Skip to content

Y Ceisiadau a wnaed ar gyfer Bae Ceredigion yn y Drwyddedu ar gyfer Olew a Nwy

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Andrew Davies, Minister for Enterprise, Innovation and Networks
Cafwyd adroddiadau yn y cyfryngau bod tri chwmni wedi gwneud cais yn ddiweddar am drwyddedau i chwilio am gronfeydd olew a nwy ym Mae Ceredigion.  Mae hyn yn anghywir. Yn ystod y bedwaredd rownd drwyddedu ar hugain ar gyfer ceisiadau am ardaloedd ar y môr, sy'n ymdrin â phob ardal all gael ei thrwyddedu o amgylch y DU, dim ond un cais y mae'r DTI wedi ei dderbyn, a hwnnw ar ran dau gwmni ar gyfer tri bloc ym Mae Ceredigion (mae "bloc" yn ardal tua 250km2)  

Yn ôl yr arfer yn ystod Rownd Drwyddedu, mae'r cais yn cynnwys Rhaglen Waith arfaethedig. Yn yr achos hwn, mae'n rhaglen Drilio neu Beidio, sy'n golygu nad oes yn rhaid drilio ffynnon, ond bydd y drwydded yn dod i ben ymhen pedair blynedd os nad oes ffynnon wedi ei drilio. Mae'r Rhaglen Waith yn cynnwys casglu data seismig ac adolygu'r data sydd ar gael eisoes, ond nid saethu unrhyw arolygon seismig newydd. Bydd y DTI yn cyhoeddi canlyniadau'r Rownd Drwyddedu yn ystod yr hydref.

Os y darganfyddir cronfeydd olew neu nwy o fewn y pedair blynedd, bydd gan yr ymgeisydd bedair blynedd arall i gyflwyno cynllun datblygu i'r DTI ei gymeradwyo. Os yw'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, byddai cyfnod cynhyrchu o ddeunaw mlynedd, y gellid ei ymestyn, yn dilyn.

Bydd unrhyw ddeiliad trwydded sy'n cynnig drilio neu gynnal arolygon seismig o dan y drwydded honno yn gorfod cael caniatâd i wneud hynny. Byddai Llywodraeth y DU yn ystyried y cynnig yng ngoleuni amryw o gyfreithiau i ddiogelu'r amgylchedd, gan gynnwys y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, y Gyfarwyddeb Adar a'r Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghoriad llawn, a bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn un o'r rheini yr ymgynghorir â hwy.  

Yn gynharach eleni anfonodd y Cydbwyllgor Gwarchod Natur, sy'n cynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r sefydliadau cyfatebol ledled y DU, ei ymateb i'r Ymgynghoriad ar yr Adroddiad Amgylcheddol ar Asesiad Amgylcheddol Strategol 6. Yn yr ymateb hwn, nododd y Cydbwyllgor yn glir fod y broses o roi cydsyniad i brosiectau yn unigol yn golygu y gellid rhoi gwarchodaeth ddigonol i amgylchedd ardal Bae Ceredigion, felly nid oedd angen eithrio unrhyw flociau o'r Rownd Drwyddedu. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi'r safbwynt hwn.
 
Mae arfordir gorllewin Cymru yn cynnwys nifer o safleoedd morol Natura 2000, sydd wedi'u diogelu o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a'r Gyfarwyddeb Adar Gwyllt. Yr agosaf o'r rhain at y tri bloc y gwnaed y cais ar eu cyfer yw Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Bae Ceredigion.

Mae Bae Ceredigion wedi ei ddynodi yn ACA am nodweddion sy'n cynnwys dolffiniaid trwyn potel.  Dyma un o'r ddau brif ardal yn y DU lle mae dolffiniaid trwyn potel yn lled breswylio. Mae'r safle hefyd yn cynnwys cynefinoedd (cefnenni tywod, creigresi ac ogofâu môr) a rhywogaethau (llysywod pendoll y môr a morloi llwyd) pwysig eraill yn y cyd-destun Ewropeaidd. Ystyrir bod y Bae yn amgylchedd morol eithriadol sydd o bwys rhyngwladol, gan ei fod yn cynnal amrywiaeth mor gyfoethog o anifeiliaid a phlanhigion y môr.

Bydd unrhyw brosiect sy'n debygol o effeithio ar rywogaethau neu gynefinoedd sy'n cael eu diogelu dan gyfraith Ewrop yn destun Asesiad Priodol o'r goblygiadau ar gyfer y safle, yng ngoleuni amcanion gwarchod y safle hwnnw. Rhaid cynnal yr asesiad hwn cyn cychwyn ar unrhyw waith, a rhaid ei gynnal o dan arweiniad Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Hyd yn oed yn achos blociau sydd y tu allan i ffiniau'r safleoedd hyn, bydd angen asesiad amgylcheddol i ystyried a yw'n debygol y bydd y gwaith yn effeithio ar y safleoedd Natura 2000 yn yr ardal.

Mae pob un o'r 3 bloc yn rhannol o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Ewropeaidd, neu'n agos atynt.  Bydd y DTI yn cynnal Asesiadau Amgylcheddol Strategol o dan y Cyfarwyddebau Ewropeaidd perthnasol, yn ogystal ag Asesiadau Priodol o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd ac Adar. Cyn bo hir byddant yn cychwyn ar Asesiad Priodol o'r Bedwaredd Rownd Drwyddedu ar Hugain. Bydd yr asesiad hwn yn ystyried yn benodol a oes ardaloedd, sy'n cael eu gwarchod o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd ac Adar, y gallai gwaith arfaethedig i chwilio am gronfeydd olew neu nwy, neu i ddatblygu cronfeydd o'r fath, effeithio arnynt.

Mae olew a nwy yn adnoddau gwerthfawr i economïau Cymru a'r DU - ond rhaid chwilio amdanynt a'u hechdynnu yn ofalus, er mwyn achosi cyn lleied â phosib o niwed i'r amgylchedd.  Cynhelir profion amgylcheddol llym ar y gweithgareddau yn ystod pob cam o'r broses.