Skip to content

Llafar - Ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Adroddiad y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy ar y Morglawdd Arfaethedig ar draws Afon Hafren

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Gynaliadwyedd a Thai .

A’n hymrwymiadau pwysig o ran newid yn yr hinsawdd ac ynni carbon isel yn 'Cymru’n Un’ yn gefndir, diolchaf i’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy am astudio pŵer llanw a thrai yn y DU ac, yn benodol, am asesu’r  opsiynau yn aber Afon Hafren o safbwynt datblygu cynaliadwy. Mae’r comisiwn wedi defnyddio’r cymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru a gweinyddiaethau datganoledig eraill yn effeithlon, gan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio ac Asiantaeth Datblygu Rhanbarthol De Orllewin Lloegr, i lunio astudiaeth gynhwysfawr o botensial pŵer llanw a thrai amgylch y DU. Diolchaf hefyd i’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy am roi sylw penodol i ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch y materion hyn ac yr wyf yn cefnogi ei gasgliadau sy’n nodi, wrth inni ymchwilio ymhellach i’r cyfleoedd a gynigir gan bŵer llanw a thrai, bod rhaid i’r ymgysylltu hwn fod yn rhan allweddol o’r ymarfer.

Mae gwaith y Comisiwn wedi dangos y gallai pŵer llif-llanw ddarparu hyd at 5 y cant o drydan y DU o dyrbinau llif-llanw. Mae llawer o’r ynni hwn oddi ar arfordiroedd yr Alban ond mae adnoddau sylweddol oddi ar ein harfordiroedd ni, yn rhannau allanol Môr Hafren ac oddi ar Ynys Môn. Gan ddefnyddio cyllid Amcan 1, yr ydym eisoes yn cefnogi Marine Current Turbines Ltd i gynnal astudiaeth ddichonoldeb gyda golwg ar ddefnyddio ein hadnodd llanw a thrai yn Ynysoedd y Moelrhoniaid, oddi ar Ynys Môn, a Swanturbines, ym Mhrifysgol Abertawe, i ehangu ei weithgareddau ymchwil a datblygu. Yr ydym wedi contractio RPS i gasglu’r data allweddol am ddyfroedd Cymru, a fydd yn sail ar gyfer cynhyrchu asesiad amgylcheddol strategol a galluogol. Bydd y fframwaith ynni ar gyfer newid yn yr hinsawdd yng nghyd-destun y rhaglen gydgyfeirio newydd yn golygu y bydd mwy o brosiectau a mentrau llif-llanw  yn gymwys i gael cymorth.    

Mae’r gwaith hefyd wedi dangos y gallai prosiectau ystod-llanw a thrai ddarparu 5 y cant arall o drydan y DU o forlynnoedd llanw a morgloddiau, gyda mwyafrif helaeth y potensial hwn yn aber Afon Hafren, lle byddai phrosiectau llif-llanw a phrosiectau ystod-llanw’n gydnaws â’i gilydd gan amlaf.  

Nodaf â diddordeb yr argymhelliad y dylai’r Llywodraeth gynnal cystadleuaeth ar gyfer arddangos morlyn llanw sy’n profi cysyniad. Mae hwn yn gynnig diddorol, y byddaf yn mynd ar ei drywydd gyda Llywodraeth y DU. os cynhelir cystadleuaeth o’r fath, byddwn yn gobeithio y deuai cynigion cryf o Gymru, yn benodol, cynigion ag elfen sylweddol o gyfranogaeth gymunedol. 

Nodwn fod casgliad cadarnhaol y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy am forglawdd ar Afon Hafren yn ei gefnogi ar yr amod y gellir mynd i’r afael â mater pwysig gwneud iawn am yr effeithiau andwyol posibl ar gynefinoedd arbennig yr aber. Fel Gweinidog sy’n gyfrifol am yr amgylchedd yn ogystal ag am ynni, yr wyf yn cefnogi’r casgliad hwnnw.
Gallai morglawdd ar Afon Hafren gyfrannu’n sylweddol at ein hymdrechion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac yn wir gallai fod yn brosiect blaengar o’r radd flaenaf ym maes newid yn yr hinsawdd, ond rhaid inni symud ymlaen yn ofalus iawn. Cytunaf yn llwyr â’r Comisiwn na ddylai unrhyw ganolbwyntio ar botensial morglawdd ar Afon Hafren fod ar draul ymdrechion eraill sydd ar drywydd arbed ynni, nac ar draul buddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy eraill, boed y rheini ar raddfa fawr ynteu ar raddfa fach. Ni ymddiheuraf o gwbl yma am ailadrodd fy nghred ei bod yn bwysig sicrhau bod Cymru’n manteisio i’r eithaf ar gynhyrchu ei hynny o feicrogynhyrchu a ffynonellau carbon-isel datganoledig eraill.

Mae’r Comisiwn wedi dweud ei fod yn cefnogi morglawdd cynaliadwy ar Afon Hafren ar yr amod ei fod yn ateb holl ofynion cyfarwyddeb cynefinoedd. Mae datblygu cynaliadwy’n golygu rhoi sylw llawn i ystyriaethau amgylcheddol, yn ogystal ag i ystyriaethau cymdeithasol ac economaidd. Yr ydym yn nodi prif gasgliadau’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy: yn gyntaf, y posibilrwydd y gallai unrhyw gamau gwneud iawn gynnig cyfleoedd i ymdrin â’r materion addasu sy’n dod i’r amlwg, y mae’n rhaid ymdrin â hwy wrth i newid yn yr hinsawdd ddechrau gwaethygu, gyda lefel y môr yn codi ac yn y blaen ac, yn ail, os codir y morglawdd, byddai’n fwy priodol fel prosiect a arweinir gan y sector cyhoeddus yn hytrach na phrosiect a arweinir gan y sector preifat.

Mae’r rhain yn argymhellion diddorol, ond maent yn mynnu llawer mwy o ystyriaeth fanwl gan y Llywodraeth. Yr wyf felly’n cefnogi’r cynnig gan John Hutton, y bydd ei Adran yn arwain astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr, gyda chyfraniad cryf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, o’r cyfleoedd y gallai morglawdd Hafren eu cynnig, gan  fynd i’r afael ar yr un pryd â phryderon amgylcheddol.

I gloi, byddwn yn pwysleisio bod Cymru wedi’i bendithio ag amrywiaeth o adnoddau naturiol, y gellid manteisio arnynt i wneud Cymru’n hunangynhaliol mewn trydan carbon isel o fewn rhyw 20 mlynedd - efallai llai na hynny. Mae pŵer y llanw’ bwysig yn y cyd-destun hwn, ynghyd â chyfleoedd carbon isel eraill fel gwynt, biomas, dŵr, ynni o wastraff, a meicrogynhyrchu. Mae cyfleoedd newydd a chyffrous o’n blaenau y mae’n rhaid eu harchwilio, a gobeithiaf ymgynghori ymhellach am gyfleoedd ynni adnewyddadwy Cymru cyn diwedd y flwyddyn