Skip to content

Ysgrifenedig - Blaenoriaethau Ar Gyfer Buddsoddiad Perygl Llifogydd Yn Y Dyfodol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Carwyn Jones, Gweinidog dros Yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Haf diwethaf, gofynnais i Tamsin Dunwoody AC arwain grŵp gorchwyl a gorffen gyda Huw Lewis AC i ystyried ar ba sail yr ydym yn asesu cyllid ar gyfer cynlluniau rheoli llifogydd.  Roedd hyn yn dilyn pryder bod y dull presennol yn ffafrio costau eiddo mesuradwy ar draul effaith ar bobl, ac y gallai fod yn andwyol.

Mae'r Grŵp bellach wedi cwblhau ei waith ac mae wedi gwneud tri phrif argymhelliad i sicrhau bod y dewis o gynlluniau yn y dyfodol yn canolbwyntio'n bendant ar yr effaith ar bobl.  Dyma'r argymhellion:

- yn bennaf, dylai niferoedd y bobl yr effeithir arnynt a maint yr effaith fod yn sail i asesu'r flaenoriaeth a roddir i gynlluniau;

- dylid llacio'r rheol bresennol bod yn rhaid i gynlluniau gyflawni cymhareb cost budd o un i un neu'n well er mwyn gadael i ffactorau ansoddol eraill gael eu hystyried lle y bo'n briodol;

- dylid blaenoriaethu cynlluniau yn y dyfodol gan ddefnyddio dadansoddiad newydd ag amryw feini prawf, sy'n adlewyrchu effeithiau ariannol ac anariannol.

Rwy'n fodloni iawn derbyn yr argymhellion hyn.  Rwyffelly yn gofyn i Reoli Perygl Llifogydd Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru roi'r ddau argymhelliad cyntaf ar waith ar unwaith, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion gomisiynu gwaith i lunio fframwaith syml a chadarn newydd cyn gynted â phosibl ar gyfer y meini prawf ar gyfer blaenoriaethu cynlluniau yn y dyfodol.

Mae hyn yn adlewyrchu'r dull newydd o reoli perygl llifogydd a nodwyd gennym yn Strategaeth Amgylcheddol Cymru yn gynharach eleni, ac rwy'n siwr y bydd yn cael ei groesawu gan yr amryw bobl ledled Cymru sydd mewn perygl o lifogydd.


Nodiadau:

1. Roedd y grwp gorchwyl a gorffen yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth y Cynulliad, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Rheoli Perygl Llifogydd Cymru (y corff sy’n cynghori ar y blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi).

2. Mae papurau a chofnodion y grwp ar gael ar y rhyngrwyd.

http://new.wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/water_flooding/flooding/?lang=cy