Skip to content

Ymateb Y Llwodraeth I'r Adroddiad Gan CoRWM am Reoli Gwastraff Ymbelydrol Yn Ddiogel

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Y Gweinidog Dros Yr Amglychedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

 Ymateb yw'r datganiad hwn i adroddiad y Pwyllgor ar Reoli Gwastraff Ymbelydrol (CoRWM), a gafodd ei gyhoeddi ar 31 Gorffennaf. Mae datganiadau tebyg yn cael eu gwneud yn Senedd San Steffan ac yn Senedd yr Alban. Hoffwn ddiolch i Gordon MacKerron, y Cadeirydd ac i aelodau'r Pwyllgor am yr holl waith rhagorol y maent wedi'i wneud wrth baratoi eu hadroddiad unfrydol.  

Gofynnwyd i CoRWM argymell pa ddewis, neu gyfuniad o ddewisiadau, a fyddai orau ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol mwy gweithredol y DU yn y tymor hir, ac a fyddai'n diogelu pobl a'r amgylchedd.  Bydd gwaith y Pwyllgor, yn ogystal â'r penderfyniadau yr wyf yn gwneud cyhoeddiad yn eu cylch heddiw, yn cwblhau ail gam rhaglen y Llywodraeth i Reoli Gwastraff Ymbelydrol yn Ddiogel.

Ar sail adroddiad CoRWM, gallwn symud ymlaen i gyfeiriad penodol y mae pawb yn gytûn yn ei gylch.

Mae'r Llywodraeth (Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Gweinyddiaethau Datganoledig) yn derbyn argymhellion CoRWM ynghylch rheoli gwastraff mwy gweithredol y DU yn y tymor hir drwy ddulliau gwaredu daearegol, ac ynghylch yr angen i'w storio'n ddiogel yn y cyfamser nes bod modd gael gwared arno mewn ffyrdd daearegol.

Fel y nodir yn adroddiad CoRWM, cael gwared ar wastraff o'r fath mewn ffyrdd daearegol yw bwriad llawer o'r gwledydd niwclear eraill, gan gynnwys Gwlad Belg, Ffrainc, y Ffindir, yr Almaen, Japan, Sweden, y Swistir ac Unol Daleithiau'r America.  Serch hynny, mae cael gwared ar y gwastraff hwn mewn ffyrdd daearegol yn gryn her a bydd angen ymrwymiad dros ddegawdau lawer.  

Rydym yn derbyn argymhellion CoRWM ynghylch yr angen am broses sy'n cael ei rhoi ar waith fesul cam er mwyn datblygu dulliau daearegol o waredu'r gwastraff hwn, ac ynghylch yr angen i bennu pryd yn union y bydd angen gwneud penderfyniadau. Drwy wneud hyn, bydd modd i'r Llywodraeth adolygu hynt y gwaith, asesu costau a gwerth am arian, a'r effaith ar yr amgylchedd cyn penderfynu symud ymlaen i'r cam nesaf.
Rhaid wrth bedwar peth cyn mynd ati i gynllunio ac i ddatblygu'r dewis i waredu'n ddaearegol:

  • yn gyntaf, sefydliad cryf ac effeithiol, y mae ganddo gyfrifoldebau ac atebolrwydd clir, i weithredu yn hyn o beth;
  • yn ail, prosesau rheoleiddio cadarn ac annibynnol ar ran y rheoleiddwyr statudol - yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, asiantaethau'r amgylchedd a'r Swyddfa Diogelwch Niwclear Sifil;
  • yn drydydd, craffu annibynnol a chyngor annibynnol i'r Llywodraeth ar sut i weithredu yn hyn o beth; ac
  • yn bedwerydd, partneriaeth gyda'r gymuned lle gwaredir y gwastraff.

Mae adroddiad CoRWM yn nodi bod gwastraff ymbelydrol eisoes yn cael ei storio'n ddiogel fel rhan o gylch gwaith yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, a gafodd ei sefydlu o dan Ddeddf Ynni 2004. Yn ei strategaeth, mae'n cydnabod bod angen iddo ystyried penderfyniadau'r Llywodraeth am CoRWM, a fydd yn cael sylw yn ei raglen storio at y dyfodol.

Rydym wedi penderfynu mai'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear hefyd ddylai fod yn gyfrifol am ddulliau daearegol o gael gwared ar y gwastraff hwn, a hynny er mwyn creu un sefydliad a fydd yn gallu ystyried holl gamau'r cylch rheoli gwastraff.

Gorchwyl craidd yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear yw dadgomisiynu cyfleusterau niwclear cyhoeddus sifil y DU, a glanhau ar eu hôl, gan wneud hynny mewn ffordd gost effeithiol a chan ddiogelu'r amgylchedd.  

Eisoes mae gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear rwymedigaethau statudol yn ymwneud â diogelwch, diogelu'r amgylchedd a gwarchodaeth o dan Ddeddf Ynni 2004, ac mae ei gontractwyr yn cael eu rheoleiddio gan asiantaethau'r amgylchedd, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Swyddfa Diogelwch Niwclear Sifil. Mae'n rhaid i'w Strategaeth a'i Gynlluniau Blynyddol gael eu cymeradwyo gan y Llywodraeth.

Bydd rhoi'r cyfrifoldeb i un sefydliad sy'n cael ei oruchwylio gan y Llywodraeth, yn ogystal â mabwysiadu gweithdrefnau rheoleiddio cadarn, yn fodd i reoli gwastraff ymbelydrol y DU yn ddiogel yn y tymor hir. Bydd yn fodd i roi sicrwydd ynghylch cyfrifoldebau ac atebolrwydd, ac i wneud y gwaith hwn mewn ffordd effeithiol a chydgysylltiedig.  

Er mwyn cydnabod cyfrifoldebau newydd yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, byddwn yn sicrhau yn y dyfodol bod buddiannau'r Llywodraeth o ran rheoli gwastraff ymbelydrol yn y tymor hwy yn rhan o strategaeth a threfniadau llywodraethu yr Awdurdod.

Ers i raglen Nirex i ddatblygu dulliau daearegol o waredu gwastraff ddod i ben ym 1997, mae wedi chwarae rhan bwysig o safbwynt cadw a datblygu gwybodaeth y DU am ddulliau  daearegol o waredu gwastraff, gan gynnwys rhoi cyngor i ddiwydiant ar baratoi a phecynnu gwastraff. Mae i'w ddiolch am hyn.

Er mwyn galluogi'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear i ddechrau ymgymryd â'i gyfrifoldebau ychwanegol cyn gynted â phosibl, mae'r Llywodraeth yn bwriadu cynyddu galluoedd yr Awdurdod drwy ymgorffori sgiliau a thechnoleg UK Nirex Ltd (Nirex). Mae'r  Ysgrifenydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant a'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, fel cyfranddeiliaid ar y cyd yn Nirex, wedi mynegi eu diolch i'r Cadeiryddion a'r bwrdd olynol am eu gwaith caled, ac wrth gwrs i'r staff arbenigol sy'n gysylltiedig â'r gwaith. Serch hynny, mae'r Llywodreth o'r farn y byddai cael dau sefydliad yn yr un maes a chanddynt gyfrifoldebau a fyddai, o bosibl, yn cydgyffwrdd, yn gallu arwain at ddryswch a diffyg eglurder o safbwynt atebolrwydd. Yn lle hynny rydym yn benderfynol o ddefnyddio sgiliau ac ymrwymiad y staff sy'n gysylltiedig o fefwn yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear.

Yn dilyn datganiadau heddiw, byddwn yn caniatáu cyfnod byr i Nirex roi ei sylwadau ar y bwriad i drosglwyddo perchenogaeth a beth yw'r ffordd orau o gyflawni hyn.

Mae'r rheoleiddwyr annibynnol ym maes yr amgylchedd a diogelwch niwclear o'r farn y bydd hyn y cynnig hwn yn darparu fframwaith cryf ac effeithiol ar gyfer rheoleiddio. Maent yn fodlon mai'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear fydd yn gyfrifol am roi'r rhaglen gwaredu daearegol ar waith. Bydd contractwr a fydd yn gyfrifol am wneud y gwaith hwn yn cael ei benodi cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol. Mae eu cefnogaeth hwy o bwys mawr, gan fod prosesau rheoleiddio annibynnol a chadarn yn allweddol er mwyn sicrhau bod pobl a'r amgylchedd yn cael eu diogelu, ac er mwyn ennyn hyder ac ymddiriedaeth yn y trefniadau ar gyfer gwneud y gwaith hwn.

Mae'r rheoleiddwyr wedi ymrwymo i feithrin ac i gynnal perthynas adeiladol gyda'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear. Bydd ganddynt ddiddordeb penodol yn yr hyn y mae'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear yn bwriadu'i wneud er mwyn gwella'r sylfaen sgiliau a'r eiddo deallusol sydd gan Nirex eisoes.  

I droi at y trydydd pwynt allweddol, rydym wedi ymrwymo i geisio cyngor annibynnol, ac i wrando arno.  Gan hynny, bydd Pwyllgor annibynnol newydd yn cael ei benodi i roi cyngor am y cynlluniau ar gyfer rheoli gwastraff ymbelydrol yn y tymor hir.

Mae CoRWM wedi gosod y safon ar gyfer cyngor agored a thryloyw sydd nid yn unig yn ystyried yr wybodaeth wyddonol ac arbenigol orau sydd ar gael, ond sydd hefyd yn ystyried safbwyntiau'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Mae hefyd wedi ennyn cefnogaeth, ac mae'r brand yn un adnabyddus.

Bydd y Pwyllgor newydd, felly, yn cadw'r enw presennol, ond bydd yr aelodaeth yn newid er mwyn adlewyrchu'r rhan sydd ganddo i'w chwarae yng ngham nesaf y rhaglen i Reoli Gwastraff Ymbelydrol yn Ddiogel. Bydd y Pwyllgor yn cael ei noddi gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yr Adran Masnach a Diwydiant a'r Gweinyddiaethau Datganoledig.

Prif swyddogaeth y Pwyllgor fydd rhoi cyngor ynghylch sut i fynd ati i roi rhaglen gwaredu daearegol ar waith. Yn yr un modd ag y mae CoRWM wedi'i wneud, bydd yn rhoi cyngor i Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â gwaredu gwastraff ymbelydrol yn y tymor hir yn rhai unigryw. Rydym wedi dweud yn glir na fyddwn yn ceisio gorfodi gwastraff ymbelydrol ar unrhyw gymuned. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn gadarn o blaid ystyried trefniadau gwirfoddol/trefniadau partneriaeth gyda'r awdurdodau lleol sy'n gwasanaethu'r cymunedau y gallai hyn effeithio arnynt.  Fel y mae CoRWM yn cydnabod, mae angen ystyried sut y gallai trefniadau o'r fath weithio'n ymarferol.

Gan hynny, byddwn yn anelu at ymhelaethu ar yr hyn a olygir wrth ddulliau gwirfoddol / gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys:

  • y camau a'r adegau y bydd angen gwneud penderfyniadau;
  • sut y byddai cymunedau'n cael eu cynnwys;
  • rôl cyrff a etholir yn ddemocrataidd; 
  • y posibilrwydd o Becynnau Cynnwys a Phecynnau Cymunedol, yn unol â'r hyn a awgrymwyd gan CoRWM.

Dim ond mewn ardaloedd sy'n addas yn ddaearegol y bydd cyfleusterau i waredu'r gwastraff hwn yn cael eu hadeiladu, a byddwn hefyd yn ystyried y berthynas rhwng ystyriaethau daearegol a gwyddonol ac ystyriaethau cymdeithasol eraill. Er mwyn i'r rhaglen lwyddo, bydd angen bodloni'r ddau faen prawf hyn.  

Cyn ystyried y materion hyn, byddwn yn cynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol  ynghylch sut y gallai trefniadau gwirfoddol neu drefniadau i weithio mewn partneriaeth weithio'n ymarferol. Hoffwn wahodd unrhyw awdurdod lleol, neu unrhyw grŵp o awdurdodau lleol, sydd am fod yn rhan o'r trafodaethau hyn i gysylltu â mi neu â'r swyddogion yn uniongyrchol.

Mae'n rhaid pwysleisio y bydd unrhyw broses yn y dyfodol i ddod o hyd i leoliadau ar gyfer y cyfleusterau hyn yn un gwbl newydd, heb unrhyw gysylltiad â phroses hanesyddol Nirex. Rydym wedi dysgu gwersi ers y broses honno. Rydym yn benderfynol hefyd y bydd y broses newydd hon yn mynd rhagddi mewn ffordd agored a thryloyw o'r cychwyn cyntaf, ac y bydd y cyhoedd a'r rhanddeiliaid, yn ogystal â'r arbenigwyr, yn cael cyfle priodol i fod yn rhan o'r trafodaethau.

Yng ngoleuni'r gwaith pellach hwn, bydd y Llywodraeth yn paratoi fframwaith gweithredu ac yn ei gyhoeddi at ddibenion ymgynghori cyn gynted ag y bo modd y flwyddyn nesaf.

Drwy'r cyhoeddiad hwn, a thrwy'r ymateb manwl yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw  - y mae copïau ohono wedi'u rhoi yn Llyfrgell yr Aelodau - rydym wedi cyrraedd diwedd ail gam y rhaglen i Reoli Gwastraff Ymbelydrol yn Ddiogel. Erbyn hyn, rydym yn dechrau ar Gam 3 - sef cynllunio i roi'r rhaglen ar waith.

Rydym yn anelu at symud ymlaen i Gam 4, sef y cam gweithredu terfynol, yn 2008, yn ffyddiog bod gwybodaeth a safbwyntiau wedi'u rhannu a bod y broses a gychwynnwyd gan CoRWM wedi parhau i fod yn un dryloyw.  

Dywed adroddiad CoRWM fod ymdrechion dros dair degawd i ddod o hyd i atebion i broblem rheoli gwastraff ymbelydrol hir dymor yn y DU wedi methu. Mae Llywodraethau'r DU o bob plaid wedi ymdrechu i ddatblygu ffordd o ymdrin â'r mater hwn sydd wedi'i seilio ar wyddoniaeth a'i lywio drwy fod yn agored a thryloyw. Mae'r ffordd a argymhellir gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Gweithrediaeth yr Alban yn cyfuno manylrwydd ac atebolrwydd gwyddonol ac mae i'w chymeradwyo.