Skip to content

Diogelwch y ffatri LNG yn Sir Benfro

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau
Rwy’n cael ar ddeall bod darnau o bibelli asbestos wedi’u hasio â choncrid wedi’u symud o derfynell LNG South Hook, sy’n cael ei hadeiladu yn Aberdaugleddau. Gwnaed hynny yn unol â chynllun rheoli gwastraff y cytunodd South Hook LNG ac Asiantaeth yr Amgylchedd arno rai misoedd yn ôl. Mae’r Asiantaeth yn fodlon bod y deunydd, a ddisgrifir fel deunydd di-ffibr risg isel, wedi’i symud a’i waredu yn unol â’r rheoliadau, ac na pheryglwyd iechyd y gweithlu ar safle South Hook mewn unrhyw ffordd.

Fe gyfarfu’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch â chynrychiolwyr y gweithwyr ar 17 Mai gan eu sicrhau y cydymffurfiwyd â’r holl reoliadau diogelwch ac nad oedd symud yr asbestos o’r safle yn peri unrhyw risg.