Skip to content

Cynnydd y Rhaglen Cynllunio: cyflawni dros Gymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

Mae’r rhaglen Cynllunio: cyflawni dros Gymru bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i adrodd ar gynnydd y rhaglen ac i amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn hon.

Yn ogystal â gwella system y cynllun datblygu a’r broses o wneud penderfyniadau, mae’r Rhaglen hefyd yn ymwneud â:
 chydweithio ar draws Llywodraeth y Cynulliad ac â’n partneriaethau er mwyn sicrhau datblygiad cynaliadwy drwy’r System Cynllunio Defnydd Tir,
 cymryd i ystyriaeth anghenion cwsmeriaid,
 annog y cyhoedd a grwpiau lleol i ddefnyddio cynllunio er mwyn gwella’n cymunedau.

Cynnydd y Rhaglen

Mae Cynlluniau Datblygu yn allweddol ar gyfer gweithredu polisïau a chynigion Defnydd Tir yr awdurdodau lleol ledled Cymru. Roedd rhoi system y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd ar waith yn elfen hanfodol yn ystod hydref y llynedd. Elfen hanfodol arall yw’r dechrau gwych y mae naw awdurdod cynllunio lleol wedi ei gael eisoes gyda’u cynlluniau newydd. Bydd canllawiau polisi Cynlluniau Datblygu Lleol yn Cynlluniau Datblygu Lleol Cymru yn cael eu cyhoeddi y mis hwn, a bydd Llawlyfr Cynllunio Datblygu Lleol yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

Llynedd amlinellais egwyddorion cyfraniad y cyhoedd i’r Cynlluniau Datblygu Lleol, ac yn 2005/06 neilltuais arian i hyfforddi Aelodau a Swyddogion ynghylch Cynlluniau Datblygu Lleol, gyda phwyslais ar wella sgiliau ymdrin â’r cyhoedd. Rwy’n falch bod y buddsoddiad hwn yn dwyn ffrwyth, wrth inni ddod i gytundeb ar fwy a mwy o Gynlluniau Cynnwys Cymunedau, ac wrth i fwy gael eu cyflwyno.

Cafwyd cynnydd da hefyd gyda Chynlluniau Datblygu Unedol: derbyniwyd 3 Chynllun Datblygu Lleol arall y llynedd, a chafwyd Ymchwiliad Cyhoeddus i bump arall.

Mae Polisi Cynllunio Cymru a Pholisi Cynllunio Mwynau Cymru yn darparu fframwaith polisi cyffredinol ar gyfer cynllunio yng Nghymru, yn seiliedig ar y nodiadau cyngor technegol. Rhoddwyd llawer o gyngor technegol eto eleni:
• Nodyn Cyngor Technegol 8, Ynni Adnewyddadwy – sefydlodd y papur hwn, a gyhoeddwyd fis Gorffennaf diwethaf, fframwaith cynllunio polisi cliriach, er mwyn galluogi Cymru i gwrdd â tharged y polisi ar gyfer ynni adnewyddadwy.
• Nodyn Cyngor Technegol 15, Datblygu a Pherygl o Lifogydd – mae pob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru wedi cael trafodaeth gyda staff Llywodraeth y Cynulliad ac Asiantaeth yr Amgylchedd i drafod materion sydd wedi codi ers cyhoeddi’r papur yn 2004.
• Cynlluniau Gwastraff Rhanbarthol – mae System Gwybodaeth Ddaearyddol ar gyfer Mapio Gwastraff wedi cael ei datblygu i gynorthwyo’r Grwpiau Gwastraff i ddiffinio ardaloedd chwilio am ganolfannau gwastraff is-ranbarthol. Mae’r gwaith yn parhau ar arolwg o’r Cynlluniau Gwastraff Rhanbarthol erbyn 2007.

2006

Ym mis Ionawr cyhoeddwyd dau bapur ymgynghori allweddol:
• Nodyn Cyngor Technegol 5, Gwarchod Natur a Chynllunio – mae hwn yn rhoi canllawiau ychwanegol ynghylch y modd y dylid ymdrin â dyletswyddau gwarchod natur drwy’r system gynllunio a gyhoeddwyd ar 19 Ionawr.
• Mae Nodyn Cynllunio Technegol Mwynau ar lo, yn cynnwys cyngor ar glustogfeydd o amgylch gweithfeydd echdynnu glo, wedi’i gyhoeddi ar 30 Ionawr.
Rwy’n edrych ymlaen at ddarllen yr ymatebion maes o law.

Mae llawer o waith arall wedi’i gynllunio ar gyfer eleni, yn cynnwys:

• Er mwyn ategu’r broses o gyflwyno system y Cynllun Datblygu Lleol ledled Cymru, bydd Canllaw Gymar i Bolisi Cynllunio Cymru yn cael ei gyhoeddi yn fuan. Bydd y Canllaw yn rhoi cyngor ymarferol i awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ar sut i ddefnyddio Polisiau Cynllunio Cymru wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol. Bydd y dogfennau i gyd ar gael ar ein gwefan: www.cymru.gov.uk/subiplanning/index.htm, neu drwy gysylltu â Cynllunio: cyflawni dros Gymru: planningdeliveringforwales@Wales.gsi.gov.uk
• Cyhoeddi fersiynau terfynol Nodiadau Cyngor Technegol (TAN) 1 a 2 (Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai a Cynllunio a Thai Fforddiadwy) ynghyd â’r ddogfen gysylltiedig, Datganiad Polisi Gweinidogol Dros Dro ar Dai. Bydd y rhain wedi’u seilio ar ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2005, a byddant yn sicrhau bod tai fforddiadwy o’r safon uchaf ar gael drwy’r system gynllunio.
• O ran Ymateb y Llywodraeth i Arolwg Kate Barker ar y Cyflenwad o Dir sydd ar gael ar gyfer Tai: byddwn yn cydweithio’n agos â Llywodraeth y DU ar yr Atodiad Lles Cynllunio, er mwyn archwilio’r holl oblygiadau ac i sicrhau’r canlyniad gorau posib i Gymru.
• Bydd Nodyn Cynllunio Technegol 13 Twristiaeth, Nodyn Cynllunio Technegol 16, Chwaraeon a Hamdden a Nodyn Cynllunio Technegol 18, Trafnidiaeth, yn cael eu cyhoeddi yn destun ymgynghoriad yn y gwanwyn.
• Yn nes ymlaen eleni byddwn yn cychwyn y broses o arolygu Nodyn Cynllunio Technegol 6, Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, yn ogystal â’r gwaith ar y Nodyn Cynllunio Technegol ar Reoli Datblygu (yn cynnwys asesu effaith ar iechyd).
• Ein nod yn y Gweithgorau Agregau Rhanbarthol yw paratoi papurau ymgynghori ar gyfer y Datganiadau Technegol Rhanbarthol, i’w cyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.                  • Is-ddeddfwriaeth

Eleni byddwn yn datblygu mesurau sy’n deillio o’r Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, gan gynnwys:

 Rheoliadau, os cânt eu cymeradwyo yn y Cyfarfod Llawn, ar gyfer cynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio.
 dileu Imiwnedd y Goron.
 mesurau yn ymwneud â rheoli datblygu ac arolwg o’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd er mwyn ymdrin â gofynion newydd; ac
 ymgynghori ynghylch newidiadau arfaethedig i’r gyfundrefn orfodi, gyda’r bwriad o sicrhau deddfwriaeth yn nes ymlaen yn y flwyddyn.


Cyflawni

Er bod polisi a chyngor technegol yn hanfodol, fy mlaenoriaeth yw sicrhau gwelliannau ar gyfer pawb sy’n defnyddio’r system gynllunio yng Nghymru. O ganlyniad i’w rôl hanfodol fel cyflenwyr gwasanaethau cynllunio, cyhoeddais ym mis Mawrth 2005 y bydd £2 miliwn ar gael eto yn 2005/6 i awdurdodau cynllunio lleol, sef £68,000 i bob awdurdod. Rwy’n cynnig symiau cyffelyb iddynt yn 2006/07.  I gydnabod rôl allweddol yr aelodau etholedig, rydym yn parhau i roi arian i’r Rhaglen Briffio Aelodau, gan ganolbwyntio ar system y Cynllun Datblygu Lleol newydd, Dylunio a Chynllunio, a Rheoli Datblygu.


Mae tri phrosiect Braenaru yn cael eu hariannu ar hyn o bryd, ar gyfer ymdrin â:

 chynllunio a datblygu cynaliadwy
 Canllawiau Dylunio ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol
 y defnydd ‘gytundebau cynllunio’ adran 106.


Mae’r agenda e-Gynllunio wedi cael ei gynorthwyo drwy ariannu Y Porth Cynllunio, sy’n golygu y medrwyd penodi Rheolwr Cyfrifon ymroddedig i Gymru. Mae awdurdodau cynllunio lleol wedi medru cysylltu â’r Porth yn gyflymach, ac o ganlyniad mae’i fanteision ar gael yn gyflymach i bawb sy’n defnyddio’r gwasanaeth cynllunio.

Rwy’n awyddus i sicrhau bod Strategaeth Amgylcheddol Llywodraeth y Cynulliad, a’i ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy yn cael ei gyflawni ar draws ei holl weithgareddau, gan gynnwys y system cynllunio defnydd tir. Er mwyn sicrhau hyn hoffwn weld y broses gynllunio yn cyfrannu mwy at y gwaith o sicrhau datblygiad sy’n gynaliadwy yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn economaidd.

Mae’r Gronfa Ardoll Agregedd yn enghraifft dda o hyn, gan iddi ddarparu £1.2 miliwn yn ystod 2005 ar gyfer dros 30 o brosiectau ledled Cymru. Roedd y rhain yn bennaf mewn ardaloedd a effeithiwyd gan chwarela, ond galluogodd y prosiectau hefyd i hysbysiadau gwahardd gael eu hystyried yn ymarferol mewn chwareli yn Sir Gaerfyrddin, Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae gwella’r ffordd yr ydym yn defnyddio dyluniad, aliniad a ffactorau lleoliadol yn gynaliadwy wrth adeiladu yn enghraifft arall. Un sefydliad sy’n gwneud cyfraniad pwysig i hyn yw Comisiwn Dylunio Cymru. Mae Richard Parnaby, y Cadeirydd cyntaf, wedi symud i’r Alban, ond bydd yn parhau’n rhan o’r Comisiwn fel Comisiynydd. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod maint ei gyfraniad, am iddo sicrhau bod y Comisiwn yn gweithredu’n effeithiol fel sefydliad. Rwy’n bwriadu gwneud datganiad ynglŷn â’r Cadeirydd newydd yn fuan.


Mae sefydliadau eraill yn parhau i gyfrannu’n helaeth at y broses o gynnal y system gynllunio yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

 Cymorth Cynllunio Cymru, sefydliad yr ydym yn parhau i’w ariannu er mwyn ei alluogi i ddarparu gwasanaeth annibynnol i’r cyhoedd ac i weithio ag eraill i ysgogi cyfraniad effeithiol gan y cyhoedd yn y system gynllunio.
 Mae Yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru yn parhau i ennyn parch y rheini sy’n gweithio gyda’r system gynllunio, ac wedi cwrdd â phob targed a osodwyd iddi.

Y Flwyddyn Nesaf

Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi gwelliannau i’r modd y mae’r system gynllunio yn cael ei chynnal, ac rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth parhaus y rhanddeiliaid. Serch hynny, nid oes lle i laesu dwylo, ac mae angen inni adeiladu ar ein llwyddiannau.

Drwy gydweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau cynllunio lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill, fy mlaenoriaethau yw parhau i ddarparu polisi diweddar a chyngor technegol, wedi’u cefnogi gan is-ddeddfwriaeth briodol. Rydym yn disgwyl i’n partneriaethau wneud eu rhan wrth gynnal y broses sy’n cael ei harwain gan y cynlluniau datblygu, ac sydd, yn fy marn i, yn hanfodol ar gyfer creu system gynllunio deg, agored a chlir ledled Cymru, ac rydym hefyd yn disgwyl iddynt gydweithio â ni er mwyn sicrhau gwelliannau parhaol i’r modd y mae’r system honno yn cael ei chynnal.

Cawsom gynnydd da eto y llynedd, a gosodwyd sylfaen gref ar gyfer rhagor o welliannau eleni. Drwy weithio â’n partneriaethau rwy’n sicr y bydd y Rhaglen Cynllunio: cyflawni dros Gymru yn atgyfnerthu ein llwyddiannau hyd yn hyn, ac yn parhau i adeiladu arnynt.