Skip to content

Y Gyllideb

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog Dros Gyllid,Llywodraeth Leol A Gwasanaethau Cyhoeddus
Darparodd Cyllideb y DU a gyflwynwyd gan Ganghellor y Trysorlys yr wythnos diwethaf £45 miliwn ychwanegol i Gymru: sef £17 miliwn yn 2006-7 a £28 miliwn yn 2007-8.  Yn unol â'r setliad ariannol ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig, mater i Lywodraeth y Cynulliad yw penderfynu sut y dylid defnyddio'r cyllid ychwanegol.  Gwneir y penderfyniadau hyn yng nghyd-destun polisïau a rhaglenni Cymru, a gweledigaeth strategol gyffredinol y Llywodraeth a amlinellir yn Cymru: Gwlad Well.   Wrth gyhoeddi'r adnoddau newydd yr wythnos diwethaf, addewais i'w dyrannu i wasanaethau llinell flaen cyn gynted ac mor effeithiol â phosibl.  Mae'r datganiad hwn yn nodi sut rydym yn bwriadu gwneud hynny yn 2006-7.


Mae'r Cabinet wedi ystyried y meysydd y mae'n bwriadu targedu'r adnoddau hyn atynt.  Elfen allweddol o bolisi Llywodraeth y Cynulliad yw sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl i fywyd.  Mae darpariaeth addysg o ansawdd uchel mewn ysgolion ledled Cymru yn hanfodol i hynny.   Felly, rydym yn bwriadu darparu hyd at £13m fel grant refeniw penodol ar gyfer ysgolion i wella canlyniadau addysgol disgyblion sy'n tangyflawni, yn enwedig lle mae anfantais fel plantsy’n derbyn gofal. Mae'r swm hwn o leiaf yn cyfateb â'r cyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion yn Lloegr. .  

Byddwn hefyd yn buddsoddi £300,000 pellach yn y rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer plant a arweinir gan yr heddlu, sy'n mynd i'r afael ag ystod o faterion sy'n gysylltiedig â diogelwch cymunedol, gan gynnwys cyffuriau, alcohol, cam-drin yn y cartref ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Byddwn yn ymestyn y rhaglen i gynnwys materion eraill fel trosedd hiliol/casineb; sut gellid gwneud cysylltiadau â'r Gwasanaeth Tân mewn perthynas â delio â materion tanau bwriadol; a goryfed mewn pyliau a cham-drin toddyddion.   Byddwn hefyd yn darparu £300,000 i gefnogi'r gwaith o weithredu argymhellion  yr adroddiad Niwed Cudd gan y Cyngor Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau. Bydd hyn yn golygu cefnogaeth bellach i blant rhieni sy'n camddefnyddio sylweddau.   Byddwn hefyd yn ychwanegu £100,000 i gefnogi'r gwaith o ymestyn y cynllun effeithiol o eco-ysgolion yng Nghymru.  

Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran darparu gwasanaethau deintyddol y GIG i bobl Cymru.  Mae ein nod i ddod â lefelau mynediad cleifion i o leiaf 40 y cant yn glir.  Er mwyn cyflymu'r gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth cyhoeddus hanfodol hwn, mae £2.6 miliwn yn cael ei ddyrannu i'r ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol sylfaenol i sicrhau y cyflawnir y targed hwnnw ledled Cymru.

Bydd Cymru'n elwa unwaith eto ar ddyraniadau Cyllideb y DU.  Mae ein trefniadau cyllid yn golygu ein bod yn gallu dyrannu'r rhain yn ôl ein blaenoriaethau ein hunain.  Mae'r dyraniadau hyn yn cyfrif am £16.3 miliwn o arian y Gyllideb ar gyfer 2006-7.   Rwy'n bwriadu ystyried rhai dyraniadau cyfalaf pellach a byddaf yn cyhoeddi ein cynlluniau yn hynny o beth yn fuan.