Skip to content

Ysgrifenedig - Cyllidebau Awdurdodau Heddlu 2007-2008

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Sue Essex, Y Gweinidog Drod Gyllid, Llywodraeth Leol A Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw, ysgrifennaf at holl awdurdodau’r heddlu i yngynghori â hwy ynghylch eu bwriadau cyllidebol ar gyfer 2007-2008.

Mewn gohebiaeth gynt ac mewn cyfarfodydd, rwyf eisioes wedi egluro fy nisgwyliadau ar gyfer anghenion cyllidebol awdurdodau’r heddlu.  Yn dilyn hyn, rwyf wedi fy nghalonogi fod twf cyllideb nifer o awdurdodau fwy neu lai yn cydymffurfio â’m disgwyliadau.  Rwyf wedi ysgrifennu at holl awdurdodau’r heddlu eto heddiw i bennu’r disgwyliadau yma mewn hyd yn oed mwy o fanylder.  Er mwyn sicrhau fod hyn yn eglur i bawb, pennaf hwy ar ffurf egwyddorion drafft dan Adran 52B o’r Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.  Amgaeaf gopi o’r drafft.


Mae’r egwyddorion drafft yma yn diffinio’r terfynau y buasai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ystyried i fod yn ormodol pe baent yn cael eu croesi.  Mae'r pwerau dan Ddeddf 1992 yn fy ngalluogi i osod yr egwyddorion yma gerbron y Cynulliad.  Unwaith y mae egwyddorion o’r fath wedi eu gwneud yn ffurfiol gan y Cynulliad, maent yn paratoi’r ffordd ar gyfer camau ffurfiol, os oes angen, i benodi neu enwebu awdurdodau heddlu sy’n pennu cyllidebau sy’n mynd yn groes i’r egwyddorion.

Er nad yw’r ddeddfwriaeth yn gofyn i mi ymgynghori, rwy’n awyddus i roi cyfle i awdurdodau fynegi eu barn er mwyn sicrhau ein bod i gyd yn deall y sail y mae’r ffigurau cyllideb ar gyfer 2006-07 a 2007-08 wedi eu diffinio.  Rwy’n siwr y bydd awdurdodau’r heddlu yn deall fy eglurhad.  Wrth baratoi’r egwyddorion yma rwyf wedi dibynnu ar ddeialog estynedig a’r cyfnewid o wybodaeth gydag awdurdodau’r heddlu, ac rwy’n ddiolchgar iddynt.  Fe fydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ganol dydd ar y 26ain o Chwefror.

Os fydd angen mynd ymhellach, ar ôl y cyfnod ymgynghori, fy mwriad i fyddai i geisio cymeradwyaeth ffurfiol o’r egwyddorion drafft gan y Cynulliad mewn Cyfarfod Llawn.  Yno, fe fydd gan Aelodau’r Cynulliad gyfle i drafod y mater.  Gan fod rhaid i awdurdodau’r heddlu, yn ôl y gyfraith, bennu eu cyllidebau erbyn y 1af o Fawrth yna, yn dilyn cymeradwyaeth ffurfiol y Cynulliad, fe fydd y Llywodraeth mewn sefyllfa i ystyried y cyllidebau hynny yn erbyn yr egwyddorion.