Skip to content

Llafar - Blaenoriaethau ar gyfer y Portffolio Treftadaeth

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Rhodri Glyn Thomas ,y Gweinidog dros Dreftadaeth

Mae’n bleser o’r mwyaf cael gwneud datganiad am fy mlaenoriaethau cyntaf ar gyfer y portffolio treftadaeth. Yr wyf wedi ymddiddori yn y materion hyn ers tro byd, a braint oedd cael bod yn Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad cyntaf. Bûm yn ymgyrchu ers blynyddoedd dros amryw o faterion yn y maes diwylliant. Braint fawr yw cael bod yn gyfrifol fel Gweinidog am faterion sydd mor ganolog i gymeriad ein cenedl.

Bu’n galonogol gweld brwdfrydedd ac ymrwymiad pawb yr wyf wedi cwrdd â hwy yn y maes diwylliant a thwristiaeth yn ystod y ddau fis ers i mi gael fy mhenodi. Mae Llywodraeth y Cynulliad yr un mor benderfynol o wneud gwahaniaeth. Mae agenda 'Cymru’n Un’ yn nodi rhaglen lywodraethu uchelgeisiol a chyffrous. Edrychaf ymlaen at roi ymrwymiadau ein rhaglen dreftadaeth ar waith yn ystod y cyfnod sydd o’n blaenau yn y Cynulliad.

Yr wyf yn awyddus i gymryd camau cynnar i wireddu’r ymrwymiadau a wnaed yn 'Cymru’n Un’ ar yr iaith Gymraeg. Edrychaf ymlaen at gyfnod cyffrous. Mae cyfle dros y blynyddoedd nesaf i ddefnyddio pwerau newydd y Cynulliad i gryfhau sefyllfa’r iaith. Ymhlith ein hymrwymiadau, mae cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg, sefydlu comisiynydd iaith, sicrhau hawliau o ran darparu gwasanaethau, cynyddu ein hymdrechion i sicrhau cytundeb ar gyfer defnydd o’r Gymraeg yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, cynyddu’r cyllid ar gyfer papurau a chylchgronau Cymraeg, a parhau ein gwaith ymchwil i symudiadau yn y boblogaeth. Cam cyntaf hyn oll yw paratoi’r tir ar gyfer defnyddio pwerau newydd y Cynulliad. Byddaf yn cyflwyno Gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol yn y gwanwyn, ac mae’r gwaith o baratoi hwnnw wedi cychwyn.

Yr wyf hefyd yn awyddus i fwrw ati cyn gynted â phosibl i sicrhau bod ein polisïau o ran cefnogi’r celfyddydau yn cydsymud yn gadarn i’r un cyfeiriad. Yr ydym yn ffodus, oherwydd mae gennym artistiaid a pherfformwyr o fri, sy’n rhoi enw da i Gymru ym mhedwar ban byd. Er hynny, rhaid inni beidio â gorffwys ar ein rhwyfau. Rhaid inni sicrhau ein bod yn dal ati i feithrin a chadw ein doniau artistig. Mae angen inni hefyd sicrhau ein bod ni’n gwneud y defnydd gorau posibl o’r adnoddau sydd ar gael i’r celfyddydau ac i ddiwylliant.

Yn adolygiad Stephens, a gyhoeddwyd y llynedd, fe dynnwyd sylw at sawl maes lle y gallai Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Celfyddydau Cymru gydweithio’n fwy effeithiol. Hoffwn ddefnyddio’n hymateb i’r adroddiad hwnnw i ailddiffinio’r berthynas rhyngom ni fel Llywodraeth a’n cynghorwyr statudol. Rhaid inni ganolbwyntio ar gryfhau’r celfyddydau yng Nghymru, a hynny ar lefel genedlaethol yn ogystal ag ar lefel leol. Ar y lefel genedlaethol - a chan ddilyn argymhellion yr Athro Stephens - byddaf yn cynnull bwrdd strategaeth y celfyddydau. Bydd y bwrdd hwnnw’n cynnwys cynrychiolwyr o gyngor y celfyddydau a rhanddeiliaid allweddol eraill. Bydd yn cwrdd am y tro cyntaf ddechrau mis Tachwedd. Bydd y bwrdd newydd yn rhoi cyfeiriad strategol mwy eglur. Fy mwriad yw y bydd yn annog datblygu polisïau mewn modd mwy cynhwysol. Mae adroddiad yr Athro Stephens yn tynnu sylw at sawl her sylweddol sy’n wynebu’r celfyddydau yng Nghymru. Yr wyf yn edrych ymlaen at fynd i’r afael â’r rhain yng nghwmni’r grŵp newydd. Mae 'Cymru’n Un’ hefyd yn ei gwneud yn glir fod y Llywodraeth yn bwriadu cryfhau’r celfyddydau ar lefel leol. Yr wyf eisiau cydweithio ag awdurdodau lleol i ystyried sut y gallwn ddatblygu’r syniad o roi dyletswydd statudol ar yr awdurdodau i hybu’r celfyddydau. Bydd angen i hynny adeiladu ar y gwaith ardderchog y mae rhai awdurdodau eisoes yn ei wneud. Bydd gennyf fwy i’w ddweud am y cynlluniau hynny yn y flwyddyn newydd.

Un o’r mentrau diwylliannol mwyaf cyffrous yn ein rhaglen 'Cymru’n Un’ yw ein haddewid i sefydlu theatr Saesneg i Gymru. Dyma gyfle bendigedig inni adeiladu ar lwyddiant Theatr Genedlaethol Cymru. Mae hefyd yn pwysleisio ein hymroddiad llwyr i ddatblygu’r theatr ac, yn wir, bob agwedd ar y celfyddydau yn y ddwy iaith genedlaethol. Bydd sefydlu’r theatr ei hun yn dibynnu ar benderfyniadau a ddaw yn sgil yr adolygiad gwariant cyhoeddus presennol. Er hynny, mae arian eisoes wedi’i neilltuo i Gyngor Celfyddydau Cymru i wneud y gwaith paratoi angenrheidiol i sefydlu’r theatr. Pleser yw cyhoeddi heddiw bod y gwaith cynllunio hwnnw’n symud gam ymlaen. Yr wyf wedi cytuno â chyngor y celfyddydau y dylai yn awr fwrw ymlaen i hysbysebu swyddi cadeirydd ac aelodau’r bwrdd a fydd yn goruchwylio datblygu’r prosiect unigryw hwn. Bydd hyn yn rhoi hwb newydd i’r broses ac yn creu gweledigaeth greadigol fwy clir eto a fydd yn hanfodol i’r prosiect.

Byddaf hefyd yn canolbwyntio yn ystod y misoedd cyntaf hyn ar greu rhagor o gysylltiadau rhwng y gwahanol feysydd yr wyf yn gyfrifol amdanynt fel Gweinidog. Mae cynnwys twristiaeth yn rhan o’r portffolio treftadaeth, ochr yn ochr â Chadw, chwaraeon, diwylliant a’r celfyddydau, yn cynnig cyfleoedd newydd cyffrous. Yr wyf am sicrhau bod polisïau’r meysydd hyn yn cael eu tynnu’n fwyfwy agos at ei gilydd. Yn anad dim, yr wyf am fanteisio i’r eithaf ar bosibiliadau twristiaeth ddiwylliannol ac, yn wir, dwristiaeth chwaraeon.

Yr wyf hefyd yn awyddus i’r portffolio treftadaeth wneud cyfraniad mwy amlwg i holl agenda Llywodraeth y Cynulliad. Mae gwaith Cadw o ran cyflwyno amgylchedd hanesyddol hygyrch a diogel yn bwysig ynddo’i hun, wrth gwrs, ond mae hefyd yn bwysig o ran y cyfraniad ehangach y gall ei wneud i’r economi, i addysg ac i adfywio cymunedau lleol.

Gallai hyrwyddo gweithgarwch corfforol arwain at lwyddiant yng Ngemau Olympaidd 2012, ond yr wyf hefyd eisiau i fentrau Cyngor Chwaraeon Cymru fod yn rhan fwy fyth o ymgyrch Edwina Hart i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw. Byddwn yn cryfhau ein cefnogaeth i lyfrgelloedd cyhoeddus ac i amgueddfeydd ac orielau - nid yn unig oherwydd y trysorau diwylliannol maent yn eu diogelu, ond hefyd oherwydd eu cyfraniad gwerthfawr at ddysgu gydol oes.

Mae diwylliant, chwaraeon a’r amgylchedd hanesyddol yn elfennau hanfodol o fywyd bob dydd yng Nghymru, ond maent hefyd yn dod yn elfennau mwyfwy pwysig o’n heconomi ac o’r hyn sy’n gwneud Cymru’n ddeniadol i ymwelwyr. Yr wyf yn benderfynol o ddefnyddio’r arfau hyn i adeiladu cenedl fywiog, hyderus a dwyieithog. Mae gan y portffolio treftadaeth gyfraniad sylweddol i’w wneud i’n llwyddiant economaidd a diwylliannol.