Skip to content

Llafar - Datganiad am yr Adolygiad o Hyfforddiant Amddiffyn

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Prif Weinidog , Rhodri Morgan
Mae heddiw yn ddiwrnod cofiadwy i Gymru, yn sgîl y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, Des Browne, ychydig oriau’n ôl fod consortiwm Metrix wedi’i ddewis fel y cynigydd a ffafrir i ddarparu hyfforddiant technegol arbenigol ar un safle i’r tri llu, sef y fyddin, y Llynges Frenhinol a’r Awyrlu Brenhinol, ac fel y darpar gynigydd a ffafrir ar gyfer yr ail becyn hyfforddiant, sef hyfforddiant nad yw’n filwrol nac yn dechnegol, fel logisteg, ieithoedd tramor, yr heddlu a diogelwch, ac ati.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol mai dewis leoliad Metrix ar gyfer y gweithgarwch craidd yn ei gynigion yw canolfan yr Awyrlu Brenhinol gynt, sef pencadlys yr Asiantaeth Atgyweirio Awyrennau Amddiffyn yn ddiweddarach yn Sain Tathan. Ni biau’r safle hwn, ac yr ydym yn falch iawn o fod wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi’r cais buddugol. Metrix, sef consortiwm o arweinwyr byd-eang ym maes hyfforddiant ac addysg a ddarperir gan gwmnïau allanol, oedd yr unig gynigydd a wnaeth gais am y ddau becyn yn y broses ymgeisio, a’r unig gynigydd a ddewisodd safle yng Nghymru fel y lleoliad ar gyfer yr academi hyfforddiant amddiffyn. Dyna pam y mae heddiw’n ddiwrnod mor gofiadwy i Gymru.

Ni fyddai’r wobr hon wedi’i hennill heb arweinyddiaeth ragorol Andrew Davies a’r Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau, ynghyd â Gweinidogion eraill a’u hadrannau, ar ôl uno’r hen gwangos o fewn y sefydliad hwn. Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gan wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar gyflawni ac ar gwsmeriaid.

Disgwylir i gontract ad-drefnu hyfforddiant amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn, neu ddau gontract, fod yn werth ymhell dros £10 biliwn dros 25 mlynedd. Mae hefyd yn golygu, yn amodol ar drafodaethau terfynol llwyddiannus ynghylch y contract, mai’r buddsoddiad unigol hwn gan y Llywodraeth, hwyrach, yw’r un mwyaf o’i fath i ddod i Gymru ers cyhoeddiad RTB hanner canrif yn ôl ar gyfer gwaith dur newydd Llan-wern. Mae hynny’n rheswm arall pam mae heddiw’n ddiwrnod arwyddocaol i Gymru.

Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn newyddion da iawn, nid yn unig i Sain Tathan, Bro Morgannwg a’r de, ond hefyd i Gymru gyfan. Mewn man sydd wedi gweld colli nifer fawr o swyddi’n ddiweddar, bydd yr academi hyfforddiant amddiffyn lawn a arfaethir yn Sain Tathan yn creu campws hyfforddi modern wedi’i adeiladu’n bwrpasol. Bydd yn cynnwys ychydig dros 10,000 o bobl, bron 7,000 ohonynt yn byw ar y safle os caiff y ddau becyn eu cadarnhau ar gyfer Metrix ar ôl cwblhau’r trafodaethau ynghylch diwydrwydd dyladwy.

Ar y cyfan, disgwylir i’r prosiect greu 1,500 o swyddi i ddechrau yn ystod y cyfnod adeiladu, rhwng 2008 a 2011, a gallai gyflogi tua 5,500 o bobl ar ôl hynny, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Amcangyfrifir y bydd yn creu dros £58 miliwn y flwyddyn o wariant ychwanegol yn yr economi ranbarthol. Mae’n anodd bod yn fanwl gywir ynghylch y rhaniad cymesur rhwng pecyn 1 a phecyn 2 o ran gwerth a nifer y swyddi, ond gallai 3,000 i 4,000 fod yn agos ati o ran nifer y swyddi ym mhecyn 1, a gallai fod 1,500 eraill ym mhecyn 2. Mae adfer statws Sain Tathan fel un o sefydliadau amddiffyn pwysicaf y DU yn bwysig i’r economi yng Nghymru, a dyna pam yr ydym wedi bod mor awyddus i gefnogi cais Metrix drwy ddarparu safle gwych fel Sain Tathan.

Mae maint y safle— yr ydym yn berchen bron i 1,000 o erwau—yn golygu y gall ddarparu ar gyfer dau becyn contract y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ogystal â’n cynlluniau ni ar gyfer parc awyrofod, a fydd yn elwa’n fawr o’r penderfyniad i gydleoli’r academi hyfforddiant amddiffyn drws nesaf. Yr awyrendy modern ar y safle, sef Prosiect y Ddraig Goch, yw’r elfen bennaf yn y cyfleusterau ar safle Sain Tathan. Adeiladwyd yr awyrendy hwnnw’n bwrpasol i atgyweirio awyrennau jet cyflym, ond mae’r un mor addas i roi hyfforddiant i beirianwyr milwrol dan hyfforddiant. Bydd croeso i hyfforddwyr, a gyflogir gan y tri llu arfog mewn mannau eraill ar hyn o bryd, i drosglwyddo i’r academi newydd; fodd bynnag, os na fydd yr hyfforddwyr hynny’n dymuno symud yma, caiff staff cynnal a chadw DARA gynt, sydd bellach yn gweithio mewn mannau eraill, gyfle gwych i ddod yn hyfforddwyr, a thrwy hynny cânt gyfle i drosglwyddo’u sgiliau i hyfforddeion newydd. Bydd datblygu’r parc awyrofod ar y rhan honno o safle eang Sain Tathan nad oes ei hangen ar yr academi yn elwa’n fawr o symud y sylfaen sgiliau ardderchog hwnnw i ardal Sain Tathan.

Er nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn rhan o’r consortiwm a wnaeth y cais, yr ydym wedi cefnogi cais Metrix o’r cychwyn ac wedi ei hwyluso hynny gan mai ni biau’r tir yn Sain Tathan. Gwnaeth Tîm Cymru ymdrech fel grwp ar y cyd i helpu Metrix i ennill y prosiect hwn, ac mae’r penderfyniad hwn heddiw yn adlewyrchiad rhagorol o waith caled ac ymroddiad pawb a fu’n rhan ohono. Mae’n dangos yr hyn y gall Cymru ei wneud pan fydd pawb yn cyd-dynnu. Mae’r gystadleuaeth frwd rhwng y consortia, ac felly rhwng Cymru a lleoliadau eraill, ar gyfer y buddsoddiadau hyn wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd, ac yr wyf wrth fy modd fod Cymru, heddiw, wedi ennill am y rhesymau gorau posibl, mewn ffordd nad yw’n cael effaith anffafriol ar ein cynlluniau i ddatblygu parc awyrofod.

Disgwylir i Metrix a’r Weinyddiaeth Amddiffyn drafod pecyn 2 ymhellach er mwyn iddo gyd-fynd â phecyn 1. Felly, gellir manteisio i’r eithaf ar gael y ddau becyn hyfforddi ar un safle er mwyn cael y gwerth gorau am arian cyhoeddus a sicrhau’r hyblygrwydd mwyaf wrth ddefnyddio holl gyfleusterau’r academi arfaethedig.

Mae’n iawn inni groesawu a dathlu’r newyddion ardderchog hyn heddiw i Gymru. Bydd trafodaethau manwl yn parhau rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn, Metrix a ninnau, fel perchnogion y tir, i lunio fersiwn terfynol y contract. Bydd yn rhaid i’r cynnig fynd drwy’r broses graffu fanwl arferol o ran cynllunio ac ymgynghori â’r cyhoedd. Yn ogystal, mae angen i Metrix a Llywodraeth y Cynulliad gwblhau’r cytundebau cyfreithiol, gan osod allan ein priod swyddogaethau yn y buddsoddiad hwn.

Bydd gwaith adeiladu’n dechrau ar y safle ar ôl i’r contractau gael eu llofnodi ac ar ôl cael caniatâd cynllunio manwl, a disgwyliwn groesawu’r hyfforddeion cyntaf i’r academi amddiffyn newydd yn 2011-12. Mae tîm prosiect penodol ar waith yn yr Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau i sicrhau bod Tîm Cymru yn parhau i ymgymryd â’n rhan ni o’r prosiect enfawr hwn yn llwyddiannus. Byddwn yn parhau ein partneriaeth weithio effeithiol gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn a chonsortiwm Metrix dros y misoedd nesaf, i sicrhau bod hwn yn llwyddiant mawr i Gymru ac i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ac i’w gwneud yn bosibl i luoedd arfog Prydain gael y cyfleusterau hyfforddiant technegol gorau mewn unrhyw fan yn y byd.

Gadewch i ni i gyd gymryd y cyfle heddiw i gyd-ddathlu’r ffaith bod Cymru wedi ennill y wobr enfawr hon, a bod Cymru er ei hennill oherwydd y cyhoeddiad heddiw.