium difficile ar gyfer y rhai dros 65 oed yng Nghymru yw’r isaf yn y DU, er nad yw’r Alban wedi cyhoeddi ei chanlyniadau eto. Ar gyfer y rhai o dan 65 oed, grwp llai o gleifion, Cymru sydd â’r gyfradd isaf ond un ar ôl Gogledd Iwerddon. Mae canlyniadau eraill o’r arolwg yr un mor gadarnhaol i Gymru.

Mae nifer yr achosion o heintiau yn y DU wedi gostwng o 9 y cant yn yr arolwg blaenorol, a gynhaliwyd rhwng 1993 a 1994, i 7.6 y cant yn yr arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar. Ar gyfer Cymru, y gyfradd ar gyfer pob haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd yw 6.3 y cant. Mae hyn yn llai na’r 8.2 y cant a gofnodwyd yn Lloegr ac yn llai na nifer yr achosion o heintiau ar gyfartaledd yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon, sef 7.6 y cant, sy’n newyddion da i Gymru ac sy’n dangos bod y strategaethau i leihau nifer yr achosion o heintiau yr ydym yn eu rhoi ar waith yn cael effaith gadarnhaol.

O’r arolwg hwn a gynhaliwyd yn ddiweddar o nifer yr achosion o heintiau, mae’r un peth yn wir ar gyfer MRSA. O’r 6.3 y cant o heintiau yng Nghymru, awgrymodd y data fod tua 13 y cant yn gysylltiedig ag MRSA. Mae hynny’n cyfateb i gyfradd o lai na 1 y cant ar gyfer nifer yr achosion newydd o MRSA yn ein hysbytai ac mae’n gefnogaeth bellach i’n hymgyrch barhaus yn erbyn pob agwedd ar heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd.
Mae’n amlwg ein bod yn gweld lleihad gwirioneddol yn nifer yr heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, ond mae’r un mor glir y gallem wneud mwy o hyd. Yr ateb fydd parhau i wneud yr un peth, gan annog eraill i ymdrin â’u problemau heintiau lleol, a gweithio gyda phartneriaid i nodi a darparu atebion. Addysg yw’r ateb i wireddu ein holl ddisgwyliadau—disgwyliadau’r cyhoedd yn ogystal â disgwyliadau gweithwyr proffesiynol. Drwy gynyddu ymwybyddiaeth byddwn yn parhau i ddarparu atebion a fydd yn gwella gofal cleifion drwy leihau nifer yr achosion o heintiau.

Yn olaf, felly, rhaid inni osgoi’r straeon difeddwl sy’n codi braw a geir yn y cyfryngau ynghylch yr heintiau diweddaraf. Mae’n bwysig nad ydym yn dychryn cleifion yn ddiangen i’r graddau eu bod yn peidio â manteisio ar ofal iechyd modern. Fodd bynnag, mae heintiau gofal iechyd yn fater difrifol ac yr ydym yn ymrwymedig i leihau’r ffigurau ymhellach, gan adeiladu ar yr arferion da sydd gennym eisoes yng Nghymru.