Skip to content

Frechu Rhag y Tafod Glas

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Elin Jones, y Gweinidog dros Materion Gwledig.

Ar 28 Medi 2007, cadarnhaodd Defra fod feirws y Tafod Glas (BTV-8) yn cylchdroi rhwng da byw a gwybed ardal East Anglia yn Lloegr. Mae'r clefyd wedi lledaenu i ardaloedd eraill yn Ne a De-ddwyrain Lloegr ers hynny. Erbyn 3 Rhagfyr, roedd 66 o achosion wedi'u cadarnhau.

Disgwylir i nifer y gwybed gwympo dros y gaeaf ac i ledaeniad y clefyd ddod i stop, o leiaf dros y gaeaf. Mae'r sefyllfa'n debyg i'r hyn a welwyd yng Ngogledd Ewrop yn Haf/Hydref 2006, lle cafwyd yr achosion cyntaf o feirws y BTV-8 yn yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Lwcsembwrg, Gorllewin yr Almaen a rhannau o Ogledd-Ddwyrain Ffrainc. Ym mis Mehefin, lledaenodd y clefyd yn eang yng Ngogledd Ewrop a gwelwyd cynnydd dramatig yn nifer yr achosion newydd yn yr holl ardaloedd lle roedd yr haint eisoes wedi taro. Mae nifer yr achosion bellach yn eu miloedd wrth i'r clefyd ledaenu'n raddol ar draws Ewrop. Mae'r gwledydd yr effeithiwyd arnynt yn gweld nifer yr anifeiliaid sy'n marw a'r colledion yn eu cynhyrchiant yn cynyddu gan esgor ar galedi ariannol dybryd i'r diwydiant ffermio.

Gan ddefnyddio'r sefyllfa yn Ewrop fel model, mae arbenigwyr ym Mhrydain yn credu ei bod yn debygol y gallai sefyllfa debyg ddigwydd yn y DU yng Ngwanwyn/Haf 2008 ac mae hynny'n tanlinellu'r angen i fanteisio ar yr amddiffyniad y gallai brechiad ei gynnig, hynny cyn gynted ag y daw brechlyn ar gael.

Ar 1 Tachwedd, cyhoeddodd Defra eu bod yn tendro am 10-20 miliwn dôs o frechlyn y tafod glas ar gyfer Lloegr, hynny ar sail lefel yr haint eleni a'r lefelau a ragwelir flwyddyn nesaf. Ysgrifennais at Hilary Benn ar 2 Tachwedd i ddweud wrtho y byddem am neilltuo'r cyfle i ymuno â Defra a chyd-archebu brechlyn ar gyfer Cymru.

Dylid nodi mai dim ond yn erbyn y feirws BTV-8 y bydd y brechlyn yn gweithio ac nad yw'n effeithio ar fathau eraill, fel y 5 seroteip sy'n mynd o gwmpas De Ewrop.

Ar 7 Rhagfyr, ysgrifennais eto at Hilary Benn i ofyn iddo gadw 2.5 miliwn dôs o frechlyn BTV-8 y tafod glas pan fydd Defra yn rhoi ei harcheb ar ôl cloriannu'r tendrau fydd wedi dod i law gan gynhyrchwyr brechlynnau. Bydd y brechlyn yn cael ei ddarparu ar lefel wirfoddol i'r diwydiant da byw a'r diwydiant fydd yn gorfod ysgwyddo'r costau. Rwyf wedi siarad â'r prif garfanau ac wedi dweud wrthynt am fy mhenderfyniad i gyd-archebu brechlyn gyda Defra ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi penderfynu peidio ag archebu brechlyn am y tro.

Mae nifer y dosiau'n seiliedig ar y dybiaeth mai ychydig dros hanner y ffermwyr fydd am fanteisio ar y cyfle i frechu a hefyd ar nifer yr anifeiliaid cnoi cil sydd ym Mhowys a Sir Fynwy, sef y siroedd sydd agosaf at yr achosion yn Lloegr. Pan ddown i wybod flwyddyn nesaf beth fydd natur a maint yr heintiad, byddwn yn gallu dweud yn well ble y dylid fynd ati i ddarparu'r brechlyn.

Ni fydd brechlyn ar gael oddi wrth y gwneuthurwyr tan fis Mai/Mehefin 2008. Bydd potensial i ddefnyddio'r cyflenwad o frechlyn dros 2 dymor trosglwyddo, 2008 a 2009, o fewn yr awdurdod marchnata 12 mis dros-dro.

Ni fydd unrhyw beth gan Lywodraeth y Cynulliad i'w dalu yn y lle cyntaf gan mai Defra fydd yn ysgwyddo'r gost o brynu'r brechlyn ar gyfer Cymru a Lloegr. Rwyf wedi cytuno y gwnaiff Llywodraeth y Cynulliad warantu cost unrhyw frechlyn na fydd wedi'i ddefnyddio ar ddiwedd y cyfnod.

Nid yw rheolau'r Comisiwn Ewropeaidd yn caniatau brechu y tu allan i'r Parth Gwarchod, hynny yw yn yr ardal ddi-glefyd neu mewn Parth Gwyliadwriaeth ond gellid datgan Parth Gwarchod yng Nghymru er mwyn cael defnyddio'r brechlyn.

Mae'r Comisiwn wedi awgrymu y gallai ddefnyddio'i hawl i gyd-ariannu cost 'brechu rhag argyfwng' (nid brechu amddiffynnol) sydd fel arfer yn orfodol, ond dim ond am y flwyddyn gyntaf. Nid yw'r Comisiwn wedi esbonio'n glir beth mae 'brechu rhag argyfwng' yn ei olygu ond mae Defra ar ran yr Aelod-Wladwriaeth wedi bod yn gwasgu arnynt am esboniad, yn fwyaf diweddar yng Ngweithgor y Comisiwn ar 3 Rhagfyr. Bydd y gwasgu hwn yn parhau.

Y bwriad bras ar hyn o bryd yw ceisio rheoli'r clefyd trwy frechu stoc, gan ddefnyddio'r brechlyn ar lefel ehangach yn y tymor hwy i ddiddymu'r clefyd.

Rwy'n parhau i bwyso ar y diwydiant da byw i fod yn wyliadwrus ac i roi gwybod i'r swyddfa Iechyd Anifeiliaid leol os bydd ganddynt unrhyw amheuon bod yna achos o'r tafod glas, ac i gynnal y safonau bioddiogelwch uchaf.

Rwy'n ymwybodol iawn o'r anawsterau sy'n wynebu ffermwyr da byw sydd ag anifeiliaid yn y parth gwyliadwriaeth yn Lloegr ac sydd wedi'u cadw rhag dod i Gymru a heintio ardal ddiglefyd. Y perygl yw y gallai dod ag anifail heintiedig i ardal ddiglefyd drosglwyddo'r haint i'r gwybed lleol. Bydd lefelau'r gwybed, eu goroesiad a gallu'r feirws i ymluosi yn dibynnu ar gadw'r tymheredd o dan 10ºC ond gallai hyn amrywio o fewn ardal gymharol fach.

O dan ddeddfwriaeth Gymreig ac Ewropeaidd, ni chaiff anifail fynd o Ardal Ddiglefyd i Barth Gwyliadwriaeth nes y gellir profi nad oes cludwr, hynny yw ei bod yn gyfnod heb fector. Mae gwaith gwyliadwriaeth wrthi'n cael ei wneud gan ddefnyddio trapiau golau i weld faint o wybed sydd; ac mae profion yn cael eu cynnal ar wartheg yn yr ardaloedd o gwmpas y mannau heintiedig i helpu arbenigwyr i weld pryd mae'r cyfnodau heb fector yn cychwyn. Yn ystod y cyfnod heb fector, gellid symud anifeiliaid cnoi cil ar ôl cynnal prawf gwaed arnynt. Mae yna arwyddion clir bod gwybed yn prinhau a'r gobaith yw medru cyhoeddi cyn hir bod y cyfnod heb fector wedi cychwyn.