Skip to content

Adalw Cynhyrchion Meinweoedd Penodol o UDA

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Brian Gibbons)
Ar 26 Hydref 2005, daeth i’r amlwg bod BioMedical Tissue Services - cwmni caffael meinweoedd yn yr Unol Daleithiau - wedi methu â sgrinio a chofnodi rhoddwyr meinweoedd cyrff meirw yn ddigonol. Cafodd y meinweoedd oedd wedi’u heffeithio eu galw’n ôl ond roedd nifer o’r cynhyrchion eisoes wedi’u hallforio i gyflenwr cydnabyddedig a pharchus yn y DU a’u mewnblannu i rai cleifion. Llwyddodd y cyflenwr i olrhain yr holl gleifion oedd wedi derbyn y meinweoedd.

Gwiriodd cyflenwyr y cynhyrchion yn y DU fod yr holl gamau sgrinio a phrosesu priodol wedi’u cymryd mewn perthynas â meinweoedd a gafwyd gan BioMedical Tissue Services. Gan fod hyn yn cynnwys prosesau llonyddu a sterileiddio feirysol dilys, prin yw’r perygl o heintiad gan gyflyrau y mae’r rhaglen sgrinio rhoddwyr yn eu canfod fel arfer.  

Mae’r dechneg a ddefnyddir wrth baratoi samplau asgwrn ar gyfer impio’n dinistrio bacteria a feirysau, gan leihau’r perygl o heintiad o ganlyniad i’r impio i lefelau tebyg i’r meinweoedd a gyflenwir fel arfer.

Yng Nghymru, defnyddiwyd y cynnyrch meinweoedd dan sylw (impiadau asgwrn) gan dri ysbyty, Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche yn Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro ac Ysbyty BUPA Caerdydd. Rydym yn deall fod hyd at 15 o gleifion wedi derbyn y meinweoedd yng Nghymru.

Yng ngoleuni canllawiau y Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau (FDA) yn America a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2005, ysgrifennodd Llywodraeth y Cynulliad, ynghyd ag Awdurdod Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) at Gyfarwyddwyr Meddygol a Phrif Weithredwyr pob ymddiriedolaeth ac ysbyty preifat a dderbyniodd y meinweoedd oedd wedi’u heffeithio i egluro’r asesiad risg er mwyn i glinigwyr allu gwneud penderfyniad clinigol ynglŷn â pha gyngor i’w roi i’w cleifion.

Cafodd diddordeb cychwynnol y wasg yn y mater ei ailgynnau pan ddaeth i’r amlwg bod Biomedical Tissue Services wedi defnyddio corff Alistair Cooke, cyn-ohebydd y BBC. Ar 13 Gorffennaf 2006, derbyniodd MHRA gais gan y BBC, yn unol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, am enwau’r ymddiriedolaethau a’r ysbytai preifat a dderbyniodd y deunydd hwn yn y DU, a chafodd y wybodaeth hon ei rhyddhau ar 20 Medi 2006.

Mae’r gwaith o gyflenwi meinweoedd a chelloedd yn cael ei reoleiddio’n ofalus yn y DU trwy Gyfarwyddeb Meinweoedd a Chelloedd yr UE a Deddf Meinweoedd Dynol 2004 a ddaeth i rym eleni. Dros y misoedd nesaf, bydd yr Awdurdod Meinweoedd Dynol yn cyhoeddi Cod Ymarfer a fydd yn amlinellu canllawiau ymarferol ar gyfer sefydliadau sy’n mewnforio ac allforio cyrff dynol, rhannau’r corff a meinweoedd, gan gynnwys y sefydliadau hynny sy’n storio meinweoedd ar gyfer trawsblannu (dynol).

Mae’r mater hwn yn destun ymchwiliad troseddol yn America ac, ym mis Awst, cyhoeddodd yr FDA y bydd yn sefydlu tasglu amlddisgyblaethol i fynd i’r afael â diogelwch meinweoedd a chelloedd dynol. Nid oes yna dystiolaeth fod y meinweoedd a dderbyniwyd gan gleifion yn y DU yn uniongyrchol gysylltiedig â’r ymchwiliad troseddol ond, yn hytrach, eu bod wedi’u cyflenwi gan y cwmni sy’n destun yr ymchwiliad.