Skip to content

Ysgrifenedig - Data ar Berfformiad Llywodraeth Leol Cymru Gyfan 2006-07

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, Y Gweinidog Dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Heddiw, am 9.30am, 8 Hydref 2007, bydd Uned Ddata Llywodraeth Leol - Cymru yn cyhoeddi data cynhwysfawr a ddilyswyd ar berfformiad yr awdurdodau lleol yn 2006-07. Bydd yr Uned hefyd yn cyhoeddi Bwletin Ystadegol a fydd yn dadansoddi'r data mewn ffordd glir a hygyrch ac yn galluogi dinasyddion i ystyried perfformiad eu hawdurdod a, lle y bo angen, i'w galw i gyfrif.  

Dyma'r ail flwyddyn i'r Uned Ddata gyhoeddi data blynyddol ar berfformiad yr awdurdodau lleol ynghyd â chyhoeddi Bwletin.  Rwyf yn croesawu'r cyhoeddiad hwn, sy'n adeiladu ar waith y llynedd ac yn cymharu ystadegau o un flwyddyn i'r llall pan fo data ar dueddiadau ar gael.

Mae'r gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdodau lleol yn hanfodol o ran cynnal a gwella ansawdd bywyd holl ddinasyddion a chymunedau Cymru.  Wrth reswm, rydym yn disgwyl iddynt gael eu darparu i safon uchel, ac i wella arnynt lle bo modd. Rwyf yn falch iawn fod y bwletin heddiw yn dangos bod llywodraeth leol ar y cyfan yn bodloni'r disgwyliad hwn.  O ganlyniad i arweiniad clir, ymrwymiad parhaol a gwaith arloesi gan yr awdurdodau lleol a'u gweithwyr, mae gwasanaethau o ansawdd uchel wedi'u darparu i ddinasyddion.  Er enghraifft, yn ôl y bwletin, mae'r awdurdodau lleol yn parhau i anfon llai o sbwriel i safleoedd tirlenwi ac yn ailgylchu mwy. Maent yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon yn eu hadeiladau eu hunain ac yn y tai cyngor y maent yn eu darparu.  Maent yn lleihau cyfran y plant sy'n gadael ysgol heb gymhwyster ac yn helpu mwy o oedolion agored i niwed i fyw bywydau annibynnol yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain.

Er hynny, mae'r Bwletin hefyd yn nodi'r meysydd hynny lle nad yw'r awdurdodau lleol wedi perfformio cystal a lle mae angen iddynt wneud llawer mwy i gau'r bwlch rhwng ystod annerbyniol o berfformiad ledled Cymru. Er enghraifft, mae'n destun pryder i mi fod ffigurau presenoldeb yn yr ysgolion uwchradd yn dal heb newid am sawl blwyddyn a'u bod wedi gostwng ychydig yn ystod 2006-07.   Mae cyfradd y ffigurau'n ymwneud ag oedi wrth drosglwyddo gofal hefyd wedi arafu. Rwyf yn cydnabod bod perfformiad yn y maes hwn wedi gwella'n fawr yn ddiweddar, ond mae angen cadw'r momentwm, a lleihau'r bwlch sylweddol rhwng y rhai sy'n perfformio orau a'r rhai gwanach.

Mae data ar berfformiad bob amser yn adlewyrchu amrywiaeth eang iawn o ddylanwadau ar ansawdd y gwasanaethau.  Dim ond rhai o'r gwasanaethau hyn sydd o dan reolaeth awdurdod lleol, ac mae'n anorfod y bydd perfformiadau'n amrywio. Mae'r awdurdodau lleol yn wynebu amryfal heriau gwahanol gan ddibynnu ar eu lleoliad, a rhaid iddynt flaenoriaethu eu hymdrechion a'u hadnoddau'n unol â hynny.  Serch hynny, mae'r bwlch rhwng y perfformiad gorau a'r perfformiad gwaethaf yn parhau i fod yn rhy fawr.  Mae llywodraeth leol wedi gwneud llawer eisoes i achub ar y cyfleoedd a gynigir ac i ateb yr heriau y mae'n eu hwynebu drwy weithio mewn partneriaeth i leihau'r bylchau hyn. Byddwn yn parhau i gydweithio gyda hwy, gan annog yr awdurdodau lleol i rannu gwybodaeth ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd er mwyn gwella safonau a darparu gwell gwasanaethau i'w dinasyddion.

Nodyn: Bydd yr adroddiad ar Berfformiad Awdurdodau Lleol  2006-7 yn cael ei gyhoeddi  am 9.30am heddiw gan Uned Llywodraeth Leol  – Cymru a bydd i'w weld, ynghyd â'r set lawn o ddata sy'n sail iddo, ar ei gwefan www.dataunitwales.gov.uk.  Yr Uned Ddata sy'n gyfrifol am gasglu a dosbarthu gwybodaeth ystadegol am bob agwedd ar lywodraeth leol Cymru a'r gwasanaethau y mae'n eu darparu.  Mae'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru.