Skip to content

Llafar - Y Cynllun Ail Gynnig Yn Ymddiriedolaeth Iechyd GIG Ardal Weston

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Brian Gibbons, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nid yw’n rhoi unrhyw bleser imi sôn am y mater hwn ychwaith. Sefydlwyd cynllun yr ail gynnig ym mis Ebrill 2004 i sicrhau y byddai cleifion o Gymru a allai fod wedi gorfod aros mwy na’r amser aros hwyraf yn cael eu triniaeth yn amserol. Yr oedd yn bosibl atgyfeirio cleifion i ysbyty’r GIG yng Nghymru neu yn Lloegr neu i ysbyty annibynnol. Ers cychwyn y cynllun hwn, mae bron 23,000 o driniaethau wedi cael eu cynnal drwyddo, gyda dros 8,500 o driniaethau yn cael eu cynnal gan ddarparwr amgen, megis ysbyty yn y sector annibynnol neu ysbyty arall o fewn y GIG.

Drwy archwiliadau rheolaidd o gleifion yn Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro, yn anffodus, mae problem wedi dod i’r amlwg o ran nifer fach o gleifion a anfonwyd, drwy’r cynllun, i Ymddiriedolaeth Iechyd GIG Ardal Weston am lawdriniaethau ar y pen-glin. Arweiniodd hyn at gynnal adolygiad annibynnol gan Gymdeithas Orthopedig Prydain ar ran Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf ac Ymddiriedolaeth Iechyd GIG Ardal Weston. Cafodd yr holl atgyfeiriadau am lawdriniaeth pen-glin newydd i Weston eu hatal tra’r oedd canlyniadau yr adolygiad hwn yn yr arfaeth.

Mae’r adroddiad wedi argymell y dylai pelydrau-x yr holl gleifion a anfonwyd i Weston am lawdriniaeth pen-glin o dan gynllun yr ail gynnig gael eu hadolygu. Fel mesur rhagofal, mae’r tîm ail gynnig hefyd wedi penderfynu y dylai pelydr-x pob claf a aeth i Weston i gael llawdriniaeth orthopedig o unrhyw fath gael ei adolygu. Er mai dim ond llawdriniaeth pen-glin sy’n peri pryder ar hyn o bryd, caiff pob claf a gafodd lawdriniaeth ar y cymalau yn Weston, felly, gynnig adolygiad radiolegol. Mae tua 384 o gleifion wedi cael eu hatgyfeirio am lawdriniaeth pen-glin, 157 am lawdriniaeth ar y glun, a 152 arall am driniaethau orthopedig eraill.