Skip to content

Rheilffordd Cwm Ebwy - Cychwyn y Gwasanaeth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Ieuan Wyn Jones, Y Ddirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Dros Yr Economi A Thrafnidiaeth.
Cefais fy hysbysu fore heddiw nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi llwyddo i gadw at yr amserlen y cytunwyd arni er mwyn i wasanaethau i deithwyr gychwyn cyn y Nadolig.

Mae’r Cyngor, sy’n gyfrifol am gyflawni prosiect Rheilffordd Cwm Ebwy, wedi fy hysbysu bod nifer o faterion sy’n rhaid eu datrys cyn i’r trac gael ei drosglwyddo i ddwylo Network Rail.  

Mae’r materion hyn yn gysylltiedig â safonau diogelwch a pheirianneg y trac a’r arwyddion. Rhaid bodloni’r safonau gorfodol hyn cyn y gall Trenau Arriva Cymru ddechrau hyfforddi gyrwyr ar y rheilffordd, er mwyn galluogi i wasanaethau i deithwyr gychwyn.  

Cyn tynnu fy sylw at hyn yn gynharach heddiw, roedd Blaenau Gwent a Capita Symonds, eu hasiantaeth gyflawni, wedi fy sicrhau y byddai gwasanaethau i deithwyr yn cychwyn cyn y Nadolig.

Er fy mod innau hefyd yn siomedig iawn â’r datblygiad hwn, mae’n rhaid i ddiogelwch y cyhoedd ddod gyntaf.

O dan yr amgylchiadau hyn, nid yw’n briodol bwrw ati i agor y rheilffordd tan i bawb fod yn hollol fodlon fod Blaenau Gwent wedi datrys y problemau hyn, a bod modd cychwyn gwasanaeth diogel a dibynadwy.  

Rwy’n bwriadu cynnal cyfarfod brys â’r Cyngor i bwyso arnynt i ddatrys y materion hyn ar fyrder.