Sue Essex, Y Gweinidog dros GYllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw rwy'n cyhoeddi manylion setliadau refeniw a chyfalaf 2007-08 ar gyfer 22 awdurdod unedol Cymru.
Y Setliad Cyffredinol
Y flwyddyn nesaf, ar ôl gwneud addasiadau ar gyfer trosglwyddo arian, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn cynnydd o 4.3%, ar gyfartaledd, ar setliad y flwyddyn flaenorol.
Mae'r cynnydd hwn yn yr arian a ddarperir gan y Cynulliad yn seiliedig ar ystyriaeth fanwl o'r pwysau cyllid y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu. Cafodd yr ystyriaethau eu hwyluso gan y cydweithio helaeth sy'n parhau rhwng y Cynulliad â llywodraeth leol drwy'r Is-Grwp Gwariant , er mwyn nodi'r pwysau a wynebir a chytuno ar y rhagdybiaethau sy'n sail i'r penderfyniadau ynghylch y costau. Mae'r broses hon yn caniatáu inni nodi'n fanylach y rhagdybiaethau cost y mae'r setliad yn seiliedig arnynt, gan barhau ein pwyslais ar dryloywder o fewn y setliad.
Er mwyn talu am y cynnydd yng nghostau cyflogau a phrisiau ar gyfer pog gwasanaeth, gan gynnwys y pwysau ychwanegol ar gyfraniadau pensiwn a chostau gweithredu archwiliadau cyflog cyfartal, rydym wedi barnu y dylid dyrannu £122 miliwn ychwanegol.
Yn ogystal mae yna £14.15m ychwanegol o refeniw wedi'i ddarparu yn yr RSG i helpu awdurdodau lleol i fynd i'r afael â phwysau yn y system gofal cymdeithasol. Mae hyn yn ychwanegu at y twf yn y cyllid dros gyfnod ail Lywodraeth y Cynulliad er mwyn cynnig cyfanswm o £91 miliwn ychwanegol yng ngwaelodlin yr RSG mewn ymateb i'r pwysau cynyddol ar gyllidebau gofal cymdeithasol.
Bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn derbyn gofal gartref ac yn eu cymunedau, gan osgoi mynd â phobl i'r ysbyty, yn galluogi pobl i adael yr ysbyty mewn pryd, yn gwella'r broses gomisiynu a thalu'r costau sy'n gysylltiedig â chyrraedd safonau gofal uwch ac unrhyw bwysau arall a nodwyd gan yr Is-grwp Gwariant o ganlyniad i boblogaeth sy'n heneiddio. Bydd hefyd yn rhoi cymorth ychwanegol i wasanaethau blant, gan dalu'r costau cynyddol o ddarparu lleoliadau a gofal maeth.
Yn ogystal, mae £6 miliwn ychwanegol wedi'i gynnwys i dalu'r costau cynyddol o ddarparu ar gyfer diwallu anghenion cymhleth plant â Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig.
Hefyd mae'r setliad yn cynnwys £3 miliwn arall i gydnabod y costau ychwanegol y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu yn sgil treth dirlenwi uwch, sy'n golygu bod cyfanswm o £9 miliwn wedi'i ychwanegu i'r setliad ers 2005-06 i dalu'r gost gynyddol hon. Heblaw'r pwysau allweddol a nodir yn Adroddiad yr Is-grwp Gwariant, mae'r setliad yn cynnig £0.5 miliwn ychwanegol i gynorthwyo awdurdodau lleol i dalu costau darparu gwasanaethau i ffoaduriaid a gweithwyr mudol.
Mae'r Grant Cynnal Refeniw yn cynnwys £16 miliwn o gam olaf trosglwyddo'r Grant Rhoi Plant yn Gyntaf, a £3 miliwn o'r Grant Egwyddorion Gwasanaethau ac Ymateb Gwasanaethau Anableddau Dysgu. Mae'r trosglwyddiadau hyn yn atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i drosglwyddo Grantiau Penodol i'r setliad i bob awdurdod, lle bo hynny'n briodol.
Mae'r grant amddifadedd wedi cynyddu £0.5 miliwn i £22 miliwn. Mae'r Grant Cymell Perfformiad wedi cynyddu £0.75 miliwn i £31 miliwn. Mae'r cynnydd yn y ddau achos yn cyd-fynd yn fras â chwyddiant.
Grantiau Penodol
Er mwyn rhoi darlun cynhwysfawr o'r arian y bydd y Cynulliad yn ei ddarparu yn 2007-08, ac i ganiatáu i'r awdurdodau gyllidebu'n effeithiol, rwyf heddiw hefyd yn rhoi manylion i awdurdodau lleol am y grantiau penodol eraill y gallant ddisgwyl eu derbyn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r wybodaeth yr wyf yn ei rhyddhau am grantiau penodol yn dangos y bydd awdurdodau, yn ogystal â derbyn y £3.7 biliwn drwy'r setliad, hefyd yn derbyn mwy na £400 miliwn mewn refeniw grantiau penodol. Mae'r prif elfennau cyllid a ddarperir drwy'r grant penodol yn cynnwys £56 miliwn ar gyfer Cymorth, sy'n darparu rhwydwaith o gymorth wedi'i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc difreintiedig er mwyn gwella eu cyfleoedd mewn bywyd, a £40 miliwn i ariannu teithiau bws am ddim i oedolion hyn a'r anabl.
Creu'r Cysylltiadau
Disgwylir i lywodraeth leol Cymru, fel gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru, wneud enillion o 1% o safbwynt effeithlonrwydd ar eu gwariant blynyddol. Bydd oddeutu £35 miliwn ohono yn cael ei ddefnyddio, drwy gostio pwysau allweddol, i ddatblygu gwasanaethau fel a nodwyd yn yr RSG. Bydd y gweddill ar gael i ariannu blaenoriaethau'r awdurdod ei hun. Rwy'n falch bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cyhoeddi bod canlyniadau dros dro yr asesiad effeithlonrwydd yn dangos arbedion o bron i £80 miliwn ar draws yr ystod eang o wasanaethau y mae llywodraeth leol yn eu darparu. Hynny o'i gymharu â'r targed o £45 miliwn ar gyfer 2005-06. Mae hyn yn dangos bod y cynghorau'n ymdrechu'n galed i fod yn fwy effeithlon, ond rydym oll yn cydnabod nad oes lle i laesu dwylo a bod angen parhau â'r gwaith hwn. Fel dywedodd Beecham yn ddiweddar, mae angen i ni "Wneud i'r bunt Gymreig fynd ymhellach". Daw'r cyfleoedd gorau drwy gydweithio, ac mae llywodraeth leol yn gwneud gwaith da i'r perwyl hwn. Mae troi cynigion a phrosiectau'n fanteision gwirioneddol mor gyflym â phosibl yn her allweddol y mae llywodraeth leol wedi'i derbyn.
Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i gefnogi llywodraeth leol drwy'r cynllun Rhagoriaeth Cymru i hyrwyddo a throsglwyddo arferion da, drwy "Gwerth Cymru" sy'n ffynhonnell arbenigedd ar draws y sector cyhoeddus ar gaffael a rhannu gwasanaethau, a thrwy Cronfa Wella Creu'r Cysylltiadau. Drwy gynnig cymorth o'r fath, rwy'n disgwyl gweld y cyfleoedd a fydd ar gael yn cael eu cymryd yn eu tro.
Os bydd awdurdodau lleol yn penderfynu ceisio gwella effeithlonrwydd o ran cyllidebau ysgolion sydd wedi'u dirprwyo, byddem yn disgwyl i'r gwelliant ddod o ganlyniad i welliannau gwirioneddol yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu rheoli. Nid yw gostyngiadau yng nghyllidebau ysgolion yn cyfrif fel gwella effeithlonrwydd yn eu hunain ac ni ddylid eu hystyried felly. Mae angen i awdurdodau weithio gyda phenaethiaid a llywodraethwyr ysgolion er mwyn dod o hyd i gyfleoedd gwirioneddol i wella effeithlonrwydd a'u cefnogi er mwyn gwireddu'r gwelliannau. Fel y nodais yn y ddadl am Gyllideb ddrafft y Cynulliad, byddaf yn ysgrifennu at bob awdurdod lleol, pob ysgol a phob fforwm Cyllideb ysgolion lleol i sicrhau y bydd hyn yn hollol glir yn y dyfodol.
Dyrannu rhwng Awdurdodau
Mae goblygiadau cyffredinol y setliad i awdurdodau unigol yn dibynnu ar fformiwla'r asesiad o wariant safonol. Mae tabl yn nodi manylion y setliad ar gyfer pob awdurdod yn ategu'r datganiad hwn. Nodir manylion y cynnydd yn nyraniadau'r setliad refeniw ar gyfer pob awdurdod ar ôl eu haddasu yn sgil trosglwyddiadau. Mae tablau pellach, gan gynnwys tablau'n nodi'r dyraniadau unigol o'r setliad cyfalaf, i'w cael ar wefan Llywodraeth y Cynulliad.
Mae'n bwysig diweddaru'r fformiwla yn gyson i adlewyrchu mor gywir â phosibl angen pob awdurdod i wario er mwyn cyflawni ei gyfrifoldebau. Ond gall y newidiadau hyn yn y fformiwla greu cryn gythrwfl o ran y cyllid ar gyfer llywodraeth leol. Mae'n bwysig eleni bod gan awdurdodau rywfaint o sefydlogrwydd yn eu cyllid er mwyn rheoli'r ddarpariaeth gwasanaeth ac osgoi rhoi gormod o bwysau ar godiadau mewn treth gyngor. Felly cytunodd y Fforwm Ymgynghorol ar Gyllid y dylai newidiadau gael eu cyflwyno'n raddol dros dair blynedd o 2007-08 ymlaen i'r gwaith o gynnal a chadw ffyrdd a fformwlâu cyllid Anableddau Dysgu.
Mae ystod y cynnydd ar draws awdurdodau yn bennaf yn adlewyrchu'r newidiadau yn nghyfran berthynol pob awdurdod o'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru, a grwpiau penodol fel niferoedd disgyblion.
Setliadau Tair Blynedd
Ar gyfer blynyddoedd o 2008-09 ymlaen, bydd y ffigurau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Ddrafft y Cynulliad ar gyfer y Grant Cymorth Refeniw yn rhoi mwy o'r manylion angenrheidiol i'r awdurdodau er mwyn paratoi eu cynlluniau ariannol a strategol ar gyfer y tymor canolig. Cytunodd Fforwm Ymgynghorol ar Gyllid y Cyngor Partneriaeth ar Gynllun Gweithredu yn dilyn ymgynghoriad ar setliadau refeniw a chyfalaf tair blynedd ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.
Mae'r Cynllun Gweithredu yn adlewyrchu'r ffaith bod yna weithgareddau y gellir mynd i'r afael â nhw yn y tymor canolig er mwyn symud cynllunio i sylfaen tair blynedd, ac mae meysydd lle mae angen mwy o waith er mwyn cyflwyno cynllunio tair blynedd yn llawn. Roedd y cynllun gweithredu yn adlewyrchu'r dystiolaeth o brofiad cynllunio setliad tair blynedd yn yr Alban a Lloegr bod angen ystyried cyflwyno setliad ariannol tair blynedd fel rhan o agenda ehangach ar gyfer datblygu cynllunio ariannol a strategol tymor canolig.
Cynllun Awdurdodau Lleol i Gymell Twf Busnesau
Y flwyddyn nesaf yw blwyddyn olaf y Cynllun Awdurdodau Lleol i Gymell Twf Busnesau. Dyma fenter a gyflwynwyd gan Ganghellor y Trysorlys yn 2005-06 a bwriedir iddi bara am dair blynedd. Mae posibilrwydd y gall £60 miliwn gael ei ddarparu i awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod. Mae hyn y tu allan i gyllideb arferol Llywodraeth y Cynulliad a chaiff ei gyfrif fel Gwariant a Reolir yn Flynyddol.
Roedd nifer yr awdurdodau lleol a benderfynodd ddilyn y Cynllun yn ei flwyddyn gyntaf yn uwch na'r disgwyl. O ganlyniad, bu'n rhaid ailgreu proffil y balans a fydd ar gael yn y flwyddyn ariannol gyfredol ac yn 2007-08. Nid oes modd dweud ar hyn o bryd faint yn union y bydd pob awdurdod yn ei gael. Mae hyn oherwydd, nes y bydd data ar gael yn ddiweddarach eleni, nid yw'n bosibl rhagweld faint y mae gwerth ardrethol pob awdurdod wedi cynyddu. Fodd bynnag, mae £40 miliwn ar gael o hyd i'w ddosbarthu i awdurdodau yn y flwyddyn ariannol bresennol ac yn y dyfodol.
Setliad Cyfalaf
O ran y setliad cyfalaf, mae'r dyraniad cyfalaf ar gyfer 2007-08, gan gynnwys grantiau cyfalaf penodol, wedi cynyddu i £652 miliwn, sef cynnydd o 6%.
Mae'r Gronfa Cyfalaf Cyffredinol yn cynyddu £5.5 miliwn yn 2007-08 i gyfanswm o oddeutu £217 miliwn. Cyllid cyfalaf heb ei neilltuo yw hwn, a thelir £54 miliwn ohono fel grant cyfalaf. Darperir y gweddill, sef tua £163 miliwn, fel cymorth i fenthyca.
O ran grantiau cyfalaf penodol, mae'r rhain wedi cynyddu 7.8% i £435 miliwn. Daw'r cynnydd hwn yn bennaf yn sgil grant cyfalaf penodol ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd lleol (£15 miliwn ar ben y ffigwr a gynlluniwyd); gwasanaethau tân ac achub (£9 miliwn); prosiectau awyr a rheilffyrdd (£13.5 miliwn) a buddsoddiad mewn Adeiladau Ysgolion (£7 miliwn). Bydd £13 miliwn ar gael mewn Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer buddsoddiad cyfalaf mewn offer teleofal a chymunedol.
I gloi, rwyf wedi rhyddhau'r holl wybodaeth hon nawr er mwyn i awdurdodau allu cynllunio'u cyllidebau, gan wybod beth y gallant ddisgwyl ei dderbyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Rwyf o'r farn bod hwn yn setliad da i awdurdodau lleol. Mae'n rhoi ymateb ariannol rhesymol i awdurdodau lleol i'r pwysau y maent yn eu hwynebu. Rwy'n disgwyl i'r cynghorau ystyried hyn wrth bennu eu cyllidebau a lefelau'r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn dechrau'r ymgynghoriad ffurfiol gydag awdurdodau lleol ar y setliad dros dro. Rwy'n edrych ymlaen at ystyried yr ymatebion a ddaw i law.