Skip to content

Ysgrifenedig - Lefelau Llythrenedd A Rhifedd Ymysg Disgyblion Uwchradd Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Y Gweinidog Dros Addysg, Dysgu Gydol Oes A Sgiliau
Mae canlyniadau TGAU disgyblion Cymru yn 2006 yn dangos mai canran y disgyblion 15 oed a gafodd TGAU Gradd C neu uwch mewn Saesneg, Mathemateg neu Gymraeg Iaith Gyntaf oedd:
• Saesneg - 58%,
• Mathemateg - 50%
• Cymraeg Iaith Gyntaf - 10%
Cafodd 54% o ddisgyblion 15 oed o leiaf 5 TGAU gradd A*-C.
Mae’n bwysig nodi bod dros 81% o’r disgyblion hyn wedi cael TGAU A*-C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.
Mae hyn yn golygu bod dros 44% o ddisgyblion 15 oed Cymru wedi cael o leiaf 5 TGAU gradd A*-C sy’n cynnwys TGAU mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg, sef cynnydd o ddau bwynt canran ar y nifer a gyrhaeddodd y dangosydd yn 2005.

Mae’r cynnydd o 2 bwynt canran yn cydfynd â’r cynnydd cyffredinol yn nifer y disgyblion a gafodd o leiaf 5 TGAU gradd A*-C, ac mae’n dangos nad yw’r cynnydd o ran y dangosydd allweddol hwn yn dod ar draul y sgiliau craidd iaith a rhifedd.
Canran y disgyblion 15 oed a gafodd TGAU Gradd G neu uwch mewn Saesneg, Mathemateg neu Gymraeg Iaith Gyntaf oedd
• Saesneg - 89%,
• Mathemateg - 89%
• Cymraeg Iaith Gyntaf - 13%
Cafodd 84% o’n disgyblion 15 oed o leiaf 5 TGAU gradd A*-G a oedd yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg.

Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod ein hymrwymiad i ddatblygu sgiliau llythrenedd a rhifedd yn dwyn ffrwyth. Rydym yn cydnabod y pwysigrwydd y mae cyflogwyr yn ei roi ar gyfathrebu a chymhwyso rhif ac rydym wedi ymateb drwy barhau i gefnogi a buddsoddi yn y cymwysterau Sgiliau Allweddol. Mae Sgiliau Allweddol yn rhan ganolog o’r BAC Cymreig, y Fframwaith Prentisiaethau Modern a Chraidd Dysgu 14-19. Erbyn hyn, mae’r cymwysterau hyn wedi ennill eu plwyf ymysg disgyblion 16-18 ac rydym yn dechrau gweld cynnydd yn eu poblogrwydd ymysg disgyblion iau. Yn 2006, cafodd cymwysterau sgiliau allweddol eu dyfarnu i dros 1600 o ddisgyblion 15 oed yng Nghymru am gyfathrebu, cymhwyso rhif neu dechnoleg gwybodaeth.

Tanlinellir yr ymrwymiad hwn gyda’r £7 miliwn sydd wedi’i neilltuo i’w wario yn ystod blwyddyn ariannol 2006-07 drwy’r Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol i Gymru er budd ein disgyblion cynradd ac uwchradd. Hefyd, rydym wedi gwario dros filiwn o bunnoedd hyd yn hyn ar y Grantiau Ymyriad Strategol (SIG - Strategic Intervention Grants). Mae yna dystiolaeth sy’n awgrymu y gall ymyriad cynnar gael effaith barhaol ar blant sydd mewn perygl o beidio ag ymgysylltu ag addysg neu blant sy’n tan-gyflawni. Defnyddiwyd y grantiau gan fwyaf ar gyfer plant oedd yn methu â chadw i fyny â’u cyfoedion adeg Cyfnodau Allweddol 2 a 3.

Yn y sector uwchradd, disgwylir y bydd y SIG yn helpu 9,000 o ddisgyblion. Mae tua 650 o ddisgyblion uwchradd yn cymryd rhan mewn rhaglenni llythrenedd ‘dal i fyny’.

Mae’n bleser gen i nodi hefyd bod 93% o’n hysgolion uwchradd wedi derbyn Marc Safon Sgiliau Sylfaenol, sy’n cydnabod ymdrech ysgolion sydd wedi gwella lefel sgiliau llythrennedd a rhifedd eu disgyblion yn sylweddol.

Wrth gwrs, ni allwn fod yn hunanfodlon, ac mae nifer o fentrau newydd ar y gweill, er enghraifft:

• Er mwyn helpu i ddiwallu’r angen am gefnogaeth a hyfforddiant dwys i athrawon, mae’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol wedi datblygu ystod o fodiwlau fydd yn arwain at ddiploma ôl-radd i’w lansio ym mis Mawrth 2007. Treialwyd y modiwlau hyn drwy gynlluniau peilot a byddant yn cael eu cyflwyno i AALlau yn 2007-2008. Hefyd, mae arolwg bras o arfer ar waith a bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar ffurf adroddiad i AALlau ac ysgolion yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

• Bydd rhan nesaf yr ymgyrch genedlaethol i hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau sylfaenol yng Nghymru “Geiriau’n Galw, Rhifau’n Cyfri” yn cael ei lansio ar 7 Chwefror 2007. Mae’r gwaith paratoi’n mynd yn ei flaen, a bwriad yr ymgyrch, o’r enw ‘Darllenwch Filiwn o eiriau yng Nghymru’, yw annog agweddau positif tuag at ddarllen ymhlith plant cynradd, yn enwedig y plant hynny sy’n mynychu ysgolion sydd mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac ardaloedd difreintiedig eraill. Mae gan yr ymgyrch gyllideb o £1,175,000 sydd wedi dod o grant blynyddol yr Asiantaeth, a bydd yr ymgyrch yn cynnwys gweithgareddau, digwyddiadau, adnoddau, deunyddiau, a chystadlaethau a bydd yn annog sefydliadau/mudiadau allweddol i gymryd rhan.

Wrth gwrs, sail hyn oll yw’r ffordd y mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn darparu fframwaith ar gyfer dysgu’r sgiliau craidd hyn yn ein hysgolion. Fel rhan o’r ymgynghoriad ar y cwricwlwm sydd ar waith ar hyn o bryd, rydym yn gwahodd sylwadau am Fframwaith Sgiliau anstatudol i ategu’r cwricwlwm. Datblygwyd y fframwaith gyda’r bwriad o ddarparu canllawiau am barhad a dilyniant wrth ddatblygu sgiliau meddwl, cyfathrebu, TGCh a rhifedd ar gyfer disgyblion 3-19 oed a thu hwnt. Mae’n rhan allweddol o’r cynigion newydd sy’n ceisio datblygu cwricwlwm fydd yn canolbwyntio ar y dysgwr ac ar sgiliau sy’n berthnasol i’r unfed ganrif ar hugain. Mae Datblygu Cyfathrebu a Datblygu Sgiliau Rhif yn perthyn yn agos i Lythrenedd a Rhifedd.