Skip to content

Cyllid Y GIG

Brian Gibbons ,Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dywedais mewn Cyfarfod Llawn ym mis Chwefror mai tuag £20 miliwn oedd y diffyg ariannol net tybiedig am 2005-06 ar gyfer y GIG yng Nghymru. Yr oedd hyn yn cynnwys diffyg o ryw £25 miliwn ar gyfer ymddiriedolaethau, a gwarged o ryw £4 miliwn i £5 miliwn ar gyfer byrddau iechyd lleol. Y swm terfynol a archwiliwyd oedd diffyg ariannol o £26 miliwn ar gyfer ymddiriedolaethau’r GIG a thanwariant net o £2 filiwn ar gyfer byrddau iechyd lleol. Felly, methodd dau fwrdd iechyd lleol a saith o ymddiriedolaethau’r GIG â chyrraedd eu targedau ariannol.

Cydnabu Llywodraeth Cynulliad Cymru y byddai 2005-06 yn flwyddyn ariannol anodd i’r GIG. Cydnabuom y byddai angen lefelau sylweddol o effeithlonrwydd er mwyn pontio’r bwlch rhwng y cynnydd mewn ariannu a’r cynnydd tybiedig mewn costau. Pennwyd targedau heriol gennym i leihau amseroedd aros ymhellach, a bu’n rhaid ystyried cynnydd mewn gofynion effeithlonrwydd ac wrth weithredu’r rhaglen moderneiddio cyflogau. At ei gilydd, cynyddodd cyllideb y gwasanaeth iechyd 7 y cant. Yr oedd hyn yn cynnwys ariannu ychwanegol o £32 miliwn tuag at leihau amseroedd aros, a thua £108 miliwn i ddiwygio cyflogau staff y GIG, gan gynnwys meddygon ymgynghorol. Yr oeddem am i’n blaenoriaethau gael eu cyflawni o fewn yr adnoddau ariannol sydd ar gael.

Mae gan y GIG gyfleoedd ardderchog i gynyddu effeithlonrwydd er mwyn sicrhau cydbwysedd ariannol a chyrraedd targedau’r gwasanaeth heb effeithio ar ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion. Mae hon yn thema y byddwn yn ei datblygu’n fwy systematig gyda’r gwasanaeth yn 2006-07. Yr oedd bwlch ariannol y GIG yn destun cryn ddyfalu ar ddechrau’r flwyddyn ariannol ddiwethaf. Ar un adeg, amcangyfrifodd Cydffederasiwn y GIG fwlch o £70 miliwn, ond dangosodd gwybodaeth monitro ariannol a ddarparwyd gan sefydliadau’r GIG fod y rhagolwg hwn yn ormodol. Yn y gorffennol, beirniadwyd gallu’r GIG i lunio rhagolygon ariannol cadarn. Un o’r prif anawsterau o ran rhagweld swm cywir y llynedd oedd y cynnydd wrth weithredu ‘Agenda ar gyfer Newid’. Hyd yn oed ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, yr oedd llai na 50 y cant o’r staff wedi’u cymathu i’r graddfeydd cyflog newydd. Yr oedd hyn yn golygu bod ymddiriedolaethau’n defnyddio gwybodaeth anghyflawn i amcangyfrif cost y contract newydd am flwyddyn gyfan. Er gwaethaf yr ansicrwydd hynny, parhaodd rhagolwg y diffyg ariannol ar gyfer 2005-06 yn gymharol sefydlog o fis Medi ymlaen, sef tuag £20 miliwn, ac yr oedd y canlyniad ar ddiwedd y flwyddyn yn debyg iawn i’r rhagolygon hyn.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd sefyllfa ariannol y GIG o ddifrif. Cyflwynwyd nifer o fentrau a rheolaethau er mwyn sicrhau bod y sefyllfa ariannol yn cael ei rheoli. Caiff perfformiad ariannol sefydliadau’r GIG ei fonitro drwy gydol y flwyddyn gan y swyddfeydd rhanbarthol. Byddant yn gweithio gydag unrhyw sefydliad sy’n cael anawsterau er mwyn sicrhau gweithredu ar fyrder i wella’r broblem. Os bydd sefydliad yn wynebu problemau na ellir eu datrys yn ystod y flwyddyn honno, neu os bydd ganddo broblemau sylfaenol sy’n effeithio ar ei allu i gyrraedd y targedau ariannol statudol, rhaid i’r sefydliad hwnnw gynhyrchu newid strategol a chynllun effeithlonrwydd. Caiff y cynllun ei gymeradwyo gan uwch swyddogion yn yr adran. Mewn achosion o’r fath, mae’n bosibl y bydd uwch swyddogion yn gwneud adolygiad annibynnol o’r gwaith o reoli arian sefydliad er mwyn sicrhau bod cynllun cadarn ar waith. Os bydd y pryderon yn para, byddant yn anfon tîm adfer ariannol er mwyn helpu’r bwrdd i geisio ffyrdd eraill i wella’r elfen gwerth am arian yn eu gwasanaethau. Mae hyn wedi digwydd mewn tair cymuned hyd yn hyn.

Yn y pen draw, swyddog cyfrifo’r sefydliad sy’n gyfrifol am gyrraedd y targedau ariannol statudol, ac mae gan bennaeth Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel swyddog cyfrifo, bwer i ymyrryd pan fydd yn ystyried hynny’n briodol. Yn ogystal â’r rheolaethau hyn, rhoddir cymorth gan yr uned ddarparu a chymorth i helpu sefydliadau i gyflawni eu targedau gwasanaethau allweddol. Rhoddwyd cymorth ychwanegol drwy’r asesiadau moderneiddio, a wnaed gan yr Asiantaeth Arweiniad ac Arloesedd Cenedlaethol ar gyfer Iechyd tua diwedd y flwyddyn ariannol.

Er rhagweld y byddai 2005-06 yn flwyddyn ariannol anodd, yr oedd y diffyg ariannol gryn dipyn yn is nag a ragwelwyd, ac yr oedd yn llai nag 1 y cant o gyfanswm yr arian. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi cyfres o fesurau ar waith i gefnogi sefydliadau’r GIG sy’n cael anawsterau ariannol, ac i ymyrryd yn y pen draw pan fydd angen. Mae’r pwysau a gafwyd yn 2005-06 yn parhau mewn rhai ardaloedd yn y flwyddyn ariannol gyfredol, ac mae swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r sefydliadau sy’n wynebu anhawster. Er ein bod yn cydnabod bod rhywfaint o bwysau ar bob ardal, nifer fach yn unig o sefydliadau sy’n methu â rheoli’r sefyllfa ar eu pen eu hunain. Mae cynllun ar y cyd yn cael ei baratoi gan gymunedau iechyd y gorllewin er mwyn adfer cydbwysedd ariannol ledled yr ardal. Mae swyddogion hefyd wedi cymeradwyo cynlluniau ar y cyd ar gyfer cymunedau Conwy a sir Ddinbych ac ar gyfer Abertawe. Hefyd, mae trafodaethau’n parhau ynghylch cynlluniau ar gyfer y gogledd-ddwyrain, gogledd Morgannwg, Gwent, a’r ymddiriedolaeth ambiwlans.