Skip to content

Ymateb Ysgrifenedig gan Llywodraeth Cynulliad Cymru i`r Adolygiad Polisi o Anghenion Addysgol Arbennig. Rhan 2: Fframwaith Asesu Statudol (Datganiadau) gan y Pwyllgor dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Nodir ymatebion i argymhellion yr Adroddiad isod. Mae’r argymhellion yn dilyn y penawdau a’r rhifau a ddefnyddiwyd yn yr Adroddiad.

Ystyriaeth o’r Materion

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  1. Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ymgynghori’n eang â rhieni a rhanddeiliaid eraill i adeiladu consensws a hyder cyn bod unrhyw newidiadau sylfaenol yn cael eu gwneud i’r fframwaith asesu statudol.
  2.  

    Derbyn

    Trywydd i’w ddilyn

    Yn 2004, comisiynwyd Estyn i gynnal adolygiad o Ddatganiadau yng Nghymru, "Arfer Orau wrth Ddatblygu Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)". Yn ychwanegol at hyn, cydgomisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru ymchwil i Reolaeth AAA yng Nghymru, gan Cambridge Education Associates.

    O ganlyniad i’r gwaith ymchwil hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2005 ei bwriad i ddatblygu Polisi Cynhwysiant a Fframwaith Perfformiad ar gyfer Cymru. Byddai’r fframwaith hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau’r adroddiadau hyn a gomisiynwyd ac yn darparu strategaeth i Gymru a fyddai’n cefnogi anghenion dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol a grwpiau sydd dan anfantais. Yn 2005 cyhoeddwyd dogfen ymgynghori, "Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion", fel rhan o’r gwaith hwn o ddatblygu strategaeth. Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn pwysleisio’r angen am agwedd gynhwysol tuag at addysg yng Nghymru yng nghyd-destun agwedd ysgol gyfan tuag at gefnogi pob disgybl, gan gynnwys y rhai hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae anghenion dysgu ychwanegol yn derm sy’n cael ei ddefnyddio yn y canllawiau hyn i gynnwys ystod o ddysgwyr sydd angen cefnogaeth unigol ychwanegol, gan gynnwys y rhai hynny sydd ag AAA, er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu potensial yn llawn ac yn goresgyn rhwystrau sy’n gwneud dysgu’n anodd. Bydd canllawiau terfynol ar gael erbyn diwedd haf 2006.

    Daeth rhai themâu cyffredin, yn ymwneud yn benodol â diwallu anghenion disgyblion sydd ag AAA, i’r amlwg o’r ymchwil sydd ar gael, er enghraifft, yr angen i adolygu’r fframwaith asesu statudol presennol; gwella data sy’n ymwneud â chanlyniadau i ddysgwyr; darparu canllawiau ar gyllido AAA; a sicrhau bod athrawon yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau er mwyn diwallu ystod eang o anghenion dysgwyr.

    Yn Ebrill 2005, ac mewn ymateb i’r themâu hyn, sefydlwyd pedwar grŵp rhanddeiliaid, fel is-grwpiau i Grŵp Cynghori Cymru ar AAA, a’r cylch gwaith a roddwyd i un o’r rhain oedd cynnal adolygiad llawn o’r fframwaith asesiadau a datganiadau statudol yng Nghymru ac awgrymu ffyrdd posibl o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae aelodau’r grŵp yn cynrychioli rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru, gan gynnwys swyddogion Awdurdodau Addysg Lleol (AALl), cynrychiolwyr ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig, cydlynydd AAA, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol, Rheolwr Therapi Iaith a Lleferydd yn cynrychioli Ymddiriedolaeth y GIG, Prosiect Ymgynghorol Anghenion Arbennig Cymru, ESTYN, Gwasanaethau Cymdeithasol, Gyrfa Cymru a Swyddogion y Cynulliad.

    Nod y grŵp yw adolygu’r fframwaith asesu statudol, gan gynnwys polisïau cenedlaethol a lleol, Cod Ymarfer AAA Cymru a chanllawiau cysylltiedig, ac argymell ffyrdd o wella’r fframwaith asesu presennol er mwyn sicrhau bod anghenion disgyblion sydd ag AAA yn cael eu canfod, a bod asesiad ac ymyriad priodol yn cael ei wneud.

    Cyflwynodd y grŵp adroddiad i’r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn ei gyfarfod yn Nhachwedd 2005 ar yr opsiynau a oedd yn cael eu hystyried ar y pryd. Trafodwyd yr opsiynau hyn ymhellach â phob AALl yng Nghymru mewn Cynhadledd AAA yn Rhagfyr 2005.

    Mae rhagor o waith yn cael ei wneud ar yr opsiynau ar hyn o bryd a chytunwyd i benodi gweithiwr ar secondiad i weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad a threfnu cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ledled Cymru er mwyn cysylltu â phawb y mae a wnelo hyn â hwy a gofyn am eu barn cyn gwneud unrhyw newidiadau sylfaenol i’r fframwaith asesu statudol presennol. Disgwylir y bydd y digwyddiadau ymgynghori’n cael eu cynnal yn ystod tymor yr Hydref/Gwanwyn 2006/07 yn dilyn y penodiad hwn.

    Goblygiadau Ariannol

    Rwyf wedi cytuno i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â phenodi gweithiwr ar secondiad i’r swydd, a bydd yr arian ar gyfer y costau hyn yn dod o Faes Rhaglenni Gwariant Anghenion Ychwanegol a Chynhwysiant. Mae digwyddiadau ymgynghori, gan gynnwys y gwaith o baratoi deunyddiau, yn debygol o gostio tuag £20,000 a gellir defnyddio Maes Rhaglenni Gwariant Anghenion Ychwanegol a Chynhwysiant i dalu am y rhain hefyd.

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  3. Bod Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio’r pwerau angenrheidiol fel bod gan y Cynulliad bwerau cyfreithiol llawn dros drefniadau asesu statudol ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion addysgol ychwanegol.
  4.  

    Derbyn mewn egwyddor

    Mae Rhan 3 o Fesur Llywodraeth Cymru’n cyflwyno categori newydd i ddeddfwriaeth, sef Mesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Golyga hyn y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gallu deddfu drwy Fesur mewn perthynas â Materion penodedig ym meysydd llywodraeth ddatganoledig. Mae Atodlen 5 y Mesur yn nodi ugain maes lle gellir gofyn am gymhwysedd deddfwriaethol i wneud Mesurau yn ymwneud â Materion penodedig. Mae Maes 5 yn ymwneud ag addysg a hyfforddiant.

    Bydd angen i Lywodraeth y Cynulliad gytuno â Whitehall ynglŷn â chwmpasiad y cymhwysedd deddfwriaethol i wneud Mesurau yn ymwneud â Mater penodedig a rhaid i’r cymhwysedd deddfwriaethol gael ei gymeradwyo gan y Senedd.

    Er fy mod yn derbyn yr argymhelliad hwn, mae’n amlwg y bydd angen ymgynghori’n eang â’r holl randdeiliaid allweddol cyn gwneud unrhyw newidiadau sylfaenol i’r fframwaith deddfwriaethol presennol. Bydd yn bwysig sicrhau bod buddiannau disgyblion sydd ag AAA yn cael eu diogelu a bod eu hanghenion yn ganolog i unrhyw newidiadau a argymhellir yn y dyfodol. Bydd yr argymhelliad hwn yn cael ei ystyried ymhellach yn dilyn yr ymgynghoriad.

    Goblygiadau Ariannol

    Dim ar hyn o bryd. Bydd y goblygiadau ariannol yn dibynnu ar ymgynghoriad pellgyrhaeddol â rhanddeiliaid allweddol ynglŷn â’r fframwaith asesu statudol ar gyfer y dyfodol. Mae’n debygol iawn y bydd hyn yn cynnwys Cod Ymarfer diwygiedig ar gyfer Cymru, canllawiau a gwybodaeth gysylltiedig a chostau hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol.

     

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  5. Na ddylai’r term "anghenion addysgol arbennig" gael ei ddefnyddio bellach ac y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried defnyddio’r term "anghenion addysgol ychwanegol" yn y dyfodol.
  6.  

    Derbyn

    I ddibenion gweinyddol mewnol mae’r newid hwn wedi ei wneud yn barod. Fodd bynnag, mae angen inni fod yn ymwybodol, ac rydym eisoes wedi cydnabod y bydd newid termau ar hyn o bryd yn achosi dryswch ynglŷn â’r ddarpariaeth i ddisgyblion sydd ag AAA yn ôl diffiniad Deddf Addysg 1996. Wrth fabwysiadu’r cymal, "anghenion dysgu ychwanegol" yn ei pholisïau, bydd angen i Lywodraeth y Cynulliad fod yn glir na all hyn mewn unrhyw ffordd newid hawliau a chyfrifoldebau statudol mewn perthynas â phlant sydd ag "anghenion addysgol arbennig" yn ôl diffiniad Deddf Addysg 1996.

    Wrth ddatblygu ein strategaeth ar gyfer "Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion", defnyddiwyd y term anghenion dysgu ychwanegol drwyddi i nodi dysgwyr sydd ag ystod amrywiol o anghenion dysgu yng nghyd-destun agwedd gynhwysol ysgol gyfan tuag at ddysgu ac, yn fwyaf penodol, tuag at ddiwallu, adnabod a darparu ystod o wasanaethau cefnogi i’r rhai hynny sydd angen cefnogaeth ychwanegol. Bydd hyn yn rhan o’r ymgynghoriad â rhanddeiliaid ledled Cymru ynglŷn â’r termau mwyaf priodol i’w defnyddio.

    Goblygiadau Ariannol

    Dim

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  7. Bod Llywodraeth y Cynulliad yn sicrhau bod Datganiadau yn parhau i fod ar gael i’r rhieni hynny sydd am eu defnyddio i’w helpu i egluro’r ddarpariaeth a’r broses, ond y dylid eu cyfyngu i’r plant hynny sydd â’r anghenion mwyaf difrifol a chymhleth.
  8.  

    Derbyn mewn egwyddor

    Mae’r argymhelliad hwn yn dibynnu ar ganlyniad yr ymarfer ymgynghori â rhieni a rhanddeiliaid allweddol eraill. Er ein bod yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor mae’r Pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth gan nifer o wahanol randdeiliaid sydd wedi mynegi pryder y gallai diddymu datganiadau wthio grwpiau eraill o ddysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol/arbennig i’r cyrion.

    Derbyniaf fod angen sicrhau bod buddiannau rhai o’r plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru a’r rhai hynny sydd ag anghenion cymhleth iawn yn cael eu diogelu.

    Goblygiadau Ariannol

    Dim

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  9. Bod Llywodraeth y Cynulliad ymgynghori ar ddiffiniad clir, diamwys a rhwydd ei ddeall o’r anghenion mwyaf difrifol a chymhleth sy’n effeithio ar rhwng 0.5% - 1% o blant.
  10.  

    Derbyn mewn egwyddor

    Caiff hyn ei ystyried fel rhan o’r ymarfer ymgynghori ehangach gyda rhieni a rhanddeiliaid allweddol eraill sydd i'w cynnal yn ystod tymhorau’r hydref/gwanwyn 2006/07.

    Goblygiadau ariannol

    Dim

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  11. Er bod angen cadw Datganiadau fel rhwyd ddiogelwch (gan gynnwys hawl apelio y gellir ei gorfodi’n gyfreithiol) ac fel gwarant o ddarpariaeth arbennig i blant ag anghenion difrifol a chymhleth, dylid diddymu Datganiadau yn raddol ar gyfer mwyafrif y plant, a rhoi trefniadau eraill yn eu lle.
  12.  

    Derbyn mewn egwyddor

    Derbyniaf fod angen gostyngiad graddol yn nifer y datganiadau a wneir gan AALlau a bod y targed sy’n cael ei gynnig yn argymhelliad 5 yn un rhesymol. Fel yn achos unrhyw broses rheoli newid mae angen cael y sicrwydd angenrheidiol bod y canlyniadau disgwyliedig yn cael eu cyflawni. Ni ellir gwneud hyn dros nos. Bydd, fodd bynnag, yn rhan o’r ymgynghoriad a fydd yn cael ei gynnal â rhieni a rhanddeiliaid allweddol eraill.

    Bydd angen inni sicrhau bod trefniadau cefnogi priodol yn bodoli ar gyfer pob disgybl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol/anghenion addysgol arbennig. Fel yr awgrymwyd yn yr adolygiad, bydd angen i rieni allu ymddiried mewn AALlau a chyrff proffesiynol eraill, gan wybod eu bod wedi gwneud trefniadau ar gyfer unrhyw ddarpariaeth sydd ei hangen ar eu plentyn er mwyn diwallu ei anghenion, sicrwydd a gynigir ar hyn o bryd drwy ddatganiad, sef contract sy’n rhwymo’n gyfreithiol.

    Goblygiadau ariannol

    Dim

     

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  13. Bod Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried trefniadau asesu statudol newydd yn seiliedig ar gofnod o angen sy’n cael ei asesu’n barhaus. Dylai hwn gael ei gysylltu’n agos gyda threfniadau sy’n annog dull gwella ysgol gyfan o ddiwallu anghenion addysgol ychwanegol.
  14.  

    Derbyn mewn egwyddor

    Dyma un o’r opsiynau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn Nhachwedd 2005 ar ran Grŵp Asesiadau a Datganiadau Statudol WAGSEN ac, yn bwysig iawn, y mae angen ymgynghori rhagor yn ei gylch â rhieni a rhanddeiliaid eraill. Yn y cyswllt hwn, un dewis sy’n cael ystyriaeth ffafriol yn y grŵp hwn yw bod anghenion pob disgybl yn cael eu diwallu ar sail "pasbort". Mae’r dewis hwn yn argymell bod pob plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol parhaus yn cael pasbort, sy’n diffinio eu hanghenion, ym mha gyd-destun y maent yn dysgu, sut y mae’r anghenion hyn yn cael eu diwallu a faint o gynnydd y mae’r plentyn yn ei wneud. Yr wyf, mewn egwyddor, yn ffafrio dull gweithredu o’r fath gan ei fod yn sicrhau bod holl anghenion disgyblion yn cael eu hadnabod fel rhan o broses asesu barhaus, sy’n nodi cryfderau a darpariaeth yn y dyfodol a fydd yn diwallu eu hanghenion wrth iddynt newid.

    Goblygiadau Ariannol

    Dim ar hyn o bryd

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  15. Bod y Gweinidog yn rhoi ystyriaeth ddwys iawn i brif elfennau’r dull "pasbort" o asesu AAA fel ag yr amlinellir yn y cyflwyniad gan WAGSEN.
  16.  

    Derbyn mewn egwyddor

    Gweler fy ymateb i’r argymhelliad blaenorol. Bydd hyn yn ffurfio rhan o’r ymgynghoriad â rhieni a rhanddeiliaid allweddol eraill.

    Goblygiadau Ariannol

    Dim ar hyn o bryd

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  17. bod y Gweinidog yn ystyried cyhoeddi canllawiau diwygiedig i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod y trefniadau presennol ar gyfer gwneud datganiadau yn cael eu defnyddio’n fwy cyson trwy Gymru.
  18.  

    Derbyn yn rhannol

    Yn 2002, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru God Ymarfer diwygiedig ar gyfer AAA, y Cod penodol cyntaf o’i fath ar gyfer Cymru. Dosbarthwyd Llawlyfr o Arferion Da i bob ysgol ac AALl yn 2003. Mae un rhan o’r llawlyfr yn ymwneud yn benodol â defnyddio’r broses asesiadau a datganiadau statudol ac yn rhoi cyngor ymarferol i ysgolion ac AALlau ynglŷn â sut i gyflawni eu dyletswyddau yn y cyswllt hwn. Mae rhagor o waith yn cael ei wneud drwy ddatblygu’r Fframwaith Cynhwysiant a Fframwaith Perfformiad ar gyfer Cymru er mwyn sicrhau dull cyson o ddiwallu anghenion ledled Cymru, gyda chanllawiau diwygiedig ar gasglu data drwy CYBLD (ymgynghoriad Medi 2006), datblygu safonau ansawdd er mwyn diwallu anghenion llai cyffredin (gwaith yn cael ei wneud), a chyngor ar ganlyniadau i ddysgwyr yn seiliedig ar y fframwaith arolygu cyffredin (i’w gwblhau erbyn 2007).

    Dan ddarpariaethau Deddf Addysg 1996 a Deddf AAA ac Anabledd 2001, mae gan AALlau gyfrifoldeb statudol i roi ystyriaeth i God Ymarfer AAA Cymru a chydymffurfio â deddfwriaeth wrth ddiwallu anghenion disgyblion sydd ag AAA. Mae Estyn yn monitro sut mae AALlau ac ysgolion yn cyflawni eu swyddogaethau fel rhan o’r Fframwaith Arolygu Cyffredin. Er fy mod yn derbyn bod angen sicrhau trefniadau cyson ar gyfer asesiadau statudol, mae llawer iawn o ganllawiau ar gael yn barod.

    Wrth ddarparu canllawiau ni fyddem yn dymuno annog polisïau cyffredinol yn ymwneud â chyflawni dyletswyddau AALlau gan na fyddai hyn yn gyson â diwallu ystod amrywiol o anghenion disgyblion unigol. Disgwylir y bydd ein dull gweithredu presennol a chanllawiau sydd ar fin cael eu cyhoeddi, fel yr amlinellwyd uchod, yn helpu i sicrhau dull gweithredu cyson ar draws AALlau yng Nghymru.

    Goblygiadau Ariannol

    Dim

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  19. Bod Llywodraeth y Cynulliad, ynghyd â’r awdurdodau lleol, yn ystyried sut y gellir hwyluso’r prosesau isod ar gyfer mwy o bobl:
  • Cynnal asesiadau mewn un lleoliad, megis canolfan blant neu gyfleuster cefnogaeth amlddisgyblaethol arall;
  • Cynnal cyfarfodydd amlasiantaethol, megis adolygiadau blynyddol, cyn ac yn ystod asesiadau ffurfiol; a
  • Gwneud mwy o ddefnydd o’r gwasanaeth datrys anghytundebau.

 

Derbyn yn rhannol

Mae asesiadau amlddisgyblaethol o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth parhaus yn cael eu cynnal mewn canolfannau plant yn aml ar hyd a lled Cymru. Bydd priodoldeb cynnal asesiadau mewn un lleoliad yn dibynnu ar natur angen plentyn. Er enghraifft, pe bai ar blentyn neu berson ifanc angen cyfarpar asesu soffistigedig, oherwydd angen meddygol, mae’n bosibl y byddai angen cynnal yr asesiadau mewn lleoliadau amrywiol. Fodd bynnag, fel yr awgrymwyd, mae gan bob awdurdod dimau asesu amlddisgyblaethol a fydd yn cyfarfod i drafod disgyblion unigol, sydd â’r anghenion cymhlethaf, cyn, yn ystod ac ar ôl asesiad ffurfiol.

Mae Cod Ymarfer AAA Cymru, Deddf Plant 2005, y partneriaethau plant a phobl ifanc, y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant a’r symud tuag at Gynlluniau Plant a Phobl Ifanc yn cadarnhau bod angen i asiantaethau statudol weithio gyda’i gilydd a darparu dull cyfannol o ddiwallu anghenion.

Roedd Deddf AAA ac Anabledd 2001 yn ei gwneud yn ofynnol i bob AALl gynnig hawl i rieni ddefnyddio gwasanaethau datrys anghytundebau. Hyd at 2004 roedd hyn yn cael ei wneud yn gymharol unswydd gan AALlau yng Nghymru, yn aml drwy drefniadau partneriaeth â rhieni a oedd yn bodoli’n barod. Yn 2004 cytunodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru i ddatblygu un gwasanaeth datrys anghytundebau yn ymwneud ag AAA ar gyfer Cymru gyfan, ar wahân i ddau AALl sy’n defnyddio’u canolfan Cyngor ar Bopeth leol i ymgymryd â’r dasg hon ar eu rhan. Yn 2005 dyfarnwyd y contract i ddarparu gwasanaeth datrys anghytundebau yn ymwneud ag AAA drwy Gymru i NCH Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cael ei weithredu ers ychydig dros flwyddyn. Yng ngwanwyn 2006 comisiynais Goleg y Drindod, Caerfyrddin i gynnal adolygiad llawn o waith y gwasanaethau datrys anghytundebau yng Nghymru. Disgwylir y bydd adroddiad interim yn cael ei gyhoeddi yng Ngorffennaf 2006 ac y bydd adroddiad llawn yn barod erbyn Medi 2006. Nod y gwerthusiad hwn yw sicrhau cydymffurfiad â’r ddeddfwriaeth berthnasol, darparu dadansoddiad o batrymau yn y defnydd ohono, asesu barn defnyddwyr am y gwasanaeth a thynnu sylw at fanteision y gwasanaeth ac unrhyw ddiffygion wrth ei ddarparu ar lefel Cymru gyfan a thrwy’r canolfannau CAB.

Goblygiadau Ariannol

Daeth yr arian ar gyfer y contract i werthuso’r gwasanaeth datrys anghytundebau, £20,000, o adnoddau sydd ar gael yn barod ym Maes Rhaglenni Gwariant Anghenion Ychwanegol a Chynhwysiant ar gyfer 2006/2007.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  1. Bod Awdurdodau Addysg Lleol yn penodi gweithwyr allweddol fel modd o gynorthwyo rhieni a sicrhau dull gweithredu mwy amlddisgyblaethol.
  2. Derbyn

    Dengys tystiolaeth bod gweithwyr allweddol yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i deuluoedd sydd â phlant anabl. Maent yn gweithio gydag asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill ac ysgolion er mwyn sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael yn rhwydd i blant anabl a’u teuluoedd.

    Mae Llywodraeth y Cynulliad, drwy ei Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a’r Gwasanaeth Mamolaeth, wedi ymrwymo i sicrhau bod y prif wasanaethau gweithredol ar gael i bob plentyn anabl ag anghenion cymhleth sydd angen cefnogaeth gan ddwy neu ragor o asiantaethau. Mae’r cynnydd â’r gwaith o ddatblygu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn cael ei fonitro’n genedlaethol ac yn lleol drwy Offeryn Archwilio Hunan-asesu (SAAT) a thrwy dargedau Gwasanaethau Fframwaith Hunan-asesu’r GIG.

    Gwyddom fod llawer o awdurdodau lleol yn gwneud cynnydd da yn y maes hwn yn barod. Er mwyn hybu’r prif wasanaethau gweithredol yng Nghymru mae’r Cynulliad yn ariannu gweithiwr datblygu ar gyfer Cymru yn y Rhwydwaith Cydgysylltu Gofal. Mae’r Cynulliad hefyd wedi ariannu astudiaeth ar y cyd â’r Adran Addysg a Sgiliau mewn gwahanol fodelau gwaith allweddol yng Nghymru a Lloegr. Cyhoeddwyd yr astudiaeth yng Ngorffennaf 2005. Mae Rhwydwaith Cydgysylltu Gofal y DU wedi datblygu safonau ar gyfer cydgysylltu gofal ac mae’r rhain wedi cael eu mabwysiadu gan Lywodraeth y Cynulliad a’u hyrwyddo fel ymarfer da yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol.

    Dylid nodi nad yw gweithwyr allweddol yn cael eu cyflogi gan AALl o reidrwydd; bydd y gweithiwr allweddol enwebedig yn dibynnu ar natur anghenion y plentyn a dymuniadau’r teulu.

    Goblygiadau Ariannol

    Disgwylir i asiantaethau gyflawni camau gweithredu y tynnir sylw atynt yn gynnar yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol o fewn eu cyllidebau presennol.

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  3. Bod Awdurdodau Addysg Lleol yn benodol yn gwneud mwy i egluro dulliau eraill o gefnogi plant ag anghenion ychwanegol, ac yn rhoi mwy o gyhoeddusrwydd iddynt.
  4.  

    Derbyn mewn Egwyddor

    Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru, "Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr Plant a Phobl Ifanc y gall fod ganddynt AAA" a Chod Ymarfer AAA Cymru yn cyfeirio at ymateb graddedig at ddiwallu anghenion, fel sy’n cael ei awgrymu yn yr adroddiad sy’n arwain at yr argymhelliad hwn. Mae’r ddwy ddogfen yn nodi ffyrdd amgen o gynnig cefnogaeth yn ystod camau gweithredu yn y blynyddoedd cynnar / gan yr ysgol a gweithredu a mwy, ynghyd â phwrpas nodiadau yn lle Datganiad.

    Mae llawer o awdurdodau hefyd wedi datblygu eu gwybodaeth a’u canllawiau eu hunain ar gyfer rhieni yn y cyswllt hwn, ac mae llawer o’r rhain o safon uchel iawn. Eleni rydym am geisio archwilio’r holl wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i rieni ac i ddisgyblion ar lefel leol a chanfod pa wybodaeth yn union sy’n cael ei rhoi a phryd. Bydd y wybodaeth o’r archwiliad hwn yn sail i unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen a bydd yn ein galluogi i rannu ymarfer da drwy Gymru.

    Goblygiadau Ariannol

    Mae’r goblygiadau ariannol yn debygol o ddod yn glir yn dilyn yr archwiliad o wybodaeth gan AALlau ac ysgolion i rieni a disgyblion, a gynhelir yn 2006/07.

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  5. Bod Llywodraeth y Cynulliad ac awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad â’r Comisiynydd Plant, yn ystyried y ffordd orau o gefnogi plant yn ystod y broses wneud datganiadau.
  6.  

    Derbyn

    Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ddilyn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel canllaw ar gyfer ei gwaith gyda phlant a phobl ifanc Cymru. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi datgan ei nodau yn y cyswllt hwn yn ‘Deialog y Ddraig – Materion i’w trafod gyda Phlant a Phobl Ifanc yng Nghymru’. Mae nodau’r fenter yn seiliedig ar y gred y dylai plant a phobl ifanc gael cyfle i fynegi eu barn pan wneir penderfyniadau sy’n effeithio arnynt hwy. Er mwyn cyflawni’r amcan hwn, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyflwyno nifer o fentrau lle gall plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn ystod eang o brosesau llunio polisïau. Mae’r rhain yn cynnwys fforymau plant a phobl ifanc ym mhob awdurdod lleol, a chynghorau ysgolion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

    Yn Adroddiad y Comisiynydd Plant ar gyfer 2003/04, awgrymwyd y dylai plant gael yr hawl i apelio i dribiwnlys AAA Cymru. Ar hyn o bryd dim ond rhieni sydd â hawl i apelio i’r tribiwnlys hwn. Er ein bod yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, rydym yn cynnal trafodaethau ar hyn o bryd â grwpiau defnyddwyr tribiwnlysoedd AAA statudol a gwirfoddol ynglŷn â goblygiadau ymarferol newid o’r fath yn y ddeddfwriaeth.

    Mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol ofyn beth yw barn plant a phobl ifanc fel rhan o’r broses asesu statudol. Mae’r adran yn y llawlyfr AAA ar gyfer ysgolion sy’n ymwneud â Galluogi Disgyblion i Gyfranogi a Chod Ymarfer AAA Cymru yn cynnig cyngor ynglŷn â’r ffordd orau o wneud hyn.

    Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn ystyried beth yw’r ffordd orau o gefnogi disgyblion drwy ddarparu gwasanaethau eiriolaeth integredig ar hyd a lled Cymru. Disgwylir y bydd Awdurdodau Lleol yn comisiynu gwasanaethau i bob plentyn a pherson ifanc fel bod modd iddynt leisio eu barn a chynnig cefnogaeth benodol i grwpiau o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol. Byddwn yn ymgynghori ynglŷn â dyfodol gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru i blant a phobl ifanc yn nhymor yr hydref 2006.

    Goblygiadau Ariannol

    I’w hystyried yn dilyn ymgynghoriad ar y strategaeth eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  7. Bod Llywodraeth y Cynulliad yn neilltuo swm o arian yn ganolog i dalu am fentrau ysgogi sy’n ceisio gwella darpariaethau rhanbarthol ac arbenigol, gan gynnwys darpariaeth Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg.
  8.  

    Derbyn

    Rydym yn cydnabod y gall cynnal ystod o wasanaethau ar gyfer disgyblion sydd ag AAA llai cyffredin fod yn anodd i rai o’r AALl lleiaf. Gwnaethpwyd cymalau ar gyfer Cymru yn unig yn Neddf Addysg 2002 er mwyn caniatáu i ranbarthau weithio gyda’i gilydd wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau AAA, gan gynnwys y defnydd o athrawon teithiol.

    Er 2004/05 mae’r Cynulliad wedi rhyddhau dros £6m er mwyn cynorthwyo AALlau i ddatblygu cyfleusterau rhanbarthol drwy frigdoriad o’r Grant Gwella Adeiladau Ysgolion. Un enghraifft benodol o hyn yw’r grant o £2.8 miliwn ar gyfer ailddatblygu Ysgol Plas Brondyffryn fel rhan o’r gwaith o ddatblygu darpariaeth ranbarthol ar gyfer Anhwylder yn y Sbectrwm Awtistig yng Ngogledd Cymru.

    Ar gyfer 2006-07, yn dilyn rownd o geisiadau cystadleuol, lle gwahoddwyd pob un o’r 22 AALl i gyflwyno cais, dyrannwyd £2.8m ar gyfer datblygu prosiectau rhanbarthol ledled Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu rhan gyntaf Ysgol Plas Brondyffryn, tri chyfleustra allgymorth ar gyfer disgyblion â namau amlsynnwyr yn gweithredu drwy Gymru a gwella Ysgol Heronsbridge, Pen-y-bont ar Ogwr sy’n gweithredu fel cyfleustra rhanbarthol ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol a dwys. Disgwylir y bydd rownd geisiadau arall am arian AAA rhanbarthol ar gyfer gwella adeiladau ysgolion yn dechrau ym Medi 2006. Mae’r Cynulliad yn ddiweddar wedi penodi gweithiwr ar secondiad, sydd â phrofiad sylweddol o gynllunio darpariaeth AAA yn rhanbarthol, i weithredu’r cynllun hwn. Rôl y gweithiwr ar secondiad fydd cynorthwyo i ddatblygu strategaeth er mwyn hybu a chynllunio trefniadau cydweithredol ar gyfer cyflwyno darpariaeth a gwasanaethau AAA yn rhanbarthol.

    Yn 2005 sefydlwyd prosiectau peilot dan nawdd Deddf Iechyd 1999 (Trefniadau Partneriaeth) er mwyn annog cydweithio rhwng meysydd iechyd ac addysg wrth ddarparu gwasanaethau iaith a lleferydd i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Bydd dros £3m yn cael ei fuddsoddi dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2007/08 er mwyn datblygu prosiectau peilot a fydd yn dod â Therapyddion Iaith a Lleferydd, athrawon a staff cymorth arbenigol at ei gilydd fel rhan o dîm integredig. Cynhelir gwerthusiad allanol o’r prosiectau peilot yn gynnar y flwyddyn nesaf.

    Yn 2004/05, sefydlwyd arian cyfalaf AAA ar gyfer y grant Cyfarpar Arbenigol/Adnoddau i Ddysgwyr ag Anghenion Ychwanegol (a elwir yn SELAN) er mwyn rhoi arian i awdurdodau brynu cyfarpar arbenigol i ddisgyblion ag AAA er mwyn eu galluogi i ddilyn y cwricwlwm a chwalu rhwystrau dysgu. Ers lansio’r grant yn 2004-05 mae £500,000 wedi ei ryddhau yn flynyddol. Rhyddheir y grant fel rhan o broses ceisiadau cystadleuol, ac fe’i defnyddir gan AALlau mewn llawer o wahanol ffyrdd, er enghraifft, i brynu cymhorthion technolegol, i gefnogi gwasanaethau, i brynu deunyddiau hyfforddi ar gyfer staff a rhieni, i ddarparu cyfarpar arbenigol iawn sydd ei angen ar blant sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog, deunyddiau chwarae arbenigol a chymhorthion dysgu eraill. Fodd bynnag, nid ar gyfer cymhorthion technolegol yn unig y bwriadwyd y grant. Ei bwrpas yw cynorthwyo dysgwyr unigol yn y ffyrdd mwyaf priodol ac effeithiol drwy fynediad at ystod o adnoddau.

    Gweler hefyd fy ymateb i argymhelliad 20 sy’n ymwneud yn benodol â chynnydd wrth gefnogi cynlluniau AAA cyfrwng Cymraeg ac argymhelliad 18 mewn perthynas â phrosiectau peilot ysgolion arbennig.

    Goblygiadau Ariannol

    Ariannwyd y cynlluniau a restrwyd uchod ag adnoddau sydd ar gael yn barod. Hyd yn hyn mae dros £6m wedi ei ddyrannu o’r Grant Gwella Adeiladau Ysgolion ar gyfer darpariaeth ranbarthol. Ariannwyd y prosiectau peilot iaith a lleferydd a’r grant SELAN ag adnoddau sy’n bodoli’n barod o fewn Maes Rhaglenni Gwariant Anghenion Ychwanegol a Chynhwysiant.

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  9. Bod Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried darparu arian AAA i glystyrau ysgolion a llunio system sy’n annog arian i gael ei rannu ymhlith ysgolion mewn clystyrau.
  10.  

    Gwrthod

    Yn unol â’r rheoliadau sy’n rheoli cyllid ysgolion gall awdurdodau lleol gadw arian yn ganolog ar gyfer darpariaeth AAA arbenigol, gan gynnwys arian i annog cydweithrediad rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae’r cyllid ar gyfer y cyfryw gydweithrediad wedi cael ei chwyddo’n ddiweddar drwy fod grant arbennig o £5.1 miliwn wedi’i roi ar gyfer ’Datgloi Potensial Ysgolion Arbennig – Prosiectau Treialu’.

    Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ddirprwyo cyllid ar gyfer darpariaeth o fath arall i ysgolion fel rhan o’r cyllidebau dirprwyedig i ysgolion. Nid yw’r rheoliadau’n caniatáu dirprwyo cyllid i ’glwstwr o ysgolion’ am nad oes sail gyfreithiol i hynny, dim ond i ysgolion unigol.

    Serch hynny, mae’n arfer gyffredin i glystyrau o ysgolion weithio gyda’i gilydd ar ystod o faterion, yn ogystal â rhannu adnoddau. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys gwaith ar gynllunio a sicrhau gwell trosglwyddo rhwng cyfnodau allweddol 2 a 3 ac ar sicrhau bod staff yn cael datblygu’n broffesiynol ac yn barhaus. Rhan allweddol o agenda 14-19 yw annog cydweithrediad rhwng ysgolion a darparwyr eraill; a disgwylir i ysgolion sy’n cael y grant ’Rhagori’, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, weithio gyda’i gilydd i roi cymorth i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig ac sydd mewn perygl o fethu yn yr ysgol.

    Sefydlwyd is-grŵp o fewn WAGSEN i ystyried arian ar gyfer AAA drwy Gymru ac rydym yn cynnal trafodaethau gydag Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn gwneud archwiliad o’r arian hwn a chanfod yr arferion gorau. Gobeithir gorffen y gwaith hwn tua diwedd 2007. Yng ngoleuni canfyddiadau’r archwiliad a thrwy adeiladu ar arferion presennol yr ysgolion o ran cydweithredu mewn meysydd eraill, byddwn yn hybu cydweithrediad rhwng yr ysgolion mewn perthynas â’r ddarpariaeth AAA.

     

    Goblygiadau Ariannol

    Gellir cael arian i gynnal yr archwiliad o’r adnoddau sydd ar gael yn barod o fewn y Maes Rhaglenni Gwariant anghenion ychwanegol a chynhwysiant.

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  11. Bod Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried sut y gall clystyrau ysgolion chwarae mwy o rôl i gefnogi darpariaeth unedau arbennig yn y brif ffrwd.
  12.  

    Derbyn mewn egwyddor

    Gweler fy ymateb i argymhelliad 15. Bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o ymgynghoriad pellach gyda rhieni a rhanddeiliaid eraill ynglŷn â dyfodol asesiadau a datganiadau statudol.

    Wrth ddatblygu’r dull gweithredu hwn byddai angen sicrhau bod digon o wahanol ddarpariaethau ar gael i ddiwallu ystod eang o anghenion disgyblion. Mae’n bosibl y bydd angen datblygu hyn ar sail ranbarthol yn hytrach na threfniadau clwstwr ysgolion gan nad yw ysgolion bychain, clystyrau bychain nac awdurdodau bychain, yn enwedig y rhai gwledig eu natur yn debygol o allu diwallu’r sbectrwm anghenion yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, byddem yn cytuno bod rhannu arbenigedd ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol yn hollbwysig er mwyn datblygu ymarfer da mewn darpariaeth a chefnogaeth i ddisgyblion ag AAA.

    Goblygiadau Ariannol

    Gweler yr ymateb i argymhelliad 15.

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  13. Bod unedau arbennig yn cael eu datblygu o fewn clystyrau fel canolfannau rhagoriaeth ar gyfer addysgu AAA.
  14.  

    Derbyn mewn egwyddor

    Gweler argymhelliad 18. Bydd angen ystyried yr argymhelliad hwn yng nghyd-destun yr holl ddarpariaeth AAA sydd ar gael, gan gynnwys rôl ysgolion arbennig fel canolfannau rhagoriaeth.

    Goblygiadau Ariannol

    Dim

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  15. Bod Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried dulliau o annog athrawon mewn amgylchiadau dysgu prif ffrwd ac amgylchiadau dysgu arbennig i gyfnewid arbenigedd a gwybodaeth.

 

Derbyn

Dechreuodd y Papur Gwyrdd, "Y Gorau ar gyfer Addysg Arbennig " (1997) a rhaglen waith ddilynol, "Llunio Dyfodol Addysg Arbennig - Rhaglen Weithredu ar gyfer Cymru" (1999) roi sylw i’r newid yn rôl ysgolion arbennig ar sail ymagwedd fwyfwy cynhwysol at addysg arbennig. Cydnabuwyd y byddai ysgolion arbennig yn chwarae rhan lawer mwy rhyngweithiol, yn fwyaf arbennig gydag ysgolion yn y sector prif ffrwd ac wrth gefnogi gwasanaethau atodol i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig.

Er gwaetha’r dystiolaeth o ymarfer da a amlygwyd yn arolygiadau Estyn o ysgolion arbennig, ymddengys bod angen mwy fyth o hyblygrwydd, cynllunio strategol a chydgysylltu amlasiantaethol er mwyn datgloi potensial diamheuol ysgolion arbennig yng Nghymru ac ailddiffinio’u sefyllfa o fewn yr agenda addysgol ehangach.

Hoffwn weld ysgolion arbennig ac unedau AAA/canolfannau adnoddau yn chwarae rhan fwy rhagweithiol ac yn dod yn ganolfannau hyblyg ar gyfer dysgwyr sy’n rhoi sylw i anghenion plant a hefyd i anghenion y gymuned ehangach. Dylai hyblygrwydd ymestyn i ddatblygu rhagor ar strategaethau ymuno a gadael sydd wedi eu hystyried yn ofalus ac sy’n rhoi ystyriaeth i angen parhaus dysgwyr i gael eu haddysgu yn y sector a’r manteision parhaus sy’n deillio o hynny.

Fel rhan o strategaeth ehangach y Cynulliad i GODI safonau ar gyfer grwpiau dan anfantais a’r cynllun peilot cydategol "Datgloi Potensial Ysgolion Arbennig," byddant gyda’i gilydd yn cyflawni’r camau y cynigiwyd bod eu hangen gan y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ac yn hybu’r defnydd o ysgolion arbennig fel canolfan adnoddau ar gyfer y gymuned. Mae £5.1 miliwn wedi ei ryddhau dros gyfnod o 3 blynedd, o Fedi 2006 ymlaen, er mwyn galluogi pob un o’r 22 AALl sydd yng Nghymru i sefydlu Prosiectau Peilot Ysgolion Arbennig.

Byddwn yn gofyn am geisiadau gan AALlau ar y cyd ag ysgolion arbennig ar gynigion sy’n ymwneud ag ystod o arferion allgymorth gan gynnwys:

  • Cymorth i unigolion mewn sefyllfaoedd prif ffrwd – cyngor a chanllawiau i ysgolion prif ffrwd
  • Darparu hyfforddiant – ffurfiol ac anffurfiol i ystod o sefyllfaoedd a gwasanaethau
  • Modelu a hyfforddi – staff prif ffrwd ac arbenigol yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn cynyddu eu sgiliau a’u gwybodaeth
  • Rhannu adnoddau arbenigol – fel cyfarpar arbenigol a chymhorthion cyfathrebu er mwyn galluogi disgyblion i ddilyn y cwricwlwm
  • Gweithio gyda rhieni a Gofalwyr – darparu cymorth, cyngor a chanllawiau
  • Cefnogaeth a darpariaeth amlasiantaethol – gweithio gyda’r asiantaethau statudol a gwirfoddol er mwyn cynyddu capasiti a diwallu holl anghenion eu disgyblion
  • Gwell trefniadau trosglwyddo ôl-16 – gweithio gyda sefydliadau AB a datblygu cyfleoedd dysgu yn y gweithle ar y cyd â busnesau lleol.

Er bod modd datblygu prosiectau peilot ar y cyd ag ysgolion arbennig mewn un awdurdod, gofynnir i awdurdodau lleol hefyd ystyried manteision datblygu gwasanaethau o’r fath yn rhanbarthol, a thrwy hynny gynyddu eu capasiti a’u gwybodaeth arbenigol mewn agweddau gwahanol ar AAA. Er enghraifft, mae’n bosibl bod un ysgol yn arbenigo mewn Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig tra bo un arall yn meddu ar wybodaeth arbenigol ym maes Anawsterau Emosiynol ac Ymddygiadol.

Mae’n hollbwysig bod y prosiectau’n cael eu gweld fel rhan o agenda gwella ysgolion ehangach yr AALlau. Mae’r gwaith o ddatblygu’r prosiectau peilot yn ceisio cefnogi system addysg gynhwysol yng Nghymru a thrwy hynny sicrhau, lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol, bod anghenion disgyblion yn cael eu diwallu o fewn eu hysgol brif ffrwd leol, ond lle bo angen mynediad at ddarpariaeth arbenigol, ei bod o’r safon uchaf a’i bod yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr eraill.

Goblygiadau Ariannol

Mae’r £5.1m ar gyfer prosiectau peilot yr ysgolion arbennig yn dod o Faes Rhaglenni Gwariant Anghenion Ychwanegol a Chynhwysiant.

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  1. Bod Awdurdodau Addysg Lleol yn addasu eu polisïau recriwtio a’u rhaglenni hyfforddi staff i sicrhau bod digon o staff cymwysedig ar gael i wneud asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.
  2.  

    Derbyn

    Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn cynnwys yr egwyddor sylfaenol y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Wrth ymwneud â phlant a’u rhieni mae’n ofynnol i bob corff statudol gyflawni unrhyw ofynion a bennir gan y Ddeddf, a dilyn y polisïau sydd yn eu Cynlluniau Iaith Gymraeg a’u Cynlluniau Addysg Gymraeg.

    Mae 'Iaith Pawb', Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog (2003) yn nodi strategaeth a gweledigaeth hollbwysig Cynulliad Cymru ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mae’n cydnabod hawl disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a’u rhieni i gael darpariaeth addysgol yn eu dewis iaith.

    Rhaid i AALlau roi ystyriaeth i ddiwallu anghenion disgyblion sydd ag AAA yn unol â dymuniad y rhieni i dderbyn addysg a darpariaeth cymorth addysgol cyfrwng Cymraeg neu Saesneg. Mae gan rieni sy’n dymuno i’w plant gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg hawl i fynegi eu dymuniad dan Ddeddf Addysg 1996. Mae’n ddyletswydd ar AALlau a Chyrff Llywodraethu i roi ystyriaeth i unrhyw ddymuniad a fynegir gan rieni. Wrth asesu anghenion plentyn mae’n briodol asesu’r plentyn yn y Gymraeg neu’r Saesneg, pa un bynnag yw’r iaith a ddewiswyd, a dylid cymryd camau er mwyn sicrhau bod pob un sy’n ymwneud â’r broses hon yn ymwybodol o anghenion iaith y disgybl.

    Rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu cwrs e-ddysgu dwyieithog ar gyfer AAA a fydd ar gael drwy Gymru gyfan. Bydd athrawon Cymraeg a Saesneg eu hiaith yn gallu dilyn y cwrs ac ennill achrediad chwe uned tuag at dystysgrif Meistr mewn AAA. Bydd y cwrs hwn ar gael o Ionawr 2007 ymlaen.

    Rydym hefyd yn annog Sefydliadau Addysg Uwch i weithio gyda’i gilydd fel bod modd dilyn modiwlau craidd mewn cyrsiau penodol yn agosach at gartref athro neu athrawes a thrwy gyfrwng y Gymraeg gan ddileu’r angen i deithio a chael wythnosau preswyl.

    Yn 2004, lansiwyd fideo a Phecyn Hyfforddi "Iechyd Da" gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda’r bwriad o gynyddu ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg a sensitifrwydd ieithyddol, a chynorthwyo staff gofal iechyd i ddeall pwysigrwydd dewis iaith yn y gwaith o ddarparu gofal iechyd.

    Hoffwn eich cyfeirio hefyd at y Cynllun Gweithredu sy’n seiliedig ar "Cydnabod Angen", adroddiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar AAA drwy gyfrwng y Gymraeg (2002). Mae copïau o’r Cynllun Gweithredu ar gael ar wefan Dysgu Cymru.

    Goblygiadau Ariannol

    Mae costau datblygu’r cwrs e-ddysgu ar gyfer AAA, £130k, gan gynnwys costau rheoli’r prosiect, wedi eu talu’n barod ag adnoddau a oedd yn cael eu dal yn y Maes Rhaglenni Gwariant anghenion ychwanegol a chynhwysiant (dros 2004/05 a 2005/06).

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  3. Bod Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal archwiliad yn ystod y 12 mis nesaf o’r arbenigedd iaith Gymraeg a chyfrwng Cymraeg i weld lle mae’r bylchau ac i lywio’r ddarpariaeth yn y dyfodol.
  4.  

    Derbyn yn rhannol

    Nid yw’n debygol y gellid cynnal archwiliad digon manwl yn ystod y 12 mis nesaf i lywio’r ddarpariaeth yn y dyfodol. Fel y Pwyllgor rydym yn sylweddoli bod nifer o wahanol weithwyr proffesiynol yn ymwneud â’r gwaith o gefnogi disgyblion sydd ag AAA, gan gynnwys athrawon, athrawon arbenigol â chymwysterau cydnabyddedig, cynorthwywyr cymorth dysgu, seicolegwyr addysgol, meddygon, seiciatryddion clinigol, therapyddion, awdiolegwyr, offthalmolegwyr ac yn y blaen. Er na ellid ystyried pob gweithiwr proffesiynol yn y rhan gyntaf, gellid cynnal archwiliad fesul ysgol o gymwysterau’r staff cymorth presennol mewn ysgolion. Gellid canfod union hyfforddiant a chymwysterau athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu a gellid gofyn i ysgolion ac AALlau nodi unrhyw ddiffygion yn y ddarpariaeth bresennol.

    Byddwn yn sefydlu cwrs arall ar gyfer Therapyddion Iaith a Lleferydd erbyn Tachwedd 2007 mewn Prifysgol yng Ngogledd Cymru. Bydd y cwrs hwn yn gallu darparu hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd drwy hynny’n cynyddu nifer y therapyddion iaith a lleferydd sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru.

    Gweler hefyd yr argymhelliad blaenorol ar gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant.

    Goblygiadau Ariannol

    Telir costau datblygu cyfleuster hyfforddi arall ar gyfer Therapyddion Iaith a Lleferydd yng Ngogledd Cymru o gyllidebau sy’n bodoli’n barod ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r gost yn dibynnu ar y tendr ar gyfer darparu’r hyfforddiant hwn.

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  5. Bod Llywodraeth y Cynulliad yn adolygu’r ddarpariaeth ar gyfer addysg anghenion ychwanegol mewn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon, gan gynnwys athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg.
  6. Derbyn

    Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cynnig Safonau Statws Athro Cymwysedig diwygiedig a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddangos eu bod yn deall eu cyfrifoldebau dan y Cod Ymarfer AAA, ac yn gwybod sut i ofyn am gyngor gan arbenigwyr ar fathau llai cyffredin o anghenion addysgol arbennig. Byddai hyn hefyd yn golygu bod angen i ddarparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon ymdrin â hyn yn eu cyrsiau.

    Mae Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (HAC) yn cael ei gynllunio er mwyn rhoi i athrawon sydd newydd gymhwyso y sgiliau a’r wybodaeth arbenigol y mae arnynt eu hangen er mwyn addysgu eu cyfnod a’u pwnc yn gymwys. Fodd bynnag, man cychwyn yn unig ydyw ar gyfer proses o ddatblygiad proffesiynol sy’n para drwy gydol gyrfa athro neu athrawes. Yn ein barn ni, mae’n well i’r athro neu’r athrawes arbenigo mewn AAA ar ôl cwblhau’r hyfforddiant cychwynnol a’r flwyddyn gynefino, ac mae sawl cyfle iddynt wneud hyn fel uwchraddedigion mewn sefydliadau ledled Cymru. Nid darparu sgiliau a hyfforddiant manwl mewn AAA yw pwrpas Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon.

    Cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad yn ddiweddar sut y mae’n symud ymlaen â newidiadau yn y ddarpariaeth Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng ngoleuni adolygiad Furlong o’r ddarpariaeth HAC yng Nghymru. Fel rhan o hyn, rydym wedi dweud y byddwn yn edrych yn y tymor canolig (mae angen cyflawni gwaith yn ystod y 5 mlynedd nesaf) ar adolygiad o faterion systematig a thymor hir yng nghyswllt darpariaeth HAC drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai hyn yn edrych ar nifer o faterion, er enghraifft, pa ddatblygiadau y mae’n bosibl y byddai eu hangen mewn HAC er mwyn ystyried newidiadau mewn polisi ac er mwyn gwella sgiliau iaith Gymraeg a nifer yr athrawon. Byddwn yn sicrhau bod yr adolygiad hwn yn cynnwys ystyriaeth o AAA mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon.

    Penodwyd gweithiwr ar secondiad rhan-amser tua diwedd 2005 i adolygu pob agwedd ar hyfforddiant AAA i athrawon, staff cymorth a llywodraethwyr ysgolion. Y dasg a roddwyd i’r gweithiwr ar secondiad yw adolygu’r modd y cymhwysir safonau Statws Athro Cymwysedig mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng nghyswllt AAA er mwyn sicrhau dull gweithredu cyson a chanfod bylchau yn y cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant. Bydd y gweithiwr ar secondiad, awdur Cydnabod Angen ac uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, hefyd yn ystyried cyfleoedd hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y cyswllt hwn.

    Mae’r gweithiwr ar secondiad yn adrodd i is-grŵp WAGSEN, "Grymuso Athrawon", a sefydlwyd fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Polisi Cynhwysiant a Fframwaith Perfformiad. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried agweddau ar hyfforddiant AAA gan gynnwys Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon, Datblygiad Proffesiynol Cynnar a Datblygiad Proffesiynol Parhaus, er mwyn sicrhau bod pob athro neu athrawes yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol pan fyddant yn mynd i’r dosbarth i adnabod a diwallu ystod o anghenion dysgwyr. Bydd y grŵp yn trafod drafft cyntaf yr adroddiad interim yn Awst 2006.

    Goblygiadau Ariannol

    Ni wyddom beth fydd y goblygiadau ariannol, ond mae’n debygol na fyddant yn sylweddol yng nghyswllt materion AAA, oherwydd bydd yr adolygiad arfaethedig yn cael ei wneud pa un bynnag.

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  7. Bod Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried darparu arian i sicrhau bod ystod gyflawn o brofion diagnostig cyfrwng Cymraeg ar gael i’w defnyddio yn y broses wneud datganiadau.
  8.  

    Derbyn

    Rydym yn ymwybodol bod y rhan fwyaf o’r profion sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yng Nghymru ar gael drwy gyfrwng y Saesneg yn unig. Canlyniad hyn yw bod perygl bod amcangyfrif rhy isel yn cael ei roi o allu plant Cymraeg eu hiaith gan eu bod yn cael eu profi yn eu hiaith wannaf o bosibl.

    Yn 2005 rhoddwyd secondiad am dymor i ymgynghorydd Cymraeg o AALl er mwyn casglu gwybodaeth ynglŷn â’r adnoddau a’r deunydd asesu mewn AAA cyfrwng Cymraeg a’r defnydd a wneir ohonynt ar gyfer defnyddwyr iaith gyntaf ac ail iaith. Y bwriad, yn amodol ar gytundeb yr awdur ac unrhyw amodau hawlfraint, yw sicrhau bod y wybodaeth a gafwyd drwy’r archwiliad hwn ar gael i bob athro ac athrawes yng Nghymru drwy’r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu. Yn ychwanegol at hyn, yn 2004, lansiodd Prifysgol Cymru, Aberystwyth, wefan: www.drws.co.uk yn benodol er mwyn rhannu gwybodaeth am addysg Gymraeg a dwyieithog.

    Hefyd, yn 2005 cyhoeddais y byddai grant o £90,000 ar gael i Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2008/09, er mwyn datblygu adnoddau penodol yn y Gymraeg. Mae hyn yn torri tir newydd drwy ddatblygu profion asesu penodol yn yr iaith Gymraeg mewn sgiliau iaith, lleferydd a rhesymu llafar sy’n seiliedig ar yr iaith ei hun yn hytrach nag yn gyfieithiad o ddeunydd Saesneg. Defnyddir profion geirfa neu iaith a dderbyniwyd yn aml fel arf diagnostig er mwyn canfod meysydd penodol y bydd ar y plentyn angen cymorth penodol â hwy wrth ddysgu. Mae Prifysgol Bangor yn awyddus i ddatblygu mesuryddion iaith dilys ar gyfer plant ac oedolion Cymraeg eu hiaith. Bydd y mesuryddion hyn ar gael i’w defnyddio gan seicolegwyr addysgol, gan ymchwilwyr, gan athrawon, gan therapyddion iaith a lleferydd, a chan weithwyr proffesiynol ym maes iechyd.

    Er 2004, yr wyf hefyd wedi rhyddhau £16k ar gyfer cyfieithu "Prawf Darllen Cymru Gyfan," AALl Abertawe, datblygu casgliad o destunau cyfrwng Cymraeg ac addasu deunyddiau mewn print bras ar gyfer dysgwyr sydd â nam ar eu golwg. Lansiwyd y rhain yn Chwefror 2005 ac maent ar gael i bob awdurdod lleol yng Nghymru.

    Gweler hefyd fy ymateb i argymhelliad 20.

    Goblygiadau Ariannol

    Daeth y £90,000 i gynorthwyo Prifysgol Bangor i ddatblygu deunydd profion drwy gyfrwng y Gymraeg a’r arian ar gyfer deunydd profion darllen Cymru gyfan (16k) o adnoddau a oedd yn bodoli’n barod ac a oedd yn cael eu cadw ym Maes Rhaglenni Gwariant Anghenion Ychwanegol a Chynhwysiant.

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  9. Dylai Llywodraeth y Cynulliad sicrhau bod profion sy’n rhan o’r broses wneud datganiadau ar gael yn iaith gyntaf y plentyn, gan y dylai hyn fod yn hawl sylfaenol yng Nghymru.
  10.  

    Gwrthod

    Nid oes profion ar gyfer datganiadau, fel sy’n cael eu hargymell yma, ar gael. Mae athrawon arbenigol, seicolegwyr addysgol a gweithwyr proffesiynol eraill yn defnyddio ystod o arfau diagnostig gan ddibynnu ar anghenion y plentyn i’w galluogi i ganfod meysydd sy’n peri pryder. Ni fyddai prawf o’r fath ar gael a allai ddiwallu anghenion pob plentyn. Fodd bynnag, mae angen sicrhau bod ystod o ddeunyddiau profi ar gael yn iaith gyntaf plant. Gweler hefyd fy ymateb i Argymhelliad 22.

    Goblygiadau Ariannol

    Dim

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  11. Bod Llywodraeth y Cynulliad, ynghyd â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ac undebau’r athrawon, yn ystyried a yw’r canllawiau a’r gefnogaeth a roddir i athrawon a disgyblion o ran rhoi meddyginiaethau yn briodol.
  12.  

    Derbyn

    Rydym wrthi ar hyn o bryd yn diweddaru Cylchlythyrau 57/94 (Addysg Plant Sâl) a 34/97 (Cymorth i Ddisgyblion ag Anghenion Meddygol: Arweiniad i Arferion Da) y Swyddfa Gymreig er mwyn darparu gwell canllawiau i ysgolion ac AALlau wrth gefnogi disgyblion sydd ag anghenion meddygol. Bydd y ddogfen ddiwygiedig yn cynnwys y canllawiau sydd ar gael ar hyn o bryd ynglŷn â rhoi meddyginiaethau mewn ysgolion.

    Sefydlwyd grŵp cyfeirio allanol, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r holl gyrff statudol a gwirfoddol, yn gynnar yn 2006 i adolygu’r canllawiau drafft presennol, Mynediad at Addysg a Chymorth i Ddisgyblion sydd ag Anghenion Meddygol, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ym Medi 2006.

    Ymgynghorir â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ac undebau’r athrawon fel rhan o’r broses hon.

    Goblygiadau Ariannol

    Dim ar hyn o bryd, er ein bod yn ymwybodol y gall fod angen rhagor o hyfforddiant i ysgolion, a bydd angen ystyried hyn mewn canllawiau yn y dyfodol fel rhan o’r gronfa ysgolion gwell.

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  13. Bod Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried canllawiau ar y ffordd orau o gefnogi plant a rhieni nad yw Cymraeg na Saesneg yn iaith gyntaf iddynt yn ystod y broses wneud datganiadau.
  14.  

    Derbyn

    Mae Cod Ymarfer AAA Cymru yn nodi ei bod yn ofynnol i AALlau sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn nifer o ieithoedd priodol ac mewn cyfryngau amrywiol, fel bod rhieni nad yw Cymraeg na Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, ynghyd â rhieni sydd ag anabledd neu anhawster dysgu, yn gallu cael gafael ar y wybodaeth.

    Mae Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 yn cyflwyno dyletswydd gyffredinol sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, wrth gyflawni eu swyddogaeth gyhoeddus, ystyried yr angen i: hybu cyfle cyfartal; hyrwyddo cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grwpiau hiliol; a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail hil.

    Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion a cholegau fod â pholisi cydraddoldeb hiliol sy’n berthnasol i staff, disgyblion, rhieni a gofalwyr, a’r gymuned ehangach.

    Rhoddir ystyriaeth briodol i’r argymhelliad hwn fel rhan o’r archwiliad o wybodaeth a chanllawiau i rieni disgyblion ag AAA a gynhelir yn ystod 2006/07 (gweler yr ymateb i argymhelliad 12). Yn dilyn yr archwiliad hwn anfonir canllawiau ymarfer da i bob AALl yng Nghymru.

     

    Goblygiadau Ariannol

    Gweler argymhelliad 12

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  15. Bod Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried arferion gorau o ran cefnogi rhieni sydd ag anghenion addysgol neu anghenion iechyd arbennig yn ystod y broses wneud datganiadau.
  16.  

    Derbyn

    Gweler fy ymateb i argymhellion 12 a 25. Ystyrir hyn fel rhan o’r archwiliad o wybodaeth a chanllawiau i rieni disgyblion ag AAA a gynhelir yn ystod 2006/07. Yn dilyn yr archwiliad hwn anfonir canllawiau ymarfer da i bob AALl yng Nghymru.

    Goblygiadau Ariannol

    Gweler argymhellion 12 a 25

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  17. Bod Llywodraeth y Cynulliad, ar y cyd â’r Comisiynydd Plant, yn ystyried arferion gorau o ran cefnogi plant sy’n derbyn gofal sydd ag anghenion addysgol arbennig, gan gynnwys sut y maent yn cael mynediad i’r trefniadau asesu statudol.
  18.  

    Derbyn

    Yn ddiweddarach yr haf hwn bydd y Cynulliad yn ymgynghori ar ystod o fesurau er mwyn gwella’r trefniadau ar gyfer lleoliadau, iechyd ac addysg plant sy’n derbyn gofal. Bydd hyn yn cynnwys y disgwyl i awdurdod lleol ystyried angen addysgol arbennig plentyn fel rhan o’r penderfyniad yn ymwneud â lleoli plentyn. Yn ychwanegol at hyn, sefydlwyd gweithgor addysg i edrych ar ffyrdd o wella addysg plant sy’n derbyn gofal. Mae cynrychiolydd o Swyddfa’r Comisiynydd Plant yn aelod o’r grŵp rhanddeiliaid.

    Bydd y grŵp hefyd yn ystyried camau er mwyn gwella cyrhaeddiad addysgol a mynediad at addysg bellach / uwch i bobl ifanc sy’n gadael gofal gan gynnwys y rhai hynny sydd ag anghenion addysg arbennig, ychwanegol.

    Goblygiadau Ariannol

    Ystyrir adnoddau ar gyfer unrhyw gamau newydd fel rhan o’r gwaith datblygu a’r ymgynghoriad ehangach.

     

     

    Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  19. Bod y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn rhoi ymateb cychwynnol i’r adroddiad hwn cyn pen chwe wythnos, yn unol â’r protocol y cytunwyd arno, ac y dylai adrodd i’r Pwyllgor ar hynt y broses o roi’r trefniadau gwell ar waith, gan gynnwys adroddiad arall ar yr argymhellion yn Rhan 1 yr adolygiad hwn, cyn pen 12 mis.

 

Derbyn

Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn gan y Cabinet yn cyflawni’r argymhelliad hwn. Rwyf hefyd wedi darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r cynnydd â Rhan 1 yr ymchwiliad hwn ym Mai 2006 ac rwy’n fodlon parhau i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor drwy ragor o adroddiadau rheolaidd, ac yn sicr cyn pen 12 mis.

Goblygiadau Ariannol

Dim