Skip to content

Tân

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart , y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio
Ar 18 Mawrth, amlygwyd yr effaith aruthrol y mae tân yn ei chael ar ein cymunedau mewn ffordd ddramatig, pan ddifrodwyd Ysgol Gyfun Penyrheol yn Abertawe yn ddifrifol gan dân amheus yn ystod oriau mân y bore. Dim ond ymateb cyflym yr ymladdwyr tân a gadwodd y safle rhag cael ei ddinistrio’n llwyr. Dinistriwyd nid yn unig fuddsoddiad sylweddol gan y cyhoedd mewn ysgol sydd yn ganolog i’w chymuned leol, ond hefyd waith cwrs gwerthfawr y mae myfyrwyr ac athrawon wedi rhoi llawer o amser ac ymdrech i’w greu. Rhoddwyd bywydau ymladdwyr y tân mewn perygl hefyd.

Nid ysgolion yn unig sy’n agored i berygl tân, boed ar bwrpas neu ar ddamwain. Mae pob adeilad cyhoeddus, busnes a chartref mewn perygl. Ond mae llawer o gamau ataliol y gellir eu cymryd i leihau’r broblem.

Mae systemau chwistrellu yn un enghraifft ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dangos arweiniad cryf ar hyrwyddo’r defnydd ohonynt ers cyhoeddi adroddiad y Gweithgor Diogelwch Tân Cymunedol ar danau bwriadol, ‘Up in Flames’ (Chwefror 2003). Rydym wedi cyllido rhaglen beilot i ystyried y rhwystrau technegol a gweithredol a’r rhwystrau ymarferol eraill i osod systemau chwistrellu. Mae hyn yn cynnwys darparu bron i £400,000 i osod systemau chwistrellu mewn dwy ysgol ‘risg uchel’, yn ogystal â £88,500 arall i dargedu’n ddwysach ysgolion penodol sy’n agored i berygl, a £45,000 i osod y systemau mewn naw eiddo domestig.

Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn neilltuo grant cyfalaf blynyddol i awdurdodau lleol, sef Grant Gwella Adeiladau Ysgolion (SBIG) (£74.685m ar gyfer y flwyddyn gyfredol). Mae awdurdodau yn rhydd i ddefnyddio SBIG i wneud gwaith a fydd yn atal tân, ond mater i awdurdodau lleol yw penderfynu ar flaenoriaethau yn ôl angen ac amgylchiadau lleol. Er enghraifft, rhwng 2002-03 a 2005-06, mae AALl Casnewydd wedi dyrannu dros £3,000,000 ar gyfer gwaith a fydd yn atal tân yn sgil hyn. Mae gan awdurdodau lleol hefyd eu cronfa gyfalaf gyffredinol eu hunain, sydd heb ei neilltuo, ac y gellir ei defnyddio at unrhyw ddiben cyfalaf.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu at waith ar lefel y DU i ystyried materion systemau chwistrellu ac rwyf wedi gofyn i’r Pwyllgor Diogelwch Tân Cymunedol, sy’n cynghori Llywodraeth y Cynulliad ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch tân, i ailystyried y gweithgarwch a wnaed hyd yma gyda’r nod o’i symud ymlaen ymhellach yng Nghymru.

Dim ond un rhan o’n cyfres o weithgareddau ataliol yw mesurau o’r fath. Rydym wedi sefydlu, ar gost o £500,000, Dimau Atal Tanau Bwriadol ym mhob ardal Awdurdod Tân ac Achub i leihau’r broblem. Er 2004, darparwyd £658,000 i gyllido prosiectau cymunedol sy’n ceisio atal tanau bwriadol, gan gynnwys ymyrraeth pobl ifanc, ymladdwyr tân ifanc, gweithdai addysg ac ymgyrchoedd tanau gwair a choedwig.

Mae atal drwy addysg yn allweddol i’n polisïau ac mae’n bwysig ein bod yn ymwneud â phobl ifanc i’w haddysgu ynghylch peryglon chwarae â thân. I’r perwyl hwn, rydym wedi darparu £42,000 i gyllido llenyddiaeth am ddiogelwch tân i blant cyfnod allweddol 1 fel rhan o elfen ABCh y cwricwlwm cenedlaethol a £361,000 arall i roi cyhoeddusrwydd i’r peryglon yn ehangach ar draws Cymru.

Dydy atal tân yn unig yn dda i ddim oni bai ei fod wedi’i ategu gan ymyrraeth effeithiol pan fo angen. Dyna pam y lansiais ein Cyfarwyddyd ar Gynllunio i Leihau Risg (RRP) ar 21 Mawrth – Cymru Gwlad Fwy Diogel – ar gyfer awdurdodau tân ac achub. Mae RRP yn galluogi awdurdodau i gyfuno’r angen i atal tanau ac ymyrraeth effeithiol, nid yn unig mewn ffordd lyfn, ddi-dor, ond hefyd mewn ffordd sy’n agored ac yn dryloyw, yn cynnwys rhanddeiliaid lleol ac ar sail tystiolaeth gadarn, ddibynadwy.

Mae pobl Cymru yn disgwyl i ymladdwyr tân gyrraedd yn gyflym i ddiffodd tanau. Yn gysylltiedig ag RRP mae Safonau Gwasanaeth ar gyfer Tanau yn y Cartref. Mae’r rhain yn cyflwyno, am y tro cyntaf, safon sy’n canolbwyntio ar y perygl i fywyd ac y mae’n rhaid i awdurdodau eu defnyddio i ddangos yn glir y lefel gwasanaeth y gall y cyhoedd ddisgwyl ei dderbyn yng Nghymru.

Yn anffodus, ni allwn stopio tanau rhag dechrau, boed ar bwrpas neu ar ddamwain. Drwy addysg, atal ac ymyrryd, ein nod yw gwneud Cymru yn wlad fwy diogel. Ochr yn ochr â buddsoddiad sylweddol Llywodraeth y Cynulliad, rydym yn dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.